CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rhowch eich barn am ein Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol
Rhowch eich barn!

Rydyn ni eisiau clywed eich barn am ein Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.

Ydych chi’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth? Hoffem glywed eich barn am ein Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.

Beth yw’r Cod, a pham mae’n bwysig?

Mae’r Cod Ymarfer Proffesiynol yn dweud wrth weithwyr gofal cymdeithasol sut mae’n rhaid iddyn nhw ymddwyn yn eu swyddi.

Gallwch weld y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol yma, neu mae fersiwn hawdd ei darllen ar gael yma.

Rydym yn diweddaru’r Cod i wneud yn siŵr bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn gallu darparu gofal o’r ansawdd gorau.

Dyma fan cychwyn proses hir, lle byddwn yn siarad â phobl sy’n gweithio yn y sector a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal. Bydd y diweddariadau’n digwydd yn 2025.

Rydym ni eisiau gwybod sut mae pobl sy’n defnyddio neu’n dod i gysylltiad â gwasanaethau gofal a chymorth yn teimlo am y Cod.

Rydym hefyd eisiau gwybod a oes pethau y dylid eu hychwanegu, eu dileu neu eu newid yn eich barn chi. Neu a oes ffordd well o ddangos y Cod a chyfleu’r negeseuon allweddol.

Sut gallwch chi gymryd rhan

Llenwch ein harolwg. Arolwg byr yw hwn, a dim ond pump i ddeg munud ddylai gymryd i’w lenwi.

Bydd mwy o gyfleoedd hefyd i gymryd rhan yn y gwaith hwn yn y dyfodol.

Cysylltwch â Maddy Thompson – maddy.thompson@urbanforesight.org i gymryd rhan.