CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Lleoliadau y tu allan i’r ardal

Dysgwch fwy am leoliadau y tu allan i’r ardal ar gyfer y plant rydych chi'n gofalu amdanynt

Beth yw’r manteision i’r person ifanc o fyw mewn cartref sy’n agos i’w ardal leol?

Dylech fod yn ymwybodol, cyhyd â’i fod er lles gorau’r plentyn neu’r person ifanc, fod byw mewn cartref sy’n agos i’w ardal leol yn fanteisiol i’r plentyn neu’r person ifanc. Gall ei helpu:

  • i gadw cysylltiad agosach â’i deulu (yn cynnwys anifeiliaid anwes), ffrindiau a phobl bwysig arall yn ei fywyd
  • i fynychu’r un ysgol ac osgoi tarfu ar ei addysg
  • i barhau mewn cysylltiad â’i weithiwr cymdeithasol a’r swyddog adolygu annibynnol
  • i barhau gyda’r un meddyg teulu
  • i ddefnyddio’r un gwasanaethau arbenigol
  • i gynnal cysylltiadau â’i gymuned ac unrhyw weithgareddau y gallai fod yn eu gwneud.

Gwelwyd bod cadw mewn cysylltiad ag aelodau’r teulu wedi ategu sefydlogrwydd y lleoliad a gall fod yn bwysig wrth helpu plentyn neu berson ifanc i ddychwelyd at ei deulu, pan fo hynny er ei fudd pennaf.

Hefyd dylech gydnabod y bydd gan eich pobl ifanc, yn ogystal ag ymlyniad at bobl ac anifeiliaid anwes, ymlyniad hefyd at lefydd. Gall y rheini fod yn rhan bwysig o’u synnwyr o hunaniaeth, diogelwch a’u synnwyr o berthyn.

Mae popeth yn anoddach i’w wneud pan fydd y lleoliad y tu allan i’r sir

Adroddiad Y Gofal Cywir, Comisiynydd Plant Cymru

Pam y byddai angen lleoliad y tu allan i’r ardal ar blant?

Bydd awdurdodau lleol yn gosod plant mewn cartrefi y tu allan i’w hardal os:

  • na fydd cartref yn yr awdurdod lleol sy’n gallu diwallu eu hanghenion
  • na fydd lleoliad y tu allan i’r ardal yn well i les y plentyn na lleoliad lleol.

Beth yw’r heriau i blant sy’n byw mewn cartrefi y tu allan i’w hardal leol?

Os ydych chi’n blentyn, gall fod yn ddiflas a lletchwith i chi gael eich symud i ffwrdd oddi wrth eich teulu, eich ffrindiau, eich ysgol, eich cymuned, o bosibl gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’ch ardal leol.

Gall plant gael eu hunain mewn amgylchedd dieithr a diwylliant gwahanol. Nid yn unig y byddan nhw wedi newid cartrefi ond fe fyddan nhw wedi colli pob llinyn sy’n eu cysylltu â’u cartref gwreiddiol.

Bydd plant sy’n byw mewn cartrefi y tu allan i’w hardal yn ei chael yn anoddach defnyddio’r manteision o leoliad mewn ardal leol a restrir ar frig y dudalen.

Hefyd, gallan nhw fod yn fwy ynysig a bregus na phobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi o fewn eu hardal leol.

Gall pobl ifanc sy’n symud ar draws ffiniau cenedlaethol - o Gymru i Loegr ac fel arall - wynebu heriau ychwanegol: gorfod ymuno â chyfundrefn addysg wahanol yn ogystal ag iaith arall. Mae gweithwyr proffesiynol hefyd sy’n gweithio gyda phlant ar draws ffiniau weithiau’n anghyfarwydd â’r deddfwriaethau gwahanol, y rheoliadau a’r canllawiau sy’n weithredol yng ngwahanol wledydd y DU.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn rhoi enghraifft o blentyn - sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, a symudwyd i gartref preswyl yn Lloegr. Roedden nhw wedi ei atal rhag siarad Cymraeg pan ddaeth perthnasau i’w weld gan eu bod o’r farn fod hynny’n fater diogelwch oherwydd na allai’r arolygwr cyswllt wirio beth oedd yn cael ei ddweud: roedd yn destun pryder clywed bod dewisiadau iaith heb gael eu hystyried yn llawn wrth wneud lleoliadau.

Adroddiad Y Gofal Cywir, Comisiynydd Plant Cymru

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.