CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Isafbris am alcohol yng Nghymru
Curated research

Isafbris am alcohol yng Nghymru

| Dr Wulf Livingston

Mae'r dudalen hon am isafbrisio alcohol yn rhan o fenter i helpu pobl yng Nghymru i gael gafael ar ymchwil ar bynciau sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol. Mae’r ymchwil yn cael ei ddewis neu ei ‘guradu’ gan bobl sydd â phrofiad proffesiynol o ymchwil ym maes y pwnc.

Cefndir yr ymchwilydd

Dr Wulf Livingston

Rydw i wedi bod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig ers canol y 1990au, ac yn ymchwilydd er 2010. Rwy’n cyfuno’r rolau hyn â diddordeb arbennig yn y defnydd o alcohol a chyffuriau eraill. Ar hyn o bryd, rwy’n ymchwilio i’r polisi ar bris alcohol ar ran llywodraethau Cymru a’r Alban.

Cyflwyniad

Ar 2 Mawrth 2020, daeth deddfwriaeth ar Isafbris am Alcohol i rym yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y gellir ond gwerthu unrhyw alcohol yng Nghymru am bris sydd uwchlaw 50 ceiniog yr uned. Mae gwneud alcohol yn llai fforddiadwy yn un o nifer o bolisïau sy’n anelu at leihau lefelau yfed alcohol a’r niwed sy’n gysylltiedig ag ef.

Mae digon o wybodaeth bod gormod o alcohol yn gallu arwain at niwed corfforol, seicolegol a chymdeithasol. Yn aml, mae hyn o fewn grwpiau penodol (yfwyr dibynnol, pobl sy’n cyflawni trais yn y cartref, pobl sy’n ddigartref, a phobl â phroblemau iechyd meddwl), y mae llawer ohonynt mewn cysylltiad rheolaidd ag asiantaethau gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol. Gallai cyflwyno’r polisi ar isafbris alcohol effeithio’n arbennig o andwyol ar y grwpiau hyn. Mae staff gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol ar y llinell flaen wrth ymateb i anghenion y grwpiau hyn, ynghyd â chanlyniadau ehangach yfed alcohol yn gyson. Felly, mae deall y ddeddfwriaeth ar isafbris alcohol, yr ymchwil wrth ei gwraidd, a’i heffaith, yn hanfodol i ymarfer gofal cymdeithasol Cymru.

Ystyrir mai mesurau isafbris alcohol yw un o’r polisïau mwyaf effeithiol ar gyfer lleihau lefelau yfed alcohol a chyflwynwyd y polisi mewn nifer o wledydd a gwladwriaethau ledled y byd ar ffurfiau amrywiol, yn fwyaf nodedig yn yr Alban, Kazakhstan a Rwsia; hefyd, bwriedir ei gyflwyno mewn gwledydd eraill, er enghraifft Iwerddon. Er bod y polisi wedi’i seilio ar fodelu cadarn, dim ond dechrau dod i’r amlwg y mae tystiolaeth ymchwil o’i effeithiolrwydd a’i effaith wirioneddol. Mae cyflwyno a gwerthuso’r polisi yn yr Alban a Chymru yn debygol o chwarae rhan arwyddocaol yn nealltwriaeth y byd o lwyddiant isafbris alcohol.

Newydd i'r pwnc hwn

Beth yw ystyr isafbris alcohol?

Mae unedau yn ffordd o fesur cyfaint alcohol. Cânt eu cyfrifo trwy luosi maint diod a chynnwys yr alcohol ynddo. Yna, mae’n bosibl dweud faint o unedau sydd mewn can neu botel benodol, a phennu isafbris i’w werthu am bris fesul uned. Daeth hyn i rym yng Nghymru ar 2 Mawrth 2020 a dyna’r gyfraith yn yr Alban er Mai 2018.

Nid ydym yn tueddu i feddwl ein bod ni’n prynu nac yn yfed alcohol mewn unedau, felly mae ychydig o’r wybodaeth allweddol yn cynnwys y cwestiwn mwyaf elfennol, sef sut i gyfrifo unedau o alcohol. Dyma’r enghraifft y byddai’r rhan fwyaf o bobl wedi gweldLlywodraeth Cymru yn ei darparu trwy fannau adwerthu.

Efallai mai’r adroddiad newyddion manylaf, sy’n cynnwys cryn dipyn o enghreifftiau o newidiadau i brisiau, yw’r un a ysgrifennodd Mark Smith i Wales Online, sydd i’w weld yma

Yn sgil gorfodi isafbris alcohol yng Nghymru, mae deunydd wedi bod ar gael i’r cyhoedd i gyfleu’r egwyddorion sylfaenol a’r goblygiadau. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar helpu pobl i ddeall pam mae isafbris alcohol yn cael ei ddefnyddio a beth fydd yr effeithiau tebygol.

Mae gan Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain Grŵp Diddordeb Arbennig ar gyfer alcohol a chyffuriau eraill. Maent wedi cynhyrchu amrywiaeth o ganllawiau poced rhagarweiniol ar effaith alcohol a phroblemau cyffuriau eraill, a sut i weithio gyda’r rhain. Ysgrifennwyd y canllawiau hyn yn arbennig i weithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol eraill. Mae’r rhain yn cynnwys canllaw cyffredinol, a chanllawiau’n canolbwyntio ar blant a theuluoedd, cam-drin domestig, iechyd meddwl a phobl hŷn. Mae’r canllawiau hyn yn hawdd eu defnyddio ond wedi’u seilio ar ymchwil sylfaenol.

Gwybodaeth fanylach ar y pwnc hwn

Er bod yr isafbris alcohol yn ‘fesur poblogaeth gyfan’ sy’n amcanu at effeithio ar bob diod a phob yfwr, mae ymdeimlad y bydd yn effeithio ar rai unigolion ac asiantaethau sy’n eu cefnogi yn fwy nag eraill. Mae hyn yn cynnwys gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor manylach i’r rheiny a all fod yn gweithio’n agosach yn y maes polisi hwn.

Dau o’r rhain i’w nodi yw:

  • rhanddeiliaid gofal cymdeithasol ehangach
  • er ei fod wedi’i anelu at adwerthwyr, mae’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn i’r rhai sydd eisiau dealltwriaeth well a/neu herio mythau a chamsyniadau.

Mae deall lle yfed alcohol ac, yn benodol, isafbris alcohol, yn y defnydd cyffredinol o alcohol a chyffuriau yng Nghymru i’w weld yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru 2019.

Golwg fanwl ar y pwnc hwn

Mae’r rhan fwyaf o’r ymchwil yn cymharu data o’r cyfnodau cyn ac ar ôl gweithredu’r isafbris alcohol, â gwledydd lle na chyflwynwyd yr isafbris alcohol eto. Er enghraifft, nid oes isafbris alcohol yn Lloegr ac mae ymchwilwyr yn defnyddio’r wlad at ddiben cymharu. Mae llawer o astudiaethau yn rhai hydredol, gydag ymchwil yn ailadrodd arsylwadau dros gyfnod, a dim ond nawr y mae’r rhain yn dechrau dod ar gael.

O bryder penodol i staff gofal cymdeithasol yw’r pryderon a godwyd yn ystod camau cynnar drafftio deddfwriaeth yng Nghymru ynghylch y posibilrwydd y bydd yfwyr yn troi at gyffuriau (rhatach) eraill yn hytrach. Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i’r hyn a allai ddigwydd pan fyddai’r ddeddfwriaeth ar waith. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod defnyddio cyffuriau eraill yn hytrach yn annhebygol, ac eithrio i’r bobl sydd eisoes yn defnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Yn hytrach, gallai yfwyr newid rhwng gwahanol fathau a brandiau o alcohol. Canfyddiad pwysig oedd y gallai pobl ddefnyddio arian prynu bwyd a thalu biliau’r cartref i gynnal lefelau’r alcohol roeddent yn ei yfed yn lle hynny. Mae rhai canfyddiadau cynnar o’r Alban yn adlewyrchu hyn, lle’r oedd yfwyr seidr cryf yn troi at wirodydd neu win a bod yfwyr yn torri’n ôl ar wariant hanfodol arall. Gweler yr astudiaeth ‘newid’.

Bydd yr holl adroddiadau ymchwil o 19 astudiaeth wahanol yr Alban yn cael eu cyhoeddi ar wefan alcohol Health Scotland – Measuring and Evaluating Scotland’s Alcohol Strategy (MESAS). Mae’r adroddiadau a gyhoeddwyd hyd yn hyn i’w gweld ar wefan Public Health Scotland.

Un mesur polisi yn unig ar gyfer lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig ag yfed alcohol yw gosod isafbris. Pwrpas codi’r pris yw lleihau faint sy’n cael ei yfed, trwy wneud alcohol yn llai fforddiadwy. Mae’r rhan fwyaf o strategaethau rhyngwladol a strategaethau llywodraethau yn canolbwyntio ar bedwar maes gweithgarwch: atal, lleihau niwed, triniaeth ac argaeledd. Mae gan bob un o’r rhain oblygiadau i weithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol.

Roedd cyflwyno isafbris alcohol yn argymhelliad yn y gwerthusiad diwethaf o Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru. Mae’r adolygiad cynhwysfawr hwn o bolisi yn amlinellu lle gofal cymdeithasol yn null Llywodraeth Cymru o ymateb i’r pedwar gweithgaredd allweddol.

Mae llywodraethau Cymru a’r Alban yn defnyddio dulliau gwerthuso’r Ddamcaniaeth Newid a Dadansoddi Cyfraniadau. Mae trosolwg o’r dulliau hyn ar gael ar YouTube.

Beth nesaf?

Mae pandemig Covid-19 wedi taflu cyflwyno’r isafbris alcohol yng Nghymru i’r cysgod, gyda chyfyngiadau ar symud yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ar 23 Mawrth 2020 a chyfyngiadau eraill ar yfed alcohol.. Hefyd, mae’r ymateb i’r pandemig wedi effeithio ar y gwasanaethau cymorth a ddarperir, a’r gallu i fanteisio arnynt. Er hynny, mae pris ac argaeledd alcohol yng Nghymru wedi newid ac mae yfwyr a’u teuluoedd yn teimlo’r effaith.

Wrth edrych tua’r dyfodol, gallwch ddisgwyl mwy o adroddiadau o Gymru a’r Alban. Hefyd, mae’n bosibl y gallai pris yr uned gynyddu uwchlaw 50c yn unol â chwyddiant ac os bydd y dystiolaeth yn dangos bod isafbris alcohol yn arwain at yfed llai (ac, felly, llai o niwed). Gallai hyn gynyddu’r pwysau ar grwpiau penodol y mae gofal cymdeithasol yn eu cefnogi.

Yn 2020/21, byddwn yn adrodd ar astudiaeth o’r Alban yn archwilio’r effaith ar Yfwyr Niweidiol sy’n cynnwys bron i 1,000 o gyfweliadau dros 3 blynedd. Hefyd, rydym yn dechrau gweithio ar dair astudiaeth yng Nghymru a fydd yn para tan 2024, gydag adroddiad interim i’w gyhoeddi yn 2021.

Cysylltwch â mi i gael y newyddion diweddaraf a’r negeseuon sy’n dod i’r amlwg i waith cymdeithasol a gofal cymdeithasol wrth i’r isafbris alcohol ennill ei blwyf.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.