CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Hunaniaeth plant

Dysgwch fwy am sut y gallwch gefnogi'r plant rydych chi'n gofalu amdanynt i brofi eu hunaniaeth

Cyflwyniad i hunaniaeth plant mewn gofal preswyl

Mae pob un o’r plant rydych yn gofalu amdanynt yn datblygu ei hunaniaeth ei hun ac mae ganddynt hawl i gael cymorth i ddatblygu ymdeimlad cadarnhaol o bwy ydynt.

Mae pob plentyn yn unigolyn; bydd gan rai ohonynt yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘nodweddion gwarchodedig’ ac mae gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd ag un o’r nodweddion hyn yn erbyn y gyfraith.

Gallwch ddarllen am y rhestr o nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010:

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

Dylech chi fod yn ymwybodol o nodweddion gwarchodedig ond cofiwch fod hawliau dynol gan bawb ac nad ydynt yn gyfyngedig i’r rhestr hon.

Bydd angen i chi ddatblygu diwylliant gweithio lle byddwch yn agored, yn barod i dderbyn syniadau ac yn parchu pawb.

Ar gyfer plant neu bobl ifanc sy’n byw mewn cartref gofal preswyl mae hyn yn golygu bod rhaid i chi gymryd camau i:

  • atal gwahaniaethu: gofalu nad yw’r plant rydych yn gofalu amdanynt yn cael eu herlid oherwydd eu nodweddion
  • sicrhau cyfle cyfartal: gofalu bod rheolau a chyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc yn y cartref sy’n deg ac yn gyfartal
  • hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl sy’n byw yn y cartref, yn cynnwys pobl ifanc a gweithwyr: helpu eraill i ddysgu am blant a’u nodweddion a meithrin cyd-ddealltwriaeth rhwng yr holl blant rydych yn gofalu amdanynt. Heriwch bobl ifanc a gweithwyr os byddwch yn eu clywed yn defnyddio iaith wahaniaethol.

Bod ag agwedd gadarnhaol at yr holl blant sydd dan eich gofal

Dylech fod ag agwedd gadarnhaol at yr holl bobl ifanc, beth bynnag yw’r nodweddion sy’n ffurfio eu hunaniaethau, yn cynnwys nodweddion gwarchodedig.

Mae hyn yn cael ei drafod yn Adran Un o Gôd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol: Parchu safbwyntiau a dymuniadau, a hyrwyddo hawliau a buddiannau, unigolion a gofalwyr.

Dylech fod yn ymwybodol o nodweddion unigol plant a phobl ifanc a chael yr adnoddau a’r hyfforddiant sydd eu hangen gan eich cyflogwr er mwyn cynorthwyo pawb sy’n byw yn y cartref.

Mae’n bosibl bod polisi gwrth-fwlio gan y cartref a fydd yn eich helpu i ddelio ag unrhyw fwlio. Siaradwch â’ch rheolwr os nad ydych yn sicr sut i gyflawni’ch cyfrifoldebau mewn perthynas â bwlio.

Plant anabl

Gwelwch y dudalen Gweithio gyda phlant anabl.

Pobl ifanc LGBT+ sy’n derbyn gofal

Rydym yn gwybod bod plant sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl yn ei chael yn anodd weithiau ddatblygu ymdeimlad cadarnhaol o bwy ydyn nhw, a gall hyn fod yn fwy anodd byth wrth iddynt ddatblygu eu hunaniaeth ryweddol neu rywiol.

Gall pobl ifanc LGBT+ wynebu nifer o anawsterau mewn perthynas â’u hunaniaeth. Mae LGBT+ yn golygu pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, ac eraill. Mae ‘ac eraill’ yn cynnwys yr holl hunaniaethau nad ydynt yn heterorywiol neu wedi’u seilio ar raniad rhwng rhyweddau gwrywaidd a benywaidd. Mae’r symbol + yn cael ei ddefnyddio am fod y rhestr o hunaniaethau a thermau yn newid a datblygu. Yn hytrach na cheisio cofio rhestr, dangoswch barch a defnyddio’r termau sydd orau gan y bobl ifanc.

Mae LGBT Youth in Care (Saesneg yn unig) yn wefan ddefnyddiol i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sy’n cynnig cyngor ac adnoddau ac yn trafod hawliau a hyfforddiant.

Efallai y byddwch yn sylwi bod person ifanc yn ymddangos yn ddigalon, yn brin o hunan-barch a hyder, yn ei niweidio ei hun, neu’n dangos arwyddion chwithig eraill. Os byddwch yn siarad â’r person ifanc am hyn, peidiwch â chymryd ei fod yn ei ystyried ei hun yn heterorywiol ac yn wrywaidd/benywaidd. Holwch y person ifanc yn gyntaf, gan ei bod yn bosibl mai datblygu ymdeimlad o’i rywedd neu hunaniaeth rywiol sy’n peri gofid iddo. Dylech wneud hyn mewn man diogel, preifat a dylai’r person ifanc allu ymddiried ynoch chi.

Trafod hunaniaeth rywiol a rhyweddol yn gadarnhaol

Rhan o’ch gwaith yw helpu pobl ifanc i ystyried eu hunaniaeth rywiol a rhyweddol mewn ffordd gadarnhaol a chefnogol. Bydd yn bwysig bod y cartref yn darparu gwybodaeth berthnasol a chyfredol fel bod pobl ifanc yn gallu trafod pynciau mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Gallech drafod materion sy’n cynnwys y canlynol:

  • deall hunaniaeth
  • gwasanaethau cymorth LGBT+
  • siarad â’r teulu a ffrindiau am eu hunaniaeth
  • delio â newid yn gadarnhaol
  • herio stereoteipiau
  • delio â bwlio.

Sicrhau amgylchedd diogel i hunaniaethau pobl ifanc

Mewn bywyd pob dydd, byddwn yn aml yn cadarnhau stereoteipiau am hunaniaeth rywiol a rhyweddol heb fwriadu gwneud hynny. Mae iaith yn agwedd bwysig ar hyn, er enghraifft, gofyn i ferch yn ei harddegau a oes ganddi fachgen yn gariad (neu fel arall). Gall hyn ei gwneud yn anodd i bobl ifanc ddweud eu bod yn lesbiaidd neu hoyw.

Yn yr un modd, mae toiledau gwrywaidd a benywaidd yn gallu cyfleu’r neges bod rhaid i berson ifanc fod yn wrywaidd neu’n fenywaidd. Un ateb syml yw ei gwneud yn bosibl i doiledau ac ystafelloedd ymolchi gael eu defnyddio gan bawb, lle bynnag y bo modd.

Peth arall y gallwch ei wneud i ddangos eich bod yn cefnogi pobl ifanc â phob math o hunaniaethau rhywiol neu ryweddol yw edrych o gwmpas y cartref a sicrhau bod delweddau cadarnhaol o bobl LGBT+. Gwrandewch ar beth mae pobl ifanc a gweithwyr yn ei ddweud am bobl LGBT+ a chymerwch gamau i sicrhau bod y sgyrsiau’n gadarnhaol, gan herio rhagfarn lle bo angen. Bydd hyn yn helpu pobl ifanc i ddeall eu bod mewn lle diogel lle gallant fod yn gyfforddus yn eu hunaniaeth.

Defnyddio gwaith taith bywyd gyda phobl ifanc

Mae gwaith taith bywyd yn ddull y gallwch ei ddefnyddio i helpu plant i wella o brofiadau’r gorffennol a symud ymlaen yn eu bywydau, er enghraifft symud i gartref newydd. Mae hefyd yn gallu eu helpu nhw i ddelio gyda’u teimladau am newidiadau sy’ wedi digwydd yn y gorffennol.

Fel arfer byddwch yn gweithio gyda gweithiwr cymdeithasol a rhieni’r plentyn, os yn briodol, i ymchwilio gorffennol y plentyn, er enghraifft ble cawson nhw eu magu a beth oedden nhw’n hoffi ei wneud gyda’u mam. Rhaid gwneud hyn mewn ffordd sensitif a chefnogol ac mae’n gallu eich helpu i uniaethu â’r plentyn yn eich perthynas gyda nhw.

Mae gwaith taith bywyd yn gorfforiad bywyd y plentyn ar ffurf llyfr (papur neu adnodd digidol) gyda geiriau, lluniau a diagramau. Er hynny, mae’n ymarfer da i sicrhau bod gwaith taith bywyd yn sgwrs barhaus, sy’n addas i lefel datblygiadol y plentyn, fel bod eu dealltwriaeth o’u bywyd yn esblygu a thyfu gyda nhw. Dyw hi ddim yn ddigwyddiad untro; mae’r llyfr yn agor y drws i sgyrsiau a chwestiynau, yn ôl yr angen.

Gallai gwaith stori bywyd gynnwys:

  • Ble cafodd y plentyn ei eni
  • Amser a phwysau geni
  • Cerrig milltir datblygu
  • Hoff bethau a chas bethau
  • Hoff atgofion
  • Manylion rhieni, brodyr, chwiorydd a theulu estynedig
  • Copïau tystysgrifau geni; bydd y rhain yn rhoi tystiolaeth gadarn o fod yn perthyn
  • Gall coeden teulu helpu’r plentyn i weld lle maen nhw’n ffitio o fewn y teulu
  • Graff bywyd, sef diagram i helpu’r plentyn ddeall symudiadau cartrefi, efallai mewn llun wedi’i greu ganddo ei hunan
  • Lluniau a gwaith celf eu hunain.

Gallwch hefyd helpu plentyn i greu blwch atgofion i gadw’n ddiogel eiddo personol wedi’u dewis gan y plentyn. Gallech ddefnyddio hwn fel adnodd i helpu cynnal teimlad o hunaniaeth.

Mae lluniau, tocynnau i ddigwyddiadau, mapiau, cylchgronau, llwyddiannau a gwobrwyau i gyd yn rhan o daith bywyd eich plentyn ac yn medru cael eu cynnwys mewn gwaith taith bywyd.

Dylid hefyd gynnwys gwybodaeth ddiwylliannol yn y llyfr taith bywyd, i helpu’r person ifanc i ddatblygu teimlad o hunaniaeth. Rydym wedi gweld sut mae angen i blant ddatblygu dealltwriaeth o’u cefndir crefyddol, ethnig a diwylliannol a sut mae dyletswydd arnoch chi i sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu diwallu, yn unol â Deddf Plant 1989 (Saesneg yn unig).

Ar ben hynny, mae Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Saesneg yn unig) yn datgan bod rhaid rhoi gwybodaeth lawn i blant amdanynt eu hunain a hyrwyddo cyswllt rhyngddynt ac aelodau teulu, lle bo hynny’n briodol. Mae gwaith taith bywyd yn ddull o hyrwyddo hyn ac yn cyflawni angen y plentyn i wybod pam fod ymwahaniaethau wedi digwydd a pham fod rhai oedolion yn methu gofalu amdanynt.

Yn ogystal ag edrych yn ôl, bydd gwaith taith bywyd yn edrych ar y presennol a’r dyfodol i helpu eich person ifanc i feddwl amdanynt eu hunain, yr hyn maen nhw eisiau yn eu dyfodol a sut maen nhw’n mynd i gyflawni hynny.

Efallai byddwch eisiau trafod digwyddiadau’r gorffennol neu bresennol neu atgofion (positif a negyddol) â’r plentyn ac yn edrych ar eu gobeithion am y dyfodol drwy gerddi, gweithgareddau celf, lluniau, mapiau a chyfweliadau wedi’u trawsysgrifio gan deulu, ffrindiau, gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth.

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Mawrth 2019
Diweddariad olaf: 16 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (39.9 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch