CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Canlyniad: Gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n denu, recriwtio a chadw pobl â'r gwerthoedd cywir i ddiwallu anghenion y rhai sydd angen gofal a chymorth

Trosolwg o’n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn ystod 2021 i 2022.

Pam ei fod yn bwysig?

Mae poblogaeth Cymru yn cynyddu, gan gynnwys canran y bobl hŷn, y gallai fod angen gofal a chymorth arnynt.

Bydd hyn yn cynyddu'r angen am weithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar medrus.

Rydym eisoes yn profi prinder mewn llawer o alwedigaethau a grwpiau proffesiynol mewn sawl gwasanaeth a lleoliad.

Mae angen i ni gynyddu ein hymdrechion o ran sut rydym yn marchnata a hyrwyddo amrywiaeth a nifer y rolau, ac felly'r cyfleoedd, sydd ar gael ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol.

Ein heffaith

Rydyn ni wedi datblygu ein hymgyrch genedlaethol a’n porth swyddi ymhellach, sy’n cael ei werthfawrogi a’i ddefnyddio gan fwy o ddarparwyr.

Drwy gydol y flwyddyn rydyn ni wedi bod yn defnyddio ac yn adeiladu ar frand Gofalwn Cymru i gefnogi denu a recriwtio i’r sector yn ystod y cyfnod hwn.

Fe wnaethom ddatblygu porth swyddi Gofalwn Cymru mewn ymateb i'r pandemig. Roedden ni eisiau ei gwneud yn haws i gyflogwyr hysbysebu eu swyddi gwag ac i bobl allu gweld y swyddi gwag sydd ar gael yn eu hardal.

Mae datblygiad pellach o'r porth wedi bod yn mynd rhagddo trwy gydol y flwyddyn. Mae ymgyrch yn canolbwyntio ar hysbysebu'r porth swyddi gyda hysbysebion teledu, radio a sinema.

Effaith

Roedd ffocws yr ymgyrchoedd ym mis Chwefror yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o brentisiaethau ar draws gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar.

Roedd mwy na:

  • 300,000 o ymwelwyr i wefan Gofalwn Cymru
  • 6,200 o swyddi wedi'u postio ar y porth swyddi
  • 30,000 o ymgysylltiadau ar gyfryngau cymdeithasol
  • 50 o ffilmiau gyda dros dau filiwn wedi gwylio ffilmiau ITV Cymru, S4C, Sky, darllediadau All4

Er bod niferoedd ymgysylltu a chyrhaeddiad yr ymgyrch Gofalwn a mentrau eraill a gynhaliwyd i gefnogi recriwtio a chadw wedi bod yn gadarnhaol, mae'n anodd iawn gweld effaith y gwaith hwn o fewn y sector yn y tymor byr.

Mae natur gystadleuol bresennol y farchnad swyddi yn creu heriau ar draws pob sector. Bydd angen ystyried effaith lawn y rhaglen dros y ddwy flynedd nesaf tra'n cymryd i ystyriaeth ffactorau eraill megis telerau ac amodau, sydd y tu hwnt i'n rheolaeth.

Nid oes gennym ddata cywir ar nifer y bobl sy’n gadael y sector, er ein bod yn gwybod bod llawer o ddarparwyr yn ei chael yn fwyfwy heriol recriwtio a chadw eu staff.

Mae swyddi gwag yn golygu bod y rhai sy'n dal i weithio yn wynebu mwy o alwadau ac mae effaith uniongyrchol hefyd ar ofal pobl.

Mae adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn amlygu materion staffio sy'n ymwneud â darpariaeth gwasanaeth o ansawdd gwael. Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda nhw i ddod o hyd i atebion i ddarparwyr cymorth.

Tudalen nesaf

Gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n ymgorffori ac yn darparu dulliau gofal a chymorth sy'n seiliedig ar gryfderau