Fel arfer, rheolwr neu arweinydd lleoliad Dechrau’n Deg fydd y “person â chyfrifoldeb” hefyd, a bydd yn rheoli’r lleoliad yn uniongyrchol. Mae’n bosibl mai dyna pwy fydd yr unigolyn cyfrifol hefyd.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Yn ofynnol o dan bolisi Llywodraeth Cymru:
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector i adolygu’r polisi yma, ac fe fydd mwy o wybodaeth yn dilyn.
-
City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Ac yn olynol a chanllawiau Llywodraeth Cymru disgwylir i arweinwyr Dechrau'n Deg gwblhau y cymhwyster ymarfer ar gyfer y rôl:
-
City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
Ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW), mae NVQ 4 yn gyfateb â Lefel 5 ar y QCF, felly dydy gofynion y lefel ddim wedi newid.