CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cymru Iachach – Strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Mae ein hadroddiad blynyddol yn crynhoi'r prif feysydd cynnydd a gyflawnwyd yn yr ail flwyddyn lawn o’r strategaeth.

Adroddiad blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru 2022 i 2023

Ym mis Hydref 2020, law yn llaw ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AAGIC) fe wnaethom lansio ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i gyd-fynd â gweithredu Cymru Iachach.

2022 i 2023 oedd ein hail flwyddyn lawn yn cyflawni’r strategaeth a bu’n gyfnod heriol o hyd i’r sector. Roeddem bellach mewn cyfnod newydd o’r pandemig lle welsom ymhen amser y cyfyngiadau’n cael eu llacio, ond ar yr un pryd roeddem yn wynebu argyfwng costau byw ac effeithiau Brexit a arweiniodd at broblemau dybryd gyda recriwtio a chadw staff.

Mae’r sector iechyd a’r sector gofal cymdeithasol yn dal i deimlo effeithiau pandemig Covid-19 a bydd yn dal i gael effaith barhaol am flynyddoedd lawer. Mewn ymateb, byddwn yn dal i roi ar waith y gefnogaeth y mae ar y gweithlu a chyflogwyr ei hangen, drwy weithio’n gyflym i weithredu’r ymrwymiadau a gaiff eu datgan yn y strategaeth.

Cynnydd er gwaetha’r anawsterau

Er gwaethaf heriau sylweddol y tair blynedd diwethaf, rydyn ni wedi llwyddo i wneud cynnydd ac mae angen inni ddathlu hyn a’r gwelliannau a wnaed i’r sector. Ond, mae gofal cymdeithasol yn wynebu heriau mawr yn y gweithlu ac mae’n anodd denu pobl i mewn i’r sector, recriwtio digon o staff, a chadw’r gweithlu presennol.

Telerau ac amodau

Wrth wneud gwaith ymgysylltu ac ymgynghori ar y camau gweithredu diwygiedig ar gyfer strategaeth y gweithlu, yr hyn a glywsom drosodd a drosodd oedd bod angen gwella’r telerau ac amodau. Mae hyn yn cynnwys cyflogau a thelerau ac amodau ehangach, megis trefniadau gweithio hyblyg, polisïau cyson ar gyfer meysydd megis teithio, hyfforddiant, salwch ac absenoldeb mamolaeth.

Dywedodd y bobl y buom yn siarad â nhw eu bod am i statws y sector wella ac iddo gael yr un parch â’r sector iechyd. Mae gofyn cael llais ar y cyd ar bob lefel ar hyn. Mae’n bosibl y bydd angen edrych ar gyflogau a thelerau ac amodau ehangach yn unigol, ond mae angen gweithredu’n gyflym. Mae’r gofyn am roi’r un parch i’r gweithlu iechyd a’r gweithlu gofal cymdeithasol yn gysylltiedig â hyn ac mae gwaith i’w wneud i roi sylw i rai o’r heriau.

Llesiant y gweithlu

Rhaid inni warchod llesiant a diogelwch y gweithlu a chanolbwyntio mwy ar amrywiaeth. Bydd creu a datblygu dull tosturiol o arwain yn helpu, gan fod hynny’n creu diwylliant cynhwysol ac amrywiol sy’n adlewyrchu ein cymunedau lleol. Mae llesiant staff yn holl bwysig, a dylai pob aelod o’r gymuned gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.

Ein themâu a’n gweithredoedd

Mae llinynnau euraidd llesiant, y Gymraeg a chynhwysiant yn rhedeg drwy ein holl themâu a’n holl weithredoedd. Maen nhw’n dal i chwarae rhan hanfodol yn y newid diwylliant y mae arnom ei angen er mwyn darparu gwasanaethau modern a holl bwysig i bobl Cymru.

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r prif feysydd cynnydd a gyflawnwyd yn ystod 2022 i 2023 yn ein rhaglenni gwaith, a hefyd yn ein gwaith mewn partneriaeth ag AaGIC.

Mae’r strategaeth gweithlu yn darparu camau gweithredu ar draws pob gwasanaeth a lleoliad, ond mae’r adroddiad hwn hefyd yn crybwyll yn benodol y gweithgareddau a’r cynnydd yn erbyn y cynlluniau gweithlu rydyn ni wedi’u datblygu ers inni lansio’r strategaeth ym mis Hydref 2020.

Sef:

Fe wnaethon ni’r cynnydd hwn ar yr un pryd ag y dechreuom ystyried y cam nesaf yn y broses o weithredu’r strategaeth, o 2023 ymlaen. Rydyn ni wedi gwneud llawer iawn o ymgysylltu er mwyn llunio camau gweithredu a chynnwys y cam nesaf yn y broses weithredu, a byddwn ni’n cyhoeddi cynllun cyflawni newydd ym mis Hydref 2023. Mae hyn yn cyd-fynd â’n cyfnod adolygu ffurfiol, fel yr addawyd yn y strategaeth wreiddiol.

Ein cynnydd yn 2022 i 2023

Gweithlu ymgysylltiol, llawn cymhelliant ac iach

Denu a recriwtio

Modelau gweithio di-dor

Creu gweithlu sy’n ddigidol-barod

Addysg a hyfforddiant rhagorol

Arweinyddiaeth ac olyniaeth

Cyflenwad a siâp y gweithlu

Gwaith o’n blaenau

Nid yw’r meysydd gwaith canlynol wedi dechrau eto. Mae hyn am amrywiol resymau gan gynnwys diffyg capasiti naill ai yng Ngofal Cymdeithasol Cymru neu yn y sector ei hun oherwydd swyddi gwag. Gwelwyd hefyd newidiadau yng nghyfeiriad polisïau, megis o safbwynt y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid.

Cynllun y gweithlu gwaith cymdeithasol:

  • rhannu arferion da o safbwynt cynnig cefnogaeth gyffredinol i weithwyr cymdeithasol, megis goruchwylio a chefnogi cymheiriaid a sesiynau ôl-drafod
  • datblygu rôl llysgenhadon gwaith cymdeithasol
  • datblygu ‘Fframwaith galluoedd digidol gwaith cymdeithasol’
  • comisiynu elfen sgiliau digidol ddiwygiedig o’r cwricwlwm gwaith cymdeithasol ar gyfer pob rhaglen i is-raddedigion
  • lansio ein fframwaith ôl-gymhwyso newydd ar gyfer gwaith cymdeithasol
  • cyflwyno fframwaith dysgu a datblygu i gefnogi’r trefniadau ar gyfer gweithredu’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid a fydd yn disodli’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
  • adolygu ein dull a’n proses ar gyfer cofnodi datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
  • dylunio fframwaith priodweddau arweinyddiaeth
  • datblygu rhaglen arweinyddiaeth ar gyfer darpar gydweithwyr o grwpiau lleiafrifol
  • dadansoddi’r porth swyddi a’i ddata i edrych ar y galw a chyflenwad y gweithlu ac yn adolygu ein hagwedd at gynllunio’r gweithlu.

Cynllun gweithlu gofal uniongyrchol:

  • datblygu adnoddau ar gyfer rheolwyr er mwyn dechrau asesu i ba raddau y maen nhw’n bodloni’r ymrwymiadau llesiant yn y gwaith sy’n rhan annatod o’r fframwaith iechyd a llesiant
  • datblygu adnoddau sy’n dangos yn glir y llwybrau gyrfa sydd ar gael i’r holl staff yn y gweithlu gofal uniongyrchol
  • datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu a datblygu er mwyn rhoi’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ar waith
  • datblygu adnoddau sy’n benodol i ofal cymdeithasol er mwyn i ragor o bobl feithrin sgiliau hanfodol mewn cyfathrebu a chymhwyso rhifau.
  • adolygu sut rydyn ni’n cefnogi pobl gofrestredig i gofnodi eu DPP yn hawdd, ac mewn ffordd hygyrch.

Casgliadau

Cafodd y pandemig effaith hirbarhaol ar y sector iechyd a’r sector gofal cymdeithasol. Fe wnaeth fwrw goleuni ar yr heriau a fodolai cyn y pandemig a chreodd heriau newydd wrth inni ddal i ymdrechu i ddod allan ar yr ochr draw.

Ein nod yw cyflawni uchelgais y strategaeth 10 mlynedd, ond rydyn ni’n cydnabod bod angen gwneud rhagor i roi cynlluniau tymor hwy ar waith i fodloni’r dyheadau hyn. Byddwn ni’n dal i gefnogi gwaith cydweithredol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, rhwng sefydliadau lleol a chyrff cenedlaethol sy’n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol.

Mae’r gwaith a wnaed ers lansio’r strategaeth, sy’n gysylltiedig â’i saith thema allweddol a’i llinynnau euraidd sylfaenol, wedi caniatáu inni godi momentwm y gallwn adeiladu arno i’r dyfodol, yn unol â’n nodau hirdymor. Mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i fodloni’r heriau a’r cyfleodd y bydd 2023 i 2024 a thu hwnt yn dwyn yn eu sgil.

Rydyn ni wedi ymgynghori ar gam cyflawni’r tair blynedd nesaf, sy’n gysylltiedig ag uchelgeisiau strategaeth y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Caiff hon ei chyhoeddi ym mis Hydref 2023 a bydd yn darparu set glir o gamau gweithredu er mwyn inni allu dal i gefnogi’r gweithlu ac adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes.

Gofal Cymdeithasol Cymru, Medi 2023