CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Deall dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau

Dysgu sut mae’r dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn ffocysu ar wella llesiant drwy ddeall yr hyn sy’n bwysig i bobl a datblygu canlyniadau personol.

Beth yw canlyniadau personol?

Mae canlyniadau personol yn disgrifio’r hyn y mae unigolyn eisiau ei gyflawni. Nodau realistig yw’r rhain y gall y sawl sy’n cael gofal a chymorth, a’u gweithiwr gofal neu’u gofalwr weithio tuag atynt. Maent fel arfer yn seiliedig ar gynnal lles yr unigolyn.

Bydd canlyniadau’n amrywio o un unigolyn i’r llall ac o blentyn i blentyn oherwydd maent yn ymwneud a’r hyn sy’n bwysig i'r unigolyn hwnnw.

Dyma rai esiamplau o ganlyniadau personol:

  • “Rwyf eisiau cyrraedd yr ysgol ar amser fel plant eraill a chael gwisg ysgol lân.
  • “Bod yn gallu mynd yn ôl adre, magu hyder a byw ar fy mhen fy hun fel o’r blaen”
  • “Rwyf eisiau gweld fy mrawd, siarad ag ef a threulio amser ag ef a pheidio â cholli cysylltiad nawr ein bod yn byw ar wahân”
  • “Hoffwn fynd i wersi nofio, ond rwyf angen gwybod y bydd fy ngŵr yn iawn ac y bydd yna rywun yno iddo pan wyf fi allan.”

Dylai canlyniadau personol:

  • gael eu hysgogi gan ddyheadau’r unigolyn – maent yn unigryw i'r unigolyn a’u bywyd
  • bod yn realistig - ni all pethau fod fel o’r blaen, felly sut gallaf fi addasu, ymdopi, bod yn obeithiol a theimlo bod gennyf fi reolaeth?
  • bod yn gyraeddadwy – pa gryfderau sydd gennyf i ddelio â’r dyfodol? Pa adnoddau sydd gennyf fi ynof fi fy hun, yn fy nheulu, fy ffrindiau ac yn y gymuned?
  • bod yn ystyrlon – gan roi sylw i ddilema a phryder gwirioneddol yr unigolyn
  • datblygu a newid – gan dderbyn nad oes dim yn aros yr un fath.

Nid gwasanaethau nac adnoddau yw canlyniadau personol.

Dyma rai esiamplau o wasanaethau ac adnoddau:

  • Gallai unigolyn fynychu grŵp magu plant
  • cael cawod mynedfa isel wedi’i gosod
  • cael gwasanaeth gofal cartref.

Y pethau a wna unigolyn neu a roddir iddo yw’r rhain (y mewnbynnau) i helpu’r unigolyn gyflawni ei ganlyniadau, ond nid ydynt yn ganlyniadau ynddynt eu hunain.

Rhowch gynnig ar yr ymarferiad hwn i weld a allwch adnabod y datganiadau canlyniadau personol.

Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys crynodeb o sut i ddefnyddio canlyniadau personol:

Gwyliwch y fideo hwn lle mae’r hyfforddwr Rhoda Emlyn-Jones yn esbonio’r cefndir ac egwyddorion defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau:

Gwyliwch y fideo hwn lle mae’r gweithiwr cymdeithasol Tina yn disgrifio’r gwerthoedd y tu ôl i ddull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau:

Pam fod dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn bwysig?

Drwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl, gallwn wella’u hiechyd a’u lles. Gelwir gweithio â phobl fel hyn yn ddull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau oherwydd dyma sut rydyn ni’n helpu pobl i ddeall a chyflawni eu canlyniadau personol.

Nod ddull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yw sicrhau bod pobl sy’n cael gofal a chymorth a’u teulu neu ofalwyr digyflog yn cael eu helpu i fyw’r bywydau gorau posibl, gan ddatblygu eu cryfderau a’u galluoedd. Mae hefyd yn gofyn i sefydliadau ganolbwyntio eu hadnoddau ar yr effaith a gânt, yn ogystal â’r gweithgareddau a gyflawnant.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn mynnu ein bod yn canolbwyntio ar les pobl gan roi lle canolog iddynt yn y broses o greu cynllun gofal a chymorth ar eu cyfer.

Mae dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn:

  • Mae pobl yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain
  • Nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddweud wrthych beth sy’n bwysig iddyn nhw a beth sy’n rhoi ymdeimlad o lesiant iddynt, ond mae’n bosibl y bydd arnynt angen help i wneud hyn
  • Mae pobl eisiau gwneud y pethau sydd bwysicaf iddyn nhw, yn eu ffordd eu hunain
  • Mae cryfderau pobl yn bwysig ac mae angen eu cydnabod
  • Rydyn ni’n dechrau drwy ganfod beth mae’r unigolyn eisiau ei gyflawni, ac yna’n trafod sut i gyflawni’r canlyniad hwnnw a chytuno ar gynllun i'w helpu i wneud hyn.
  • Gall teulu’r unigolyn, ei ofalwyr a’r gymuned leol hefyd gyfrannu at y cynllun hwn
  • Mae sgyrsiau ystyrlon yn ganolog i ddeall canlyniadau unigolyn
  • Canlyniad personol yw’r darlun mae’r sawl yn ei beintio o'r hyn maent eisiau ei gyflawni.

Daw ymdeimlad o lesiant drwy bethau fel:

  • perthnasoedd
  • cael eich caru
  • cael eich parchu
  • cael ymdeimlad o bwrpas
  • gwneud cyfraniad defnyddiol
  • y pethau bach…sy’n gwneud i fywyd deimlo’n werth chweil.

Mae’r un egwyddor yn wir ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, pa un a ydynt yn cael gofal a chymorth ai peidio.

Gwrandewch ar riant yn egluro sut wnaeth ymarferydd a fu’n gweithredu drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau ei helpu i newid y ffordd roedd hi’n cyfathrebu â’i phlant

Yn y fideo hwn, mae Mr Britton a’i weithiwr yn datgelu sut wnaethant weithio â’i gilydd drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau i ganfod beth oedd yn bwysig iddo ef.

Mae'r stori yma yn tynnu sylw at daith Andy sydd wedi bod yn un anodd a hir ar brydiau ond sy'n dangos positifrwydd gweithio ar y cyd. Yma byddwch yn clywed gan Andy a'r tîm o weithwyr proffesiynol a weithiodd gydag ef i gyflawni ei ganlyniadau.

Sut i ganfod beth sy’n bwysig i bobl a chytuno ar eu canlyniadau personol

Mae dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn rhoi blaenoriaeth i gael sgyrsiau da â phobl am yr hyn sy’n bwysig iddynt yn hytrach nag i gasglu data at ddibenion y sefydliad. Mae’r ffocws ar ganlyniadau personol yn rhoi cyfleoedd i’r unigolyn fyfyrio ar ei fywyd, yn rhoi llai o gyfle i bobl eraill wneud tybiaethau a gwella’r ddealltwriaeth rhwng pawb dan sylw.

Y sgyrsiau mwyaf gwerthfawr yw’r sgyrsiau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael gwrandawiad. Drwy fod rhywun yn gwrando arnynt, mae pob yn aml yn dechrau gwneud synnwyr o’u sefyllfa eu hunain oherwydd eu bod yn gallu cael amser i fyfyrio am y peth.

Un ffordd dda o gofio’r sgiliau craidd ar gyfer cael sgwrs dda â phobl yw’r gair OARS yn Saesneg:

  • Open ended questions – cwestiynau penagored
  • Affirm – notice strengths. Cadarnhau – sylwi ar gryfderau.
  • Listen Reflectively – Gwrando’n Fyfyriol
  • Summarise in an empowering way – Crynhoi mewn ffordd sy’n grymuso’r unigolyn.

Mae canolbwyntio ar gryfderau pobl yn rhan allweddol o'r dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ond mae hyn yn golygu gofyn y math iawn o gwestiynau a gadael i'r sgwrs lifo:

  • ymgysylltu â phobl a’u helpu i bwyso a mesur eu gobeithion a’u hofnau cyn rhoi cynllun ar waith
  • trafod y manteision a’r anfanteision – helpu pobl i feddwl a siarad
  • helpu pobl i ddatblygu eu cryfderau a chryfderau eu teulu a’u cymuned
  • helpu pobl i sylwi ar eu cyflawniadau a rhagweld bygythiadau.

Cofiwch:

  • wrando’n ofalus a dangos empathi
  • trafod pryderon a dyheadau
  • disgwyl ymddygiad amddiffynnol naturiol
  • ategu ymdeimlad yr unigolyn o’i alluoedd ei hun
  • osgoi dadleuon a gwrthdaro.

Dyma adnodd sy’n rhoi esiamplau o gwestiynau seiliedig ar gryfderau y gallwch eu defnyddio ar wahanol adeg yn y sgwrs. Gall yr awgrymiadau hyn eich helpu i gael sgwrs dda, osgoi maglau a helpu pobl i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n dda, nid ar yr hyn sydd o’i le:

Mae’r fideo canlynol yn dangos gweithiwr yn cael sgwrs â rhiant. Dyma’u sgwrs gyntaf – cafodd ei chychwyn drwy atgyfeiriad a ddaeth drwy law’r gwasanaethau cymdeithasol.

Dengys y fideo cyntaf y gweithiwr yn canolbwyntio ar waith papur a risg. Nid yw’n defnyddio dull sy’n seiliedig ar ganlyniadau yma:

Mae’r ail fideo yn dangos y gweithiwr yn defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan feithrin ymddiriedaeth a helpu mam i siarad am beth sydd wedi digwydd:

Sut mae canlyniadau personol yn cysylltu â’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud addewid pendant i wella llesiant pobl yng Nghymru ac mae’n egwyddor ganolog yn ei holl bolisïau.

Bwriedir y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaetholar gyfer:

  • unrhyw unigolyn sydd angen gofal a chymorth
  • gofalwyr, ffrindiau a theulu sydd angen cymorth
  • unrhyw wasanaethau sy’n cyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol dan y Ddeddf, megis awdurdodau lleol, mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd, gwasanaethau sydd dan ofal defnyddwyr, y trydydd sector a’r sector annibynnol.

Mae’r Fframwaith yn disgrifio llesiant ac yn rhoi ffordd gyson o’i fesur. Bydd pobl eisiau cael canlyniadau sy’n bersonol iddyn nhw yn eu hamgylchiadau eu hunain. Fodd bynnag, bydd angen i awdurdodau adrodd ar y canlyniadau hyn yn erbyn dangosyddion cenedlaethol sy’n cael eu hesbonio yn y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig