CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
​Gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n gofalu

Trosolwg

Mae tua 30,000 o ofalwyr o dan 25 oed yng Nghymru. Mae gofalwr yn rhywun sy’n darparu neu yn bwriadu darparu gofal ar gyfer oedolyn neu blentyn anabl. Yn ôl cyfrifiad 2011, mae gan Gymru'r gyfran fwyaf o ofalwyr dan 18 oed yn y DU.

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dod â newidiadau sylweddol i hawliau gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n gofalu. Mae’r adnoddau hyn, a ddatblygwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn amlinellu sut mae’r Ddeddf yn berthnasol i'r gofalwyr hyn, a beth mae’n ei olygu ar gyfer canfod, asesu a chefnogi nhw.

Mae’r adnoddau isod hefyd yn cynnwys fideos o ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n gofalu yn rhannu eu profiadau ac yn siarad am yr heriau maent wedi eu hwynebu a beth fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’w bywydau.