CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rydym eisiau eich storiau!
Newyddion

Rydym eisiau eich storiau!

| SCW Online

Rydym yn chwilio am y storiau go iawn tu ôl i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym eisiau clywed am yr hyn rydych wedi bod yn ei wneud yn wahanol ers y Ddeddf a sut mae hyn wedi newid bywydau pobl.

Newidiodd y Ddeddf sut mae ymarferwyr yn gweithio yn y ffyrdd canolynol:

  • Pobl – rhoi’r unigolyn wrth wraidd eu gofal a chymorth drwy roi mwy o lais a rheolaeth iddynt
  • Llesiant – helpu pobl i wella eu llesiant drwy ffocysu eu cryfderau, rhwydweithiau, cymuned ac amgylchiadau personol
  • Ymyrryd yn gynnar – canolbwyntio mwy ar atal a chynorthwyo pobl cyn i’r anghenion fynd yn rhai brys
  • Gweithio ar y cyd – gweithio mewn partneriaeth well rhwng y bobl a’r cyrff sy’n gyfrifol am ofal a chymorth

Yr hyn mae egwyddion y Ddeddf yn ei feddwl i ymarferwyr

Rydym eisiau eich storiau i’w hyrwyddo ar ein gwefan i ysbrydoli gweithwyr proffesiynol eraill a’u helpu i ddysgu o’ch ymarfer da.

Gall y rhain fod yn storiau rydych eisoes wedi’u cynhyrchu a rhannu, neu adnoddau amrwd y gallen ni eich helpu chi i’w datblygu.

Defnyddiwch y ffurflen isod i’ch tywys chi drwy’r stori. Dychwelwch eich ffurflen i rebecca.cicero@gofalcymdeithasol.cymru erbyn 9 Mawrth 2018.

Edrychwn ymlaen at glywed eich storiau!

Ffurflen Storiau am y Ddeddf