CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Hawliau dynol ac urddas

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau, urddas ac annibyniaeth pobl sy’n byw gyda dementia.

Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia

Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia wedi mabwysiadu egwyddorion y datganiadau dementia isod:

  • Mae gennym yr hawl i gael ein hadnabod am bwy ydyn ni, i wneud dewisiadau am ein bywydau gan gynnwys cymryd risgiau, a gallu cyfrannu at gymdeithas. Ni ddylai ein diagnosis ein diffinio ni, ac ni ddylem fod â chywilydd ohono
  • Mae gennym hawl i barhau â bywyd o ddydd i ddydd a bywyd teuluol, heb ragfarn neu gost annheg, i gael ein derbyn a’n cynnwys yn ein cymunedau a pheidio â byw mewn unigedd neu unigrwydd
  • Mae gennym hawl i gael diagnosis cynnar a chywir, a derbyn gofal a thriniaeth ar sail tystiolaeth, sy’n briodol, tosturiol ac wedi ei hariannu’n iawn, gan bobl sydd wedi eu hyfforddi ac sy’n ein deall ni ac yn deall sut mae dementia’n effeithio arnon ni. Rhaid i hyn ateb ein gofynion, ble bynnag yr ydym yn byw
  • Mae gennym hawl i gael ein parchu, a’n cydnabod fel partneriaid mewn gofal, i gael addysg, cymorth, gwasanaethau a hyfforddiant sy’n ein galluogi i gynllunio a gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r dyfodol
  • Mae gennym hawl i wybod am ymchwil sy’n edrych ar achos, gwelliant a gofal dementia a phenderfynu a ydym eisiau bod yn rhan ohono a chael ein cynorthwyo i gymryd rhan.

Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru

Bydd Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2014) hefyd yn amddiffyn ac yn gwella hawliau pobl hŷn ledled Cymru ac yn herio rhagfarn drwy’r egwyddorion canlynol.

  • Mae hawl gennyf i ddiogelwch a chyfiawnder
  • Mae hawl gennyf i fod yn fi fy hun
  • Mae hawl gennyf benderfynu ble rwy’n byw, sut rwy’n byw a chyda phwy rwy’n byw
  • Mae gennyf i ewyllys rhydd a’r hawl i wneud penderfyniadau am fy mywyd
  • Mae hawl gennyf weithio, datblygu, cymryd rhan a chyfrannu
  • Mae hawl gennyf i gael fy mharchu

Astudiaethau achos am hawliau dynol ac urddas ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf: 16 Hydref 2018
Diweddariad olaf: 10 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (30.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch