CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ymgynghoriad ar gam 2 y broses o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 - Agweddau yn ymwneud â'r gweithlu
Newyddion

Ymgynghoriad ar gam 2 y broses o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 - Agweddau yn ymwneud â'r gweithlu

| Charmine Smikle

Mae'r Ddeddf yn sefydlu system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu sy'n amddiffyn hawliau dinasyddion Cymru i gael gofal a chymorth diogel, priodol gydag urddas.

Mae’r Llywodraeth yn ymgynghori ynghylch cynigion yn ymwneud â recriwtio, cadw gweithwyr ac arferion gwaith yn y sector gofal cartref, er mwyn ei helpu i ddarparu gofal o'r ansawdd gorau posib.

Mae'r rheoliadau drafft:

  • yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cymorth cartref wahaniaethu rhwng amser teithio ac amser gofal
  • a rhoi dewis arall yn lle contractau dim oriau i staff gofal cartref.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am sylwadau ynghylch y canlynol:

  • agor y gofrestr gweithwyr cymdeithasol i'r rhai sy'n gyflogedig mewn gwasanaethau cymorth cartref o 2018 ymlaen
  • sut y gallwn roi sylw i heriau presennol o ran recriwtio a chadw rheolwyr gofal cymdeithasol hyfforddedig.

Bydd digwyddiadau rhannu gwybodaeth yn cael eu cynnal:

  • Caerdydd - 21 Mehefin 2017
  • Wrecsam - 13 Gorffennaf 2017

Er mwyn bod yn bresennol, cysylltwch â RISCACT2016@wales.gsi.gov.uk erbyn 19 Mehefin (digwyddiad Caerdydd) neu 30 Mehefin (digwyddiad Wrecsam). Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, ac maent ac yn dibynnu ar argaeledd.