CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Canllawiau i weithwyr

Canllawiau i weithwyr a dysgwyr ar gwblhau'r AWIF. Yma fe welwch wybodaeth am beth yw'r AWIF, a pham ei bod yn bwysig i weithwyr a dysgwyr newydd ei chwblhau.

Beth yw fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant (AWIF)?

Mae fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant (AWIF) yn adnodd i reolwyr asesu eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, a bydd yn eich helpu i reolwyr nodi, cofnodi a chynllunio ar gyfer eich hanghenion datblygu.

Gellir defnyddio'r AWIF fel sylfaen i ddatblygu neu wella'r broses sefydlu yn y gweithle.

Mae'r AWIF yn eich helpu rheolwr i ddarparu proses sefydlu effeithiol i chi drwy:

  • ddarparu fframwaith sy’n gallu cael ei ddefnyddio fel sail eich proses sefydlu neu er mwyn llywio rhaglen sefydlu eich lleoliad
  • darparu proses glir ac adnodd i asesu eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad, a nodi cryfderau ac hanghenion datblygu
  • helpu rheolwyr i nodi a darparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu er mwyn eich galluogi chi i wneud eich swydd yn effeithiol a diogel
  • sicrhau bod pob proses sefydlu ar draws y sector yn debyg o ran natur, gan ddarparu meincnod.

Mae'r AWIF yn eich helpu chi drwy:

  • nodi’n glir yr hyn sydd i’w ddisgwyl gennych
  • rhoi cyfle i chi i ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer ymarfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant; yn benodol, yr egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n sail i unrhyw ofal a chymorth
  • darparu cymorth ar gyfer rolau a chyfrifoldebau newydd sy'n newid drwy'r amser
  • creu tystiolaeth y gellir ei defnyddio tuag at ennill y cymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer ymarfer
  • darparu tystiolaeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy ar draws y sector.

Beth mae’r AWIF yn ei gynnwys?

Mae pum adran yn yr AWIF sy'n cyd-fynd â Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2: Craidd ac mae angen cwblhau pob adran:

  • Adran 1 – Egwyddorion a gwerthoedd
  • Adran 2 – Iechyd, llesiant, dysgu a datblygiad
  • Adran 3 – Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr y blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • Adran 4 – Diogelu plant
  • Adran 5 – Iechyd a diogelwch ym maes gofal, dysgu, datblygiad a chwarae plant.

Mae pob adran:

  • yn nodi'r egwyddorion a'r gwerthoedd ym maes y blynyddoedd cynnar a gofal plant y mae angen i chi eu harddangos
  • yn nodi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau y mae angen i chi eu hamlygu yn ystod eich cyfnod sefydlu
  • yn cynnwys cofnod cynnydd i gofnodi'r dystiolaeth a gasglwyd.

Pwy ddylai gwblhau'r fframwaith?

Waeth a ydych yn cael eich cyflogi'n llawn amser, yn rhan-amser, ar sail sesiynol neu fel gwirfoddolwr, dylai'r fframwaith gael ei gwblhau gan y canlynol:

Gweithwyr sy'n ymuno â sector

Dylai pob gweithiwr newydd gwblhau pob un o'r deilliannau dysgu gwybodaeth graidd, ond mae’r elfennau ymarfer yn benodol i swydd y gweithiwr.

Gweithwyr sy'n ymuno â sefydliad o'r newydd

Os ydych yn ymuno â sefydliad o'r newydd, ond eich bod yn gallu dangos eich bod eisoes wedi ennill cymhwyster perthnasol a/neu wedi cwblhau fframwaith sefydlu, ni fydd angen i chi gwblhau'r fframwaith cyfan.

Gall tystiolaeth achrededig (e.e. o gymhwyster) weithredu fel 'pasbort' a rhoi hyder i rheolwyr bod y meysydd dysgu craidd eisoes wedi'u cwmpasu.

Fodd bynnag, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cyflawni'r deilliannau, efallai y bydd rheolwyr am gael trafodaethau pellach gyda chi. Fel rhan o'r broses sefydlu, dylech chi gael eich arsylwi gan rheolwr i weld sut rydych chi’n cymhwyso eich dysgu yn ymarferol.

Mae'n rhaid i rheolwyr eich hysbysu chi am bolisïau a gweithdrefnau'r sefydliad yn ymwneud â'ch gweithle neu eich rôl.

Gweithwyr sy'n ymgymryd â rôl newydd neu sydd â phrofiad blaenorol mewn sector gwahanol

Dylai’r rheolwr ddarganfod pa agweddau ar ddysgu os oes gennych chi profiad blaenorol mewn sector gwahanol neu os ydych chi’n ymgymryd â rôl newydd, eisoes wedi'u cwblhau fel rhan o'ch cymhwyster neu fframwaith sefydlu blaenorol.

Dylid mapio'r dysgu yn erbyn gofynion eich swydd newydd er mwyn nodi unrhyw fylchau. Mae angen cyflwyno cynllun gweithredu yn ymwneud â sut a phryd y mae angen datblygu unrhyw ddysgu newydd i lenwi'r bylchau a nodwyd.

E.e. os yw rydych yn symud o weithio mewn clwb ar ôl ysgol i glwb cyn-ysgol.

Gweithwyr sy'n dychwelyd ar ôl seibiant gyrfa

Mae'n bwysig os rydych yn dychwelyd i'r sector yn dilyn seibiant gyrfa, megis absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb salwch hirdymor, eich bod yn cael cyfle i fyfyrio ac ailedrych ar unrhyw ddeilliannau dysgu, gan nodi unrhyw fylchau mewn gwybodaeth.

Aelod presennol o staff fel ffordd o gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

Gall fod yn fanteisiol defnyddio'r Fframwaith Sefydlu fel adnodd ar gyfer staff presennol mewn perthynas â'u DPP.

Gweithiwr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd cyn cyflogaeth

Mae’n bosib eich bod wedi eich cyflogi ac eisoes wedi cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd. Mae cynnwys y Fframwaith Sefydlu yn adlewyrchu cynnwys y cymhwyster craidd, a gallwch ddefnyddio'r dystiolaeth achrededig o'r cymhwyster fel 'pasbort' i roi hyder i rheolwyr fod y meysydd dysgu craidd eisoes wedi'u cwmpasu.

Fodd bynnag, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cyflawni'r deilliannau, efallai y byddwch am gael trafodaethau pellach gyda’r rheolwr. Fel rhan o'r broses sefydlu, dylid eich arsylwi i weld sut rydych yn cymhwyso eich dysgu yn ymarferol.

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Dylech gwblhau'r logiau cynnydd ar gyfer pob adran gyda'r gweithiwr, gan sicrhau bod tystiolaeth i ategu gwybodaeth, dealltwriaeth neu ddeilliannau ymarferol y gweithiwr.

Bydd eich rheolwr yn amlinellu’r trefniadau sefydlu. Gall hyn gynnwys cael mentor neu 'gyfaill' a fydd yn gydweithiwr mwy profiadol i gefnogi eich dysgu (e.e. eich rheolwr llinell uniongyrchol neu'ch arweinydd tîm). Byddwch yn derbyn cefnogaeth drwy oruchwyliaeth reolaidd hefyd a fydd yn eich galluogi i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu a derbyn adborth ar eich cynnydd.

Dim ond ar ôl i'r holl ddeilliannau gael eu cyflawni y dylai'r AWIF gael ei gymeradwyo gan y rheolwr.

Gall eich rheolwr ddod o hyd i help a chyngor ar sut i gefnogi cwblhau'r AWIF ar ganllawiau i reolwyr a chyflogwyr.

Adnoddau i'ch cynorthwyo

Llyfrau gwaith

Mae llyfrau gwaith wedi'u datblygu ar gyfer pob adran er mwyn helpu i gyflwyno'r Fframwaith Sefydlu a chynorthwyo gweithwyr newydd i ddarparu rhywfaint o'r dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni'r deilliannau dysgu ar gyfer gwybodaeth graidd yn y logiau cynnydd.

Adnoddau dysgu

Mae set o adnoddau dysgu cynhwysfawr wedi'u datblygu gan CBAC a City and Guilds a allai fod yn ddefnyddiol fel adnodd ychwanegol.

Geirfa

Mae geirfa ar gael sy’n cwmpasu’r Fframwaith Sefydlu ac yn darparu diffiniadau o’r termau a ddefnyddir. Bydd unrhyw beth sydd wedi'i farcio mewn print trwm yn y cofnodion cynnydd yn cael ei gynnwys.

Cysylltiadau â'r cymwysterau ymarfer

Mae deilliannau ymarfer y Fframwaith Sefydlu yn adlewyrchu cynnwys unedau gorfodol y Cymwysterau Ymarfer (Lefel 2/3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer)

Gellir defnyddio cofnodion o arsylwadau, nodiadau goruchwylio ac ati a ddefnyddiwyd ar gyfer y Fframwaith Sefydlu'n ddiweddarach fel tystiolaeth tuag at gwblhau'r Cymhwyster Ymarfer. Bydd asesydd cymwysedig yn rhoi cyngor ar yr hyn y gellir ei ddefnyddio.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig