CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Budd-daliadau a hawliau ariannol

Os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddementia mewn oed gweithio, efallai eu bod wedi gorfod rhoi’r gorau i’w gwaith cyflogedig.

Cymorth ariannol i bobl sy'n byw gyda dementia

Mae cymorth ariannol ar gael i nifer ond gall deall beth sydd ar gael fod yn ddryslyd.

Gall yr elusen Age Cymru ddarparu gwybodaeth a chyngor am faterion ariannol (Saesneg yn unig). Mae llinell gymorth 0800 223 444 ar gael ac mae swyddfeydd lleol y gellir dod o hyd iddyn nhw ar eu gwefan.

Mae Llwybrau trwy Ddementia yn helpu pobl i ddatrys trefn gyfreithiol y siwrnai drwy ddementia, fel talu am ofal, rheoli arian a budd-daliadau lles (Saesneg yn unig).

Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifiannell buddiannau ar-lein y gallwch ei ddefnyddio i weld pa fudd-daliadau y mae gan rywun sy’n byw gyda dementia neu berson sy’n eu cynorthwyo yr hawl i’w cael.

Ffeithiau am gost ariannol dementia

Yn ôl adroddiad y Gymdeithas Alzheimer, Costau Cudd Dementia yng Nghymru, mae dementia’n costio £1.4 billion i Gymru, sy’n cyfateb i gyfartaledd o £31,300 y pen bob blwyddyn (Saesneg yn unig).

  • Caiff £196 miliwn ei wario ar gostau gofal iechyd
  • Caiff £535 miliwn ei wario ar gostau gofal cymdeithasol (wedi ei ariannu yn gyhoeddus ac yn breifat)
  • Caiff £622 miliwn ei gyfrannu gan waith gofalwyr di-dâl o bobl sydd â dementia
  • Caiff £6 miliwn ei wario ar gostau eraill, gan gynnwys costau heddlu am ymholiadau pobl goll, gwasanaethau eiriolaeth ac ymchwil
  • Mae gofal di-dâl yn cyfrif am 75 y cant o gyfanswm y gost ar gyfer pobl gyda dementia sy’n byw yn y gymuned, a 46 y cant o gyfanswm cost y boblogaeth gyffredinol sydd â dementia yng Nghymru.

Costau anuniongyrchol o fyw gyda dementia

Daeth Dementia yn y Teulu (Saesneg yn unig), adroddiad Ymchwil Alzheimer y DU, i’r casgliad bod gofalwyr teuluol yn fwy tebygol o brofi llai o gyfleoedd gwaith ac incwm, yn ogystal â’r costau ariannol o ddarparu gofal, gan gynnwys:

  • biliau ynni uwch
  • bwyd arbenigol
  • biliau ffôn uwch
  • costau trafnidiaeth uwch
  • cynnyrch gofal
  • offer ac addasiadau.

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf: 16 Hydref 2018
Diweddariad olaf: 10 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (28.6 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch