CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Anthony Mark Miller
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn gwrandawiad o bell gan Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol ISS Healthcare
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod honiad o bryderon diogelu difrifol a brofwyd yn erbyn ymddygiad Anthony Mark Miller, gweithiwr gofal cartref cofrestredig. Ar 15 Tachwedd 2022, yn Llys Ynadon Caerdydd, cafwyd Mr Miller yn euog, trwy ei gyfaddefiad ei hun, o’r drosedd ganlynol: Ymgais oedolyn i gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Mr Miller i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Mr Miller yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sy’n cael eu Dileu o’r Gofrestr.

Mae gan Mr Miller yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.

Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru