CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Eiriolaeth mewn gofal dementia

Diben eiriolaeth yw ceisio sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed, eu bod yn mynegi eu dymuniadau ac yn diogelu eu hawliau.

Beth yw eiriolaeth yng ngofal dementia?

Mae sicrhau bod llais yr unigolyn yn parhau yn ganolbwynt i unrhyw weithredu neu benderfyniadau wrth wraidd cymorth a gofal sy’n seiliedig ar hawliau ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn – Cynllun Gweithredu Dementia ar gyfer Cymru

Trwy gydol profiad byw person o ddementia, bydd y math o gymorth y gallai fod ei angen arnyn nhw i fynegi eu barn, gwneud penderfyniadau a chael mynediad i hawliau amrywio.

Cydnabyddir bod y term “eiriolaeth” yn gallu cael ei ddefnyddio i olygu pethau gwahanol i wahanol bobl.

I rai, gellir ystyried gweithredu fel “eiriolwr” yn rhan o gyfeillgarwch neu berthynas deuluol â’r person neu gall olygu rôl gweithiwr cymorth mwy cyffredinol.

I eraill, rhan o’u rôl broffesiynol fydd bod yn eiriolwr i’r bobl y maent yn eu cynorthwyo.

Mewn rhai sefyllfaoedd, ni ellir ond ymgymryd â rôl eiriolwr gan berson sy’n hollol annibynnol i amgylchiadau personol y person ac unrhyw benderfyniadau neu weithrediadau sydd angen eu cymryd. Yr enw ar hwn yw ‘eiriolwr annibynnol’.

Weithiau bydd angen cynnwys eiriolwr yn ôl y gyfraith ac mae meysydd penodol neu arbenigol o eiriolaeth, a ymgymerir gan eiriolwyr annibynnol arbenigol.

Ar wahân i pan fydd angen penodi eiriolwr yn gyfreithiol, nid bwriad y cynllun hwn yw rhagodi’r math o eiriolwr neu ddarparwr eiriolaeth ar wahanol gamau.

Fodd bynnag, dylid cydnabod gwerth posibl rôl eiriolwr annibynnol fel “llais y dinesydd” ar bob cam o brofiad byw person o ddementia, a dylid ei egluro a’i gynnig fel ymagwedd ar sail hawliau tuag at gyflwyno gwasanaeth.

Eiriolwyr galluedd meddyliol annibynnol

Cyflwynodd Deddf Galluedd Meddyliol 2005 rôl yr eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol (IMCA).

Mae IMCAs yn ddiogelwch cyfreithiol i bobl sy’n ddiffygiol o ran y galluedd i wneud penderfyniadau pwysig penodol.

Mae IMCAs yn cael eu gorchymyn yn bennaf i gynrychioli pobl pan nad oes un llais annibynnol, y tu hwnt i wasanaethau gofal, fel aelod o’r teulu neu ffrind, sy’n gallu cynrychioli’r unigolyn.

Mae Côd Ymarfer ar Eiriolaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) yn dweud y dylai awdurdodau lleol enwi pobl allai fod angen pobl eraill i wneud penderfyniadau ar eu rhan mor gynnar â phosibl yn y broses, rhag ofn bod angen eiriolwr arall.

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.