Manylion siaradwyr, gweithdai ac aelodau'r panel am y gynhadledd dathlu gwaith cymdeithasol ar 26 Hydref.
Siaradwyr
Julie Morgan AS
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Bu Julie Morgan yn gweithio fel rheolwr a gweithiwr cymdeithasol yng Nghyngor Sir De a Gorllewin Morgannwg cyn dod yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol yn Barnardo’s. Roedd hi’n gynghorydd yng Nghyngor Sir De Morgannwg nes iddi gael ei hethol yn AS dros Ogledd Caerdydd ym 1997.
Etholwyd Julie yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd yn 2011. Cafodd Julie ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2018, a chafodd ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2021.
Delyth Lloyd Griffiths BA (Anrh), CQSW, DSW, MBA
Cefndir Delyth yw amddiffyn plant, gan weithio i awdurdodau lleol.
Mae wedi dal swyddi gyda Barnardo’s, Llywodraeth Cymru, ac roedd yn aelod o banel cwynion Llywodraeth Cymru.
Mae Delyth hefyd wedi gweithio fel uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, ac fel Asesydd Allanol ym Mhrifysgol Bangor.
Ar hyn o bryd, mae Delyth yn gweithio i Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, yng ngogledd Cymru.
Rhoda Emlyn-Jones OBE MA mewn moeseg gymdeithasol, CQSW, Dip SW
Mae Rhoda wedi gweithio yn y sectorau gwirfoddol a statudol ers y 1970au, gan helpu i ddatblygu gwasanaethau oedolion a phlant, iechyd a gofal cymdeithasol.
Enillodd hi Wobr Cymraes y Flwyddyn yn 2007 am ei chyfraniadau arloesol i ymarfer a darpariaeth effeithiol. Dyfarnwyd OBE iddi yn 2008 am wasanaethau i deuluoedd difreintiedig drwy ddylanwadu ar fodelau arfer gorau ledled y DU.
Erbyn hyn, mae hi’n gweithio’n annibynnol, gan gefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU i ddatblygu’r gweithlu’n strategol. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys meithrin sgiliau a chapasiti mewn gwasanaethau cyhoeddus i rymuso unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Sarah McCarty
Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu Gofal Cymdeithasol Cymru
Ymunodd Sarah â Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2016 a hi yw’r arweinydd gweithredol ar gyfer datblygu’r gweithlu, gwella gwasanaethau, ymchwil, data ac arloesi.
Ar ôl dechrau ei gyrfa fel gweithiwr ieuenctid, mae Sarah wedi gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau statudol a gwirfoddol, gan gefnogi cyfranogiad a chynhwysiant plant.
Mae hi wedi gweithio ym maes datblygu polisi a gwella gwasanaethau awdurdodau lleol a, chyn ei rôl bresennol, bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr partneriaeth y DU o sefydliadau’r gweithlu gofal cymdeithasol.
Mae Sarah yn dysgu Cymraeg.
Michael Gray
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Cyngor Sir Penfro
Mae gan Michael gefndir yn gweithio yn y sector elusennol, gan gefnogi pobl sy’n gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau a digartrefedd i fynd yn ôl i fyd gwaith, hyfforddiant ac addysg. Mae’n credu’n gryf bod gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau, ar ei orau, yn drawsnewidiol. Mae’n helpu i gefnogi pobl i fyw yn eu dewis le, gyda phobl maen nhw’n eu caru a rhywbeth i’w wneud.
Aaron Edwards
Rheolwr Rhaglen Teleofal Genedlaethol TEC Cymru
Tec Cymru yw’r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal wedi ei alluogi gan dechnoleg yng Nghymru, a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Mae Aaron wedi cyflawni sawl rôl yn y sector teleofal yng Nghymru, ac erbyn hyn mae’n chwarae rôl allweddol yn gweithio gyda’r 22 gwasanaeth teleofal yng Nghymru a ddarperir gan gynghorau.
Mae Aaron yn gweithio gyda gwasanaethau i ddatblygu mentrau cenedlaethol a rhoi cymorth penodol i helpu i symud gwasanaethau i lwyfannau digidol.
Amy Davies
Uwch Ymarferydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cymhwysodd Amy yn 2016 ac mae hi ei hun yn ofalwr maeth i’w hawdurdod lleol.
Mae Amy a’i gŵr wedi maethu ers 22 mlynedd, dan ddylanwad profiad Amy o dderbyn gofal fel plentyn a gweld bod angen gofalwyr maeth i ofalu’n benodol am bobl ifanc yn eu harddegau.
Mae hi’n frwd dros blant sydd â phrofiad o ofal, a gofal sy’n seiliedig ar drawma, yn enwedig ym maes maethu ac mewn ysgolion.
Panel
Abyd Quinn Aziz (Cadeirydd)
Cyfarwyddwr y Rhaglen MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae Abyd yn ddarllenydd mewn gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n cwblhau doethuriaeth broffesiynol mewn gwaith cymdeithasol. Cyn hynny, bu’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, datblygu rheolwyr ac fel gweithiwr cymdeithasol am dros 25 mlynedd. Sefydlodd Abyd y prosiectau Cynadleddau Grŵp Teulu cyntaf yn ne Cymru ar draws awdurdodau lleol a chadeiriodd gynadleddau amddiffyn plant.
Mae’n aelod o bwyllgor BASW Cymru, grŵp llywio Cynghrair Hil Cymru, yn ymddiriedolwr gyda Tros Gynnal Plant ac ar Fwrdd Rheoli Islam y DU. Mae ganddo ddiddordeb ymchwil mewn cynadleddau grŵp teuluol ac mewn gwrth-hiliaeth. Yn ddiweddar, cyd-olygodd Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru.
Rhoda Emlyn-Jones OBE MA mewn moeseg gymdeithasol, CQSW, Dip SW
Mae Rhoda wedi gweithio yn y sectorau gwirfoddol a statudol ers y 1970au, gan helpu i ddatblygu gwasanaethau oedolion a phlant, iechyd a gofal cymdeithasol.
Enillodd hi Wobr Cymraes y Flwyddyn yn 2007 am ei chyfraniadau arloesol i ymarfer a darpariaeth effeithiol. Dyfarnwyd OBE iddi yn 2008 am wasanaethau i deuluoedd difreintiedig drwy ddylanwadu ar fodelau arfer gorau ledled y DU.
Erbyn hyn, mae hi’n gweithio’n annibynnol, gan gefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU i ddatblygu’r gweithlu’n strategol. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys meithrin sgiliau a chapasiti mewn gwasanaethau cyhoeddus i rymuso unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Michael Gray
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Cyngor Sir Penfro
Mae gan Michael gefndir yn gweithio yn y sector elusennol, gan gefnogi pobl sy’n gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau a digartrefedd i fynd yn ôl i fyd gwaith, hyfforddiant ac addysg. Mae’n credu’n gryf bod gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau, ar ei orau, yn drawsnewidiol. Mae’n helpu i gefnogi pobl i fyw yn eu dewis le, gyda phobl maen nhw’n eu caru a rhywbeth i’w wneud.
Jonathan Griffiths
Jonathan yw’r Cyfarwyddwr Trawsnewid ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro.
Jonathan oedd llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022.
Mae Jonathan wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros 25 mlynedd ac mae’n angerddol dros gydweithio i hyrwyddo annibyniaeth a llesiant.
Jon Day
Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gweithlu yn Gofal Cymdeithasol Cymru
Dechreuodd gyrfa 30 mlynedd Jon ym maes iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau anabledd dysgu yn y sectorau iechyd a gwirfoddol. Ers hynny, mae wedi gweithio ym maes addysg, hyfforddiant ac adnoddau dynol, ac wedi bod yn ymgynghorydd i Anabledd Dysgu Cymru. Ar hyn o bryd mae Jon yn Gadeirydd Anabledd Dysgu Cymru.
Mark Roderick
Mae Markwedi bod yn mynychu gwasanaeth dydd New Horizons ar gyfer anableddau corfforol yn y Barri am yr wyth i ddeg mlynedd diwethaf. Yn y ganolfan, mae Mark wedi bod yn rhan o ddau brosiect llwyddiannus iawn.
Mae Mark hefyd yn arwain y panel cleientiaid yng Ngwasanaeth Dydd New Horizons. Mae’r panel yn cynrychioli anghenion cleientiaid yn y ganolfan ac yn y gymuned ehangach.
Sarah Jane Waters
Mae Sarah wedi bod yn ymwneud â chyd-gynhyrchu addysg gwaith cymdeithasol yng Nghymru ers sawl blwyddyn. Mae hi wedi cyfrannu at sawl prosiect ymchwil ac mae ganddi bennod sy’n trafod cyd-gynhyrchu ym maes addysg gwaith cymdeithasol yn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Sarah yn aelod o Bwyllgor Sefydlog Cenedlaethol BASW Cymru, ac mae’n aelod o grŵp Arbenigwyr yn ôl Profiad BASW. Hi hefyd yw cadeirydd grŵp cyd-gynhyrchu MASW Prifysgol Caerdydd a grŵp gwaith cymdeithasol israddedig Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Amy Davies
Uwch Ymarferydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cymhwysodd Amy yn 2016 ac mae hi ei hun yn ofalwr maeth i’w hawdurdod lleol.
Mae Amy a’i gŵr wedi maethu ers 22 mlynedd, dan ddylanwad profiad Amy o dderbyn gofal fel plentyn a gweld bod angen gofalwyr maeth i ofalu’n benodol am bobl ifanc yn eu harddegau.
Mae hi’n frwd dros blant sydd â phrofiad o ofal, a gofal sy’n seiliedig ar drawma, yn enwedig ym maes maethu ac mewn ysgolion.
Samantha Baron
Athro Emeritws mewn Gwaith Cymdeithasol
Bydd Samantha yn ymgymryd â swydd newydd Cyfarwyddwr Cenedlaethol BASW (Cymru) ym mis Hydref.
Mae gan Sam brofiad sylweddol fel gweithiwr cymdeithasol ar ôl cymhwyso bron i 40 mlynedd yn ôl. I ddechrau mi fu Samantha yn ymarfer o fewn y system cyfiawnder troseddol yn Lloegr, cyn gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl statudol fel Pennaeth Gwasanaeth.
Yn ddiweddarach daeth yn Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion a'r Brifysgol Agored. Fel Athro, cynghorodd Sam y rheoleiddiwr gwaith cymdeithasol, Whitehall a San Steffan, ar bolisi ac ymarfer gwaith cymdeithasol. Hi yw awdur “DHSC Practice Framework for Strengths-Based Practice”.
Gweithdai
Datblygu dulliau sy’n seiliedig ar drawma ar gyfer cefnogi llesiant staff
Bydd y gweithdy hwn yn rhannu profiadau a dysgu o ddatblygu dulliau sy’n seiliedig ar drawma o gefnogi lles staff yng ngwasanaethau plant awdurdodau lleol Powys. Yn y sesiwn, byddwch yn cael rhannu eich profiadau, eich myfyrdodau a’ch ymarfer eich hun.
Am y cyflwynwyr
Rrob Painter
Cyn cael ei hyfforddi fel Seicolegydd Clinigol, bu Rob yn gweithio yn y GIG ac yn y sector anstatudol gyda phobl ifanc agored i niwed sydd ag anghenion cymhleth, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, materion iechyd meddwl ac ymddygiad troseddol. Mae Rob hefyd wedi gweithio gyda phlant sy’n derbyn gofal sydd ag anghenion cymhleth ac ymddygiadau heriol, sydd mewn perygl o gael lleoliadau preswyl y tu allan i’r sir.
Mae Rob wedi’i leoli yn y Gwasanaethau Plant gyda rôl benodol i gefnogi ymarferwyr, timau a gofalwyr o ran eu gwaith yn cefnogi plant a theuluoedd.
Claire Phillips
Dechreuodd gyrfa 24-mlynedd Claire mewn timau plant a theuluoedd. Symudodd i faes maethu am saith mlynedd ac, ers tair blynedd ar ddeg, mae wedi gweithio ym maes ymarfer mabwysiadu. Mae Claire yn teimlo ei bod yn fraint gweithio ym maes mabwysiadu ac ymarfer drwy lens sy’n ystyriol o drawma. Ers bod mewn rôl reoli, mae Claire wedi cael ei denu at faes straen trawmatig ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a staff, a datblygu strategaethau sy’n ymateb yn dosturiol i straen trawmatig.
Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS), 13 mlynedd o Fyfyrio ac Adfywio: taith y cryfderau mewnol
Cafodd y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ei greu 13 mlynedd yn ôl ac mae’n ddull gweithredu cyflawn sy’n edrych ar adeiladu cryfderau mewnol teuluoedd er mwyn gallu ymgymryd â’r heriau sy’n gysylltiedig â newid. Mae’r gweithdy’n cyflwyno llais cyfunol ymarferwyr o bob cwr o Gymru a lleisiau’r rheini sydd wedi gweithio gyda ni.
Pwy ydw i?
Bydd y sesiwn yn ffocysu ar bwysigrwydd hunaniaeth iaith a sut mae hyn yn cysylltu ag ymarfer gwaith cymdeithasol. Bydd cyflwyniad synhwyraidd (lluniau a cherddoriaeth) yn cael ei ddefnyddio i rannu safbwyntiau a phrofiadau o ddefnyddio’r iaith Gymraeg, byw yng Nghymru ac ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
Gwaith cymdeithasol a hunan-eiriolaeth i oedolion ag anableddau dysgu
Cyflwynir gan Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
Bydd Geraint, unigolyn sydd â phrofiad byw, yn cyfweld gweithiwr cymdeithasol a pherson ag anableddau dysgu ynghylch sut maen nhw o fudd i’w gilydd, ac yna bydd sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa. Bydd y sesiwn yn dod i ben gyda chwis hwyliog sy’n canolbwyntio ar y gwahanol fathau o eiriolaeth a’u manteision i weithwyr cymdeithasol a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Gwybodaeth am y cyflwynwyr
Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yw llais unedig grwpiau hunan-eiriolaeth ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae’n wasanaeth ataliol gyda chyd-gynhyrchu wrth ei wraidd. Mae’n creu datrysiadau arloesol i bobl ag anableddau dysgu gael dweud eu dweud am benderfyniadau, yn unigol ac ar y cyd.
Compendiwm Ymarfer Da Gofal Cymdeithasol: dysgu o arloesi a ffyrdd newydd o weithio yn ystod pandemig Covid-19
Comisiynwyd ADSS Cymru gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i arloesedd ym maes gofal cymdeithasol yn ystod Covid-19. Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar yr hyn a welsant, gan gynnwys y gwaith a gyflawnwyd gan ymarferwyr, yn ystod y cyfnod hwn.
Gwybodaeth am y cyflwynydd
Mae Sarah yn arweinydd naturiol ac empathig sy'n ymdrechu i weithio gydag eraill i gyflawni newid cadarnhaol.
Mae hi wedi arwain prosiectau ar gyfer llywodraethau cenedlaethol a lleol a sefydliadau trydydd sector yng Nghymru. Mae’n ceisio gweithio gyda phobl sy’n arbenigo ym maes cymorth, er mwyn iddynt gael llais wrth ddatblygu polisïau a gwella gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd.
Y Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol cyntaf ar gyfer Gwasanaethau Plant yng Nghymru
Cyflwynir gan Anthony Douglas CBE a Jonathan Griffiths, Cyfarwyddwr Trawsnewid ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn Llywodraeth Cymru
Bydd y gweithdy hwn yn mynd drwy’r fframwaith, ei egwyddorion a’r safonau drafft. Byddwch yn cael cyfle i roi sylwadau ac adborth ar y gwaith sydd ar y gweill.
Gwybodaeth am y cyflwynwyr
Anthony Douglas oedd Prif Weithredwr Cafcass Cymru rhwng 2004 a 2019. O dan ei arweinyddiaeth, aeth sgôr Ofsted Cafcass Cymru o 'annigonol' i 'rhagorol', a thyfodd i gefnogi 140,000 o blant y flwyddyn.
Mae Anthony wedi ysgrifennu sawl llyfr am ofal cymdeithasol. Yn 2018, derbyniodd y wobr ‘cyfraniad eithriadol at waith cymdeithasol’ yng Ngwobrau Gweithiwr Cymdeithasol y Flwyddyn.
Mae bellach yn gweithio ar draws y DU ac yn rhyngwladol ar arweinyddiaeth systemau a rhaglenni gwella cyflym. Ar hyn o bryd mae’n datblygu ac yn ysgrifennu’r Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru fel cynnyrch hanfodol yn y Rhaglen gyffredinol ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Plant.
Jonathan Griffiths
Jonathan yw’r Cyfarwyddwr Trawsnewid ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro.
Jonathan oedd llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru rhwng mis Ebrill 2021 a mis Rhagfyr 2022.
Mae Jonathan wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros 25 mlynedd ac mae’n angerddol dros gydweithio i hyrwyddo annibyniaeth a llesiant.
Gwasanaeth Llesiant Sir Gaerfyrddin: dull cynhwysol
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gyflwyno gan ymarferwyr o wasanaeth llesiant Sir Gaerfyrddin, a bydd yn canolbwyntio ar stori unigolyn sydd â phrofiad uniongyrchol o ymwneud â’r gwasanaeth.
Gwybodaeth am y cyflwynwyr
Mae’r gwasanaeth llesiant hwn yn darparu dull cynhwysol o ddarparu cymorth iechyd meddwl sy’n defnyddio dull ataliol sy’n seiliedig ar gryfderau, gyda’r nod o wella gwytnwch ac iechyd meddwl oedolion ar draws Llanelli a Rhydaman.
Darperir y gwasanaeth yn bennaf gan Sian (Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol), Josie (Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol) ac Andrew (Gweithiwr Cymdeithasol), gyda chefnogaeth y tîm gwaith cymdeithasol ehangach. Gyda’i gilydd, mae ganddynt brofiad o weithio gyda phlant, oedolion a theuluoedd ar draws ystod eang o leoliadau gofal cymdeithasol.
Llais plant a phobl ifanc mewn achosion cyfraith teulu preifat a chyhoeddus yng Nghymru
Cyflwynir gan Laura Scale a Beth Altman, Cafcass Cymru
Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar achosion cyfraith teulu preifat a chyhoeddus yng Nghymru. Byddwch yn cael cyfle i drafod sut mae lleisiau plant yn cael eu clywed mewn achosion, a dysgu am ddulliau datrys problemau o ymdrin â chyfiawnder teulu.
Gwybodaeth am y cyflwynwyr
Mae Laura wedi bod yn weithiwr cymdeithasol ers 24 mlynedd ac mae hi wastad wedi gweithio gyda phlant a’u teuluoedd yng Nghymru.
Mae Laura yn aelod o’r gweithgor cyfraith cyhoeddus. Yn ei hamser hamdden mae hi’n hoffi gwneud unrhyw beth sy’n gysylltiedig â’r awyr agored ac yn treulio cymaint o amser ag y gall yn y môr.
Beth Altman yw Pennaeth Gweithrediadau Cafcass Cymru Gwent ac mae’n arweinydd strategol ar gyfer diogelu a cham-drin domestig.
Mae Beth wedi bod yn weithiwr cymdeithasol ers 23 mlynedd ym maes diogelu plant a theuluoedd o fewn gwaith cymdeithasol statudol, yng Nghymru. Ymunodd â Cafcass Cymru fel Cynghorydd Llys Teulu yn 2009. Y tu allan i’r gwaith, mae Beth yn mwynhau’r awyr agored, gan dreulio cymaint o amser yn archwilio Cymru â phosibl.
Pwysigrwydd eirioliaeth gan gyfoedion a'r berthynas rhwng gweithwyr cymdeithasol a rhieni
Cyflwynir gan Rwydwaith Eiriolaeth Rhieni
Bydd y gweithdy hwn a gyflwynir gan rieni a gweithwyr cymdeithasol yn ymdrin â hanes PAN a chyfranogiad gwaith cymdeithasol yn natblygiad y rhwydwaith. Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn canolbwyntio ar bwysigrwydd ymarfer gwaith cymdeithasol seiliedig ar berthynas a gwerth eiriolaeth rhieni cyfoedion.
Cynllunio ymlaen llaw: gwerth trafod marwolaeth a marw mewn gwaith cymdeithasol
Bydd y gweithdy sgwrsio hwn yn canolbwyntio ar ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau mewn gofal diwedd oes. Bydd yn ystyried dilemâu moesegol mewn ymarfer gwaith cymdeithasol ac yn canolbwyntio ar gael sgyrsiau ‘anodd’ am farwolaeth a marw.
Gwybodaeth am y cyflwynydd
Cymhwysodd Jonathan, sy’n gweithio ym maes addysg ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, fel gweithiwr cymdeithasol ym 1999, ac mae wedi gweithio ym maes iechyd meddwl a gofal lliniarol. Mae ei feysydd diddordeb yn cynnwys lles (mae’n hyfforddwr cymwysedig) a gwaith lliniarol sy’n cynnwys darparu gwasanaethau yn uniongyrchol, goruchwylio, hyfforddi ac addysg. Mae’n teimlo’n angerddol am greu cyfleoedd i ddatblygu hyder, cymhwysedd a gwerth sgyrsiau am farw, marwolaeth a galar.
Arweinyddiaeth dosturiol a pham ei fod yn bwysig
Bydd Rebecca Cicero (Gofal Cymdeithasol Cymru) a Taryn Stevens yn cyflwyno gweithdy sy'n canolbwyntio ar arweinyddiaeth dosturiol, a pham ei fod yn bwysig.