CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rhaglen hyfforddi Deall y Ddeddfau yn llwyddiant
Newyddion

Rhaglen hyfforddi Deall y Ddeddfau yn llwyddiant

| Bethan Price

Yn 2015, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gyngor Gofal Cymru sefydlu cynllun dysgu a datblygu cenedlaethol dros gyfnod o ddwy flynedd i gefnogi gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Roedd yr adroddiad gwerthuso, a gyflawnwyd gan wasanaethau ymgynghori ICF, yn dadansoddi ail flwyddyn y cynllun, rhwng 2016 a 2017.

Roedd ail flwyddyn y rhaglen yn canolbwyntio ar gyflwyno hyfforddiant craidd i'r gweithlu, a darparu deunyddiau dysgu mwy arbenigol.

Daeth y gwerthusiad i'r casgliad bod y rhaglen yn llwyddiannus, yn gadarn ac yn ôl pob tebyg wedi cyflawni mwy mewn cyfnod byrrach o amser na dulliau eraill.

Un o'r prif gryfderau a nodwyd oedd natur gydweithredol y rhaglen – llwyddodd gan fod y Cyngor Gofal, Llywodraeth Cymru, arweinwyr rhanbarthol, hyfforddwyr a dysgwyr i gyd wedi gweithio gyda'i gilydd.

Fe wnaeth y berthynas gref rhwng y Cyngor Gofal, Llywodraeth Cymru, arweinwyr hyfforddiant rhanbarthol a darparwyr hyfforddiant ganiatáu i'r Cyngor Gofal gynhyrchu deunyddiau hyfforddi o fewn amserlenni tynn y cynllun ac ymateb yn gyflym i anghenion hyfforddi sy'n dod i'r amlwg.

Canfu hefyd fod y rhaglen yn gost-effeithiol, gan ddweud “sicrhaodd y model cyflwyno a ddefnyddiwyd gan y Cyngor Gofal werth am arian... Llwyddodd rhaglen y Cyngor Gofal i leihau dyblygu ymdrech a gostwng lefel y gwariant ar ddatblygu deunyddiau i hyfforddi’r gweithlu am y Ddeddf.”

Cwblhawyd tua 12,000 o fodiwlau craidd yn 2016-17. O ganlyniad, canfu'r gwerthusiad fod bron pob aelod o staff, gan gynnwys gweithwyr rheng flaen, wedi dweud eu bod yn deall egwyddorion ac ethos y Ddeddf. Roeddent hefyd yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy hyderus o ran darparu gwasanaethau yn unol â'r Ddeddf.

Yn ogystal, canfu'r adroddiad gwerthuso fod yr Hyb Gwybodaeth a Dysgu, y canolbwynt ar-lein ar gyfer yr holl wybodaeth a'r deunyddiau dysgu am y Ddeddf, yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr. Dywedodd y gweithlu eu bod yn teimlo fod eu hadnoddau o ansawdd uchel ac yn ddefnyddiol, ac roedd cael popeth mewn un lle yn ei gwneud yn hawdd iddynt ddod o hyd i'r wybodaeth roeddent yn ei chwilio amdano.

Fodd bynnag, canfu'r adroddiad gwerthuso nad oedd y rhaglen wedi cyrraedd pob rhan o ofal cymdeithasol yng Nghymru hyd yn hyn. Daeth i'r casgliad bod angen mwy o waith i sicrhau bod pawb sy’n cael eu heffeithio gan y Ddeddf yn cael hyfforddiant.

Darllenwch y crynodeb gweithredol o adroddiad gwerthuso 2016-2017.