CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Addasu'r cartref

Mae dau o bob tri o bobl sy’n dioddef o ddementia yn y DU yn byw yn eu cartrefi eu hunain. Er mwyn cynorthwyo pobl i barhau i fyw mor annibynnol â phosibl ac mor hir â phosibl, weithiau mae angen gwneud addasiadau er mwyn hyrwyddo diogelwch yn y cartref.

Cyflwyniad i addasu'r cartref ar gyfer gofal dementia

Gall hyn gynnwys gosod canllaw ar y grisiau i helpu person i ddefnyddio’r grisiau yn ddiogel neu gawod y gallwch gerdded mewn iddi ar gyfer rhywun nad yw’n gallu mynd i mewn ac allan o’r bath mwyach.

Bydd therapydd galwedigaethol yn ymweld â’r person yn ei gartref ei hun er mwyn asesu’r angen am unrhyw addasiadau bach neu fawr.

Bydd yr asesiad yn seiliedig ar anghenion corfforol y person a bydd yn ystyried eu gallu i ddeall y newidiadau a argymhellir a’u gallu i ddysgu.

Mae pob awdurdod lleol yn gweithio’n wahanol ond byddan nhw fel arfer yn darparu offer hyd at swm penodol.

A bydd addasiadau mwy drud yn ddarostyngedig i brawf moddion.

Cyngor am wneud y cartref yn haws i fyw ynddo

Dyma rai syniadau er mwyn sicrhau bod y cartref yn haws symud o’i gwmpas y gallwch eu rhannu gyda’r sawl yr ydych yn eu cynorthwyo a’u teulu:

Cael gwared ar annibendod

Cewch wared ar unrhyw annibendod er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i’r pethau pwysig

  • Symudwch gyllyll a ffyrc nad ydynt yn cael eu defnyddio o ddroriau’r gegin
  • Sicrhewch mai dillad tymhorol yn unig sydd mewn cypyrddau a droriau dillad.

Lleihewch beryglon

  • Efallai y bydd pobl yn arafach yn ymateb i beryglon ar hyd y cartref, felly sicrhewch fod annibendod yn cael ei dacluso, bod cortynnau a gwifrau allan o’r ffordd a bod dodrefn fel byrddau a chadeiriau isel yn hawdd i’w gweld
  • Symudwch feddyginiaethau a allai fod yn niweidiol o gypyrddau ystafelloedd ymolchi
  • Ystyriwch orchuddio socedi nad ydynt yn cael eu defnyddio’n gyson. Tynnwch gyfarpar allan o socedi pan fydd hynny’n briodol.

Defnyddiwch gyfarpar electroneg syml

  • Ystyriwch ddewisiadau eraill yn hytrach na theclynnau cymhleth i reoli’r teledu neu ffonau cymhleth. Mae ffonau gyda lluniau’r person sy’n gysylltiedig â’r rhif yn ddefnyddiol
  • Mae modelau syml yn aml yn haws i’w defnyddio.

Sicrhewch fod lle i bopeth

  • Dewiswch le i allweddi, ffôn symudol a sbectol
  • Sicrhewch fod hysbysfwrdd ar gyfer llythyrau pwysig ac apwyntiadau ysbyty neu drin gwallt
  • Gosodwch restr o rifau argyfwng a rhifau defnyddiol ar yr hysbysfwrdd, er enghraifft y gŵr, plant, cymydog, meddyg, deintydd, siop trin gwallt
  • Defnyddiwch galendr wal i nodi dyddiadau
  • Rhowch bethau yn ôl yn eu lle ar ôl i chi eu defnyddio.

Defnyddiwch gliwiau gweledol

  • Cadwch bethau o fewn golwg os ydynt yn cael eu defnyddio’n gyson, er enghraifft tegell, te/coffi, cwpanau
  • Defnyddiwch jariau clir, er mwyn gweld y cynnwys heb eu hagor.

Labelwch bethau ar hyd y cartref

  • Gall arwyddion ar ddrysau helpu rhywun sy’n ffwndrus yn ei gartref ei hun. Mae arwyddion sy’n addas ar gyfer dementia ar gael ar-lein. Mae gan y rhan fwyaf ohonynt lun mewn ffont du, ar un lliw cefndirol
  • Labelwch gypyrddau hefyd neu osod gwydr diogel clir (neu tynnwch y drysau yn y gyfan gwbl) fel gall y person weld y tu mewn iddynt
  • Ysgrifennwch nodiadau atgoffa syml ynglŷn â sut i ddefnyddio’r peiriant golchi neu wneud paned o de. Bydd hyn yn helpu’r person i fod yn annibynnol am amser hirach.

Ysgrifennwch y cwbl i lawr

  • Cadwch restr siopa ac ychwanegwch ati yn ôl yr angen
  • Sicrhewch fod papur a beiro wrth y ffôn er mwyn cofnodi negeseuon.

Astudiaeth achos i ddangos gwerth addasu gwrthrychau o gwmpas y tŷ

Adnoddau defnyddiol

Dolenni ymchwil

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.