CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Canllawiau i weithwyr

Canllawiau i weithwyr a dysgwyr gwblhau'r AWIF. Yma fe welwch wybodaeth am beth yw'r AWIF, a pham ei bod yn bwysig i weithwyr a dysgwyr newydd ei chwblhau.

Sut i gwblhau

Mae gan y Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWIF) saith adran, mae gan bob adran log cynnydd a gweithlyfrau.

Gall eich rheolwr ddod o hyd i help a chyngor ar sut i'ch cefnogi chi i gwblhau'r AWIF ar ganllawiau i gyflogwyr a rheolwyr.

Yr adrannau yw:

  • Adran 1 a 2: Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol
  • Adran 3 a 4: Iechyd a lles
  • Adran 5: Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
  • Adran 6: Diogelu unigolion
  • Adran 7: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae pob adran:

  • yn nodi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu hennill yn eu cyfnod sefydlu
  • yn nodi egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol y mae'n rhaid i weithwyr eu dangos yn cynnwys y canlyniadau dysgu gwybodaeth craidd y mae pob gweithiwr yn eu gwneud
  • yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n berthnasol ar draws yr holl leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â'r rhai sy'n benodol i'w rôl a'u gweithle.

Pwy ddylai ei gwblhau?

Mae'r fframwaith hwn ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd sy'n newydd i'r sector, yn newydd i'r sefydliad neu'n newydd i swydd.

Gweithwyr sy’n newydd i’r sector

Dylai gweithwyr sy’n newydd i’r sector gwblhau’r dysgu a gynlluniwyd ar gyfer pump o’r saith adran (1, 3, 5, 6 a 7 i’r rhai sy’n gweithio gydag oedolion; a 2, 4, 5, 6 a 7 i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc).

Cynghorir y rhai sy'n gweithio gydag oedolion a phlant a phobl ifanc i gwblhau pob un o'r saith adran. Dylai pob gweithiwr newydd gwblhau'r deilliannau dysgu gwybodaeth graidd, ond mae'r elfennau ymarfer yn benodol i rôl y gweithiwr.

Er enghraifft, byddai angen i'r rhai nad ydynt yn cefnogi pobl â gofal traed gwblhau'r deilliannau gwybodaeth graidd, ond ni fydd disgwyl iddynt ddangos eu hymarfer yn y maes hwn.

Gweithwyr newydd mewn sefydliad

Ni ddylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n newydd mewn sefydliad, ond sydd â thystiolaeth eu bod wedi cyflawni cymhwyster perthnasol a/neu fframwaith sefydlu yn flaenorol orfod cwblhau’r fframwaith sefydlu cyfan.

Gall tystiolaeth achrededig (e.e. o gymhwyster) weithredu fel 'pasbort' a rhoi hyder i chi bod ymeysydd dysgu craidd eisoes wedi'u cwmpasu.

Fodd bynnag, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu cyflawni'r deilliannau, efallai y byddwch am gael trafodaethau pellach gyda'r gweithiwr. Dylid arsylwi hefyd ar sut rydych yn cymhwyso eich dysgu yn ymarferol fel rhan o'r broses sefydlu.

Rhaid i weithwyr newydd fynd drwy polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer eich gweithle neu y rôl.

Gweithwyr sy’n newydd i rôl

Dylai rheolwyr ddarganfod pa agweddau ar ddysgu mae gweithwyr newydd sydd â phrofiad blaenorol mewn sector gwahanol neu weithwyr sy'n ymgymryd â rôl newydd eisoes wedi'i gwblhau fel rhan o'u cymhwyster neu fframwaith sefydlu blaenorol.

Yna, dylid mapio hyn yn erbyn gofynion eu swydd newydd i nodi unrhyw fylchau. Mae angen rhoi cynllun gweithredu ar waith i bennu sut a phryd y mae angen cyflawni unrhyw waith dysgu ychwanegol.

Er enghraifft, byddai gweithiwr gofal cymdeithasol i oedolion sy’n symud i weithio gyda phlant a phobl ifanc angen cwblhau adrannau 2 a 4 i ychwanegu at eu dysgu.

Pam mae angen i weithwyr gwblhau cyfnod sefydlu

Gall y dyddiau a’r wythnosau cyntaf mewn swydd newydd fod yn gyffrous ac yn anodd wrth i chi ddod yn gyfarwydd a’ch swydd newydd.

Bydd cyfnod sefydlu yn eich helpu chi i:

  • ddeall eich swydd – beth sy’n ofynnol a pha gymorth y gallwch chi ei ddisgwyl
  • dod i adnabod eich amgylchedd gwaith newydd a’r wybodaeth bwysig sydd ei hangen arnoch i gyflawni’ch swydd yn dda
  • dod i adnabod eich cydweithwyr a datblygu perthynas waith dda
  • deall beth yw’r ffordd orau o gefnogi’r rhai y byddwch yn gweithio gyda nhw.

Bydd y Fframwaith Sefydlu'n eich helpu drwy:

  • nodi’n glir beth a ddisgwylir gennych chi
  • rhoi cyfle i chi ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer ymarfer ym maes iechyd a gofal cymdeithasol - yn enwedig yr egwyddorion a'r gwerthoedd sy'n sail i'r holl ofal a chymorth
  • creu tystiolaeth y gellir ei defnyddio tuag at gyflawni’r cymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer ymarfer.

Mae sefydlu’n rhan bwysig o’ch datblygiad proffesiynol a bydd yn eich helpu i setlo yn eich swydd a bod yn effeithiol yn eich gwaith. Bydd cwblhau AWIF yn eich helpu i ennill, datblygu a chryfhau’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sy’n hanfodol ar gyfer eich swydd ac ar gyfer ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol yn gyffredinol. Mae’n darparu sylfaen ar gyfer dysgu a datblygu yn y dyfodol, ac yn dangos y cynnydd rydych wedi’i wneud hyd yn hyn.

Pa gymorth sydd ar gael i weithwyr

Bydd eich rheolwr yn amlinellu’r trefniadau sefydlu. Gall hyn gynnwys cael mentor neu 'gyfaill' a fydd yn gydweithiwr mwy profiadol i gefnogi eich dysgu (e.e. eich rheolwr llinell uniongyrchol neu'ch arweinydd tîm). Byddwch yn derbyn cefnogaeth drwy oruchwyliaeth reolaidd hefyd a fydd yn eich galluogi i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu a derbyn adborth ar eich cynnydd.

Er gwybodaeth mae gennym ganllawiau i reolwyr a chyflogwyr.

Beth sydd angen i weithwyr ei wneud

Mae’n bwysig eich bod yn cymryd rhan weithredol yn y broses sefydlu er mwyn cael y gorau o’r profiad dysgu hwn.

Peidiwch ag ofni gofyn cwestiynau gan fod hyn yn helpu i wirio eich dealltwriaeth ac yn eich helpu i ddysgu. Cofiwch nad oes y fath beth a chwestiwn ‘twp’! Gan mai sefydlu cyffredinol ar gyfer gweithwyr gofal a chymorth ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yw hwn, bydd angen i’ch rheolwr gynnwys dysgu sy’n benodol i’ch sefydliad a’ch lleoliad gwaith.

Mae’r Fframwaith Sefydlu'n cynnwys llwybrau ar gyfer oedolion a phlant a phobl ifanc, felly bydd angen i chi gwblhau’r adrannau sy’n berthnasol i’ch swydd. Os ydych yn newid swydd, bydd hi’n bwysig adolygu’r adrannau rydych wedi’u cwblhau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion eich swydd newydd.

Adnoddau i'ch cefnogi chi

Gweithlyfrau

Mae gweithlyfrau wedi'u datblygu ar gyfer pob adran o AWIF er mwyn helpu i roi'r fframwaith sefydlu ar waith ac i gefnogi gweithwyr newydd i gynhyrchu peth o'r dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni rhywfaint o'r deilliannau dysgu gwybodaeth graidd yn y logiau cynnydd a pharatoi ar gyfer asesiad ffurfiol o'r Cymhwyster Craidd.

Atebion enghreifftiol

Rydym wedi datblygu rhai atebion enghreifftiol a all eich helpu i farnu a yw'r gweithiwr newydd wedi cwblhau gweithgaredd y gweithlyfr i safon foddhaol.

Cefnogaeth gan rhanbarthau yng Nghymru

Mae’r rhanbarthau yng Nghymru ar gael i’ch helpu chi i gefnogi gweithwyr i gwblhau’r AWIF.

Adnoddau dysgu

Mae yna hefyd set o adnoddau dysgu cynhwysfawr sydd wedi'u datblygu gan CBAC a City and Guilds a allai fod yn ddefnyddiol i chi fel adnodd ychwanegol.

Geirfa

Mae yna eirfa sy’n cwmpasu’r Fframwaith Sefydlu ac sy’n darparu rhai diffiniadau o’r termau a ddefnyddir. Bydd unrhyw beth sydd wedi'i farcio mewn print trwm yn y logiau cynnydd yn cael ei gynnwys yma.

Linciau i adnoddau a deddfwriaeth

Gweler adnoddau a deddfwriaeth am linciau a chyfeiriadau defnyddiol. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd. Efallai bod rhai o'r cyhoeddiadau y gofynnwn i'r gweithiwr newydd edrych arnynt wedi'u cyhoeddi naill ai gennym ni neu GIG Cymru. Oni nodir yn wahanol, bydd y rhain yr un mor berthnasol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig