Gwahoddir sampl cynrychioliadol o’r gweithlu cofrestredig i gwblhau arolwg sy’n gofyn cwestiynau ar bynciau fel llesiant, sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol, tâl ac amodau, hyfforddiant a chymwysterau.
Bydd yr ymateb i'r arolwg yn dylanwadu ar ba un a gaiff ei gyflwyno wedyn bob blwyddyn.
Mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan asiantaeth ymchwil o Abertawe, Opinion Research Services (ORS). Mae’r arolwg, a’r hyn y mae’n bwriadu ei gyflawni, yn cael ei gefnogi gan gyrff sy’n gweithio’n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru.
Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae’n debyg mai’r ddwy flynedd ddiwethaf yw’r rhai anoddaf o ran cof byw i ofal cymdeithasol yng Nghymru ac nid yw pethau’n haws o lawer nawr. Mae difrod Covid a’r argyfwng costau byw wedi’i gwneud hi’n arbennig o heriol parhau i ddarparu gofal a chymorth i’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
“Dyna pam rydyn ni eisiau rhoi llais i weithwyr gofal cymdeithasol drwy’r arolwg hwn, er mwyn iddyn nhw allu dweud wrthym sut mae pethau mewn gwirionedd. Gyda'r wybodaeth hon, gallwn sicrhau bod ein gwaith yn eu cefnogi yn y ffordd fwyaf effeithiol.
“Rydym yn sylweddoli’r pwysau y mae pobl yn gweithio oddi tano a chyn lleied o amser sydd ganddynt y dyddiau hyn. Felly, mae’n debyg nad yw llenwi arolwg yn uchel ar eu rhestr o flaenoriaethau. Ond rydym yn gofyn am 15 munud o amser pobl i roi eu barn. Gallai fod yn amser a dreuliwyd yn dda iawn,” ychwanegodd Sue.