Mae’r Rhaglen Gadarnhau yn gymwys yn ystod y cyfnod tair blynedd gyntaf lle mae’r unigolyn cofrestredig yn ymarfer fel gweithiwr cymdeithasol.
Nid yw’r Rhaglen Gadarnhau yn addas i rywun sydd wedi cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol yn ddiweddar ond sydd ddim mewn rôl lle maen nhw’n cyfl awni tasgau gwaith cymdeithasol. Dim ond pan maen nhw’n cael swydd ym maes gwaith cymdeithasol ddylai gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso ddechrau’r rhaglen.
Yn yr un modd, nid oes angen i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso gofrestru â ni oni bai eu bod yn cyfl awni rôl y mae angen bod wedi cofrestru ar ei chyfer. Os bydd gweithiwr cymdeithasol yn ansicr ynglyn â’i fynediad at y rhaglen, dylai siarad â’i gyfl ogwr.
Rydyn ni wedi cyflwyno trefniadau penodol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy’n dychwelyd i ymarfer ar ôl bod oddi ar y Gofrestr am fwy na thair blynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eu gwybodaeth ynghylch yr ymarfer gwaith cymdeithasol presennol yn gyfredol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn sut i ddychwelyd i ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru: canllaw i weithwyr cymdeithasol.