CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cynllunio i symud ymlaen o ofal preswyl i blant

Dysgwch fwy am sut y gallwch gefnogi y plant rydych chi'n gofalu amdanynt i symud ymlaen o'r cartref

Cyflwyniad i symud ymlaen o ofal preswyl i blant

Yn dibynnu ar oed ac amgylchiadau unigol, gall pobl ifanc sy’n gadael cartrefi plant symud ymlaen i fyw mewn pob math o wahanol leoliadau, yn cynnwys:

  • cartref gwahanol
  • gofal maeth
  • dychwelyd at eu teulu
  • symud i fyw’n fwy annibynnol.

Sut deimlad yw profi newid?

Mae pawb yn profi newid yn eu bywydau. Weithiau mae’r newid wedi ei gynllunio, weithiau mae’n fwy annisgwyl:

  • plentyn yn symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd
  • person ifanc yn gadael cartref am y tro cyntaf
  • rhywun yn dechrau swydd newydd.

Mae’r newidiadau gwahanol hyn yn gallu achosi teimladau tebyg, yn cynnwys:

  • edrych ymlaen at gael cyfleoedd a phrofiadau newydd a chyflawni pethau gwahanol
  • teimlo’n bryderus am yr hyn nad sy’n hysbys a cholli’r hyn sy’n gyfarwydd
  • ansicrwydd ynghylch sut y gallwch reoli neu ddylanwadu ar y newidiadau hyn.

Bydd y plant sydd o dan eich gofal chi wedi profi nifer o newidiadau a newid byd yn eu bywydau. Yn ogystal â pheidio byw gartref, bydd nifer o’r plant wedi symud o un cartref i’r llall yn rheolaidd, ac yn aml i ardaloedd ac ysgolion newydd.

Mae dros 30 y cant o’r plant sydd mewn gofal yng Nghymru wedi symud tŷ fwy na dwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae 10 y cant wedi symud mwy na thair gwaith. Gall yr ansicrwydd hwn achosi problemau i blant, yn enwedig os oes raid iddynt newid ysgol neu symud i ardal newydd.

Dychmygwch sut byddech chi’n teimlo yn symud tŷ, newid eich swydd a cholli cysylltiad gyda theulu a ffrindiau i gyd ar unwaith. Nawr dychmygwch fod hynny’n digwydd dwy neu dair gwaith bob blwyddyn. Pan mae plant yn symud yn aml, mae’r peth yn fwy tebygol o droi’n batrwm.

Rydym ni’n gwybod bod perthynas tymor hir sefydlog yn help i blant gyflawni eu huchelgeisiau. Dyma pam y dylid osgoi symud plant os yw hynny’n bosibl. Ond os nad oes unrhyw ffordd arall, mae’n rhaid cynllunio unrhyw newid a sicrhau ei fod yn cael ei wneud er lles pennaf y plentyn rydych chi’n gweithio gydag ef.

Gair o gyngor - Pan gaiff plant eu holi am symud, maen nhw bob amser yn dweud eu bod nhw’n teimlo fel sbwriel os yw eu heiddo nhw’n cael ei roi mewn bagiau sbwriel ar gyfer ei symud. Dylech sicrhau bod gan unrhyw blentyn sy’n symud o’ch cartref chi fagiau neu gesys iawn ac ni ddylid byth roi eiddo plentyn mewn bagiau sbwriel.

Pwysigrwydd dymuniadau a theimladau’r plentyn

Dylai unrhyw newid ystyried dymuniadau a theimladau’r plentyn neu berson ifanc, gan gymryd i ystyriaeth ei oedran a’i ddealltwriaeth. Dylid sicrhau bod y plentyn yn ganolog i’r cynllunio ac unrhyw benderfyniadau a wneir. Gallwch ei helpu i ddeall pam mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a’i helpu i siarad am beth hoffai ei weld yn digwydd. Gall Eiriolwr Annibynnol Proffesiynol fod o gymorth iddynt wrth ystyried hyn hefyd.

‘Dylem wrando mwy ar blant a phobl ifanc mewn gofal preswyl a gweithredu ar sail yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrthym. Dylent fod yn rhan wirioneddol rhagweithiol o gynllunio eu gofal. Dylem roi mwy o bwys ar eu teimladau nhw ynghylch eu hymddygiad eu hunain e.e. beth sy’n help i’w tawelu pan maen nhw’n teimlo’n bryderus. Dylem geisio trafod lle bynnag y bo hynny’n bosibl ond cynnig eglurhad clir pan nad yw’n bosibl bodloni eu dymuniadau nhw. Er mwyn cynnal perthynas dda wrth drafod gyda phobl ifanc, dylai gweithwyr proffesiynol neilltuo amser i ddod i’w hadnabod. Gall eiriolaeth (ffurfiol ac anffurfiol) helpu i wella ein dealltwriaeth ni o safbwyntiau y plant.’

Cam-fanteisio ar blant: gwaith amlasiantaeth lle bo plant yn cael eu lleoli y tu allan i’r sir, yn mynd ar goll, a bod risg y byddant yn cael eu cam-fanteisio’n rhywiol, Arolygiaeth Gofal Cymru a Heddlu De Cymru, 2017

Gofynnodd Voices from Care Cymru i bobl ifanc am eu barn ar adael gofal preswyl. Dyma roedden nhw’n ei ddweud ynghylch cael ‘llais a rheolaeth’:

  • “Dyw un opsiwn ddim yn ddewis”
  • “Fy mywyd i yw e, peidiwch â dweud wrtha’ i beth sy’n digwydd”
  • “Doeddwn i ddim yn teimlo ’mod i’n gallu dweud na”
  • “Mae newidiadau staff yn effeithio ar ein gallu i sicrhau bod ein barn yn cael ei glywed”
  • “Dw i’n teimlo bod gen i fwy o reolaeth pan mae pobl yn gwrando arna’ i”
  • “Fe wnes i gytuno i rywbeth oedd ddim yn iawn i mi oherwydd addewidion ffug - byddai’n dda gen i petai modd i mi fynd yn ôl a gwneud mwy i ddal fy nhir. Bellach fe fyddwn i’n dweud fy nweud ac yn sefyll yn fwy cadarn”.

Voices from Care (2018) Young People’s Views on Leaving Residential Care (Saesneg yn unig)

Pwysigrwydd asesu a chynllunio da

Dylid sicrhau bod asesiadau diweddar o anghenion y plentyn a’r sefyllfa deuluol yn cael eu defnyddio i gefnogi unrhyw benderfyniadau ynghylch ble dylai plentyn fyw. Wrth gynllunio, dylid defnyddio asesiadau’r cartref a chynllun gofal y plentyn, a fydd wedi cael ei ddatblygu ers i’r plentyn gyrraedd y cartref.

Wrth ystyried unrhyw benderfyniadau ynghylch ble i leoli plentyn, dylai awdurdodau lleol adael i’w dyletswydd i ddiogelu plant a hybu lles y plentyn eu harwain. Lle bo hynny’n rhesymol bosibl, mae disgwyl i awdurdodau lleol sicrhau bod y lleoliad yn:

  • caniatáu i’r plentyn fyw’n agos i’w gartref
  • bodloni anghenion y plentyn yn y cynllun gofal a chanlyniadau ei gynllun llwybr ar ôl troi’n 16
  • osgoi unrhyw aflonyddu ar addysg neu hyfforddiant y plentyn
  • caniatáu i’r plentyn fyw gydag unrhyw frodyr neu chwiorydd sydd hefyd yn derbyn gofal
  • darparu llety addas os oes gan y plentyn anabledd.

Wrth wneud penderfyniadau ynghylch ble i roi llety i blant a phobl ifanc, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried:

Sut mae modd helpu plant gyda’r profiad o symud ymlaen?

Mae eich cyfraniad chi’n bwysig pan ddaw hi’n amser i ddechrau meddwl am blentyn yn symud o’r cartref. Rydych chi wedi bod yn gofalu am y plentyn neu’r person ifanc ac rydych chi’n eu hadnabod yn dda. Oherwydd hyn, gallwch gynnig cymorth i’r gweithiwr cymdeithasol er mwyn sicrhau asesiad cytbwys a thrylwyr o’u hanghenion a’u cryfderau pan maen nhw’n symud.

Bydd eich gwybodaeth bob dydd chi’n helpu i greu darlun o’r person ifanc ac yn gwneud iddynt ‘ddod yn fyw’ i unrhyw un sy’n darllen amdanynt. Er enghraifft, ydyn nhw’n mwynhau coginio, ydyn nhw’n arbennig o gerddorol, ydyn nhw’n gwneud i bobl chwerthin? Bydd y manylion bach rydych chi’n eu gwybod amdanynt yn helpu i greu darlun cyflawn, ac mae hynny’n bwysig iawn i unrhyw un fydd yn rhoi cefnogaeth iddynt ar ôl iddynt adael eich cartref chi.

Gan mai chi sy’n adnabod y plentyn orau, dylech bob amser fod yn rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer eu symud nhw o’r cartref. Os ydych chi’n poeni nad ydych chi’n cael digon o rôl yn hyn o beth neu nad ydy’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud er lles pennaf y plentyn, dylech sôn am hyn wrth eich rheolwr ac wrth weithiwr cymdeithasol y plentyn ac eirioli ar eu rhan.

Yn yr un modd, gan eich bod yn ei adnabod mor dda, mae eich cefnogaeth ymarferol ac emosiynol wrth gynllunio a helpu’r plentyn i symud a dod i arfer â chartref newydd yn hollbwysig. Os yn bosibl, dylai’r plentyn ymweld â’i gartref newydd ymlaen llaw. Yn ddelfrydol, bydd y broses symud yn digwydd yn raddol ac ar gyflymdra sy’n addas i’r plentyn. Efallai y bydd modd i’ch cartref chi gadw cysylltiad gyda’r plentyn am gyfnod (dilynwch bolisïau’ch sefydliad chi a sicrhewch fod eich rheolwr yn cytuno), fel bod ganddynt gysylltiad â chi a’u bod yn gallu cynnal unrhyw berthynas sefydlog ry’n ni’n gwybod sydd mor bwysig.

Mae Rhan 6 y Côd Ymarfer ar gyfer y Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn egluro cyfrifoldebau awdurdodau lleol tuag at y rheiny sy’n gadael gofal, yn cynnwys eu cyfrifoldebau mewn perthynas â chynlluniau llwybr ac asesiadau.

Adnoddau defnyddiol

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.