CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Siart llif gweithiwr gofal cymdeithasol

Mae’r siart llif hwn yn cefnogi’r broses ar gyfer gweithwyr newydd ym maes gofal cymdeithasol, sydd angen cofrestru gyda ni, ond nad oes ganddynt un o’r cymwysterau ar gyfer eu rôl a restrir yn y fframwaith cymwysterau (gweithwyr cartref gofal i oedolion, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr gofal preswyl i blant, gweithwyr cymorth mewn canolfan breswyl i deuluoedd).

Diagram o'r siart llif

Siart llif o'r broses i weithwyr gofal newydd

Canllaw cam-wrth-gam i'r broses

1. Mae gweithiwr gofal cymdeithasol newydd yn ymuno â sefydliad ac yn cwblhau’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae gweithiwr gofal cymdeithasol yn ymuno â’r sector ac yn dechrau cwblhau’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Argymhellir y dylai gwblhau’r fframwaith o fewn chwe mis i’r dyddiad cychwyn.

Awgrym

  • Mae cyflogwyr yn cysylltu’r fframwaith â’u prosesau sefydlu a phrawf eu hunain yn aml. Fel hyn, mae modd defnyddio unrhyw dystiolaeth a gynhyrchir fwy nag unwaith, a’i throsglwyddo rhwng sefydliadau sy’n cyflwyno’r fframwaith fel nad oes angen ailadrodd yr hyfforddiant.
  • Awgrym: Mae canllawiau ac adnoddau ar gael ar ein gwefan yn ymwneud â natur fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ei ddiben a’i gynulleidfa darged. Hefyd, mae awdurdodau lleol a rhanbarthau yn darparu cymorth i gwblhau’r fframwaith.
  • Mae rhai cyflogwyr yn defnyddio darparwyr hyfforddiant allanol fel darparwyr addysg bellach neu gwmnïau hyfforddiant lleol i helpu pobl i ddatblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gwblhau’r fframwaith. Fodd bynnag, mae angen cwblhau rhai rhannau o’r fframwaith yn y gweithle, fel yr elfennau ymarfer neu bolisïau a gweithdrefnau’r sefydliad.

2. Cwblhau asesiad gan gyflogwr a chofrestru gyda ni

Mae’r rheolwr yn cwblhau asesiad gan gyflogwr ac mae’r gweithiwr yn cofrestru gyda ni o fewn chwe mis.

Awgrym

  • Gellir defnyddio tystiolaeth a gynhyrchwyd wrth gwblhau’r fframwaith er mwyn cefnogi cais unigolyn i gofrestru trwy asesiad gan gyflogwr.
3. Ymrestru i gwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

Ar ôl cwblhau’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan, bydd y gweithiwr, y rheolwr, a’r asesydd cymwysedig yn cytuno bod y gweithiwr yn barod i gwblhau asesiad cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.

Awgrym

  • Mae cynnwys y fframwaith yn adlewyrchu cynnwys y cymhwyster Craidd. Gellir defnyddio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth a ddatblygwyd gan y gweithiwr wrth gwblhau’r fframwaith er mwyn cefnogi ei asesiad yn y cymhwyster Craidd.
4. Cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yn llwyddiannus

Mae’r gweithiwr yn cwblhau’r asesiadau mewnol ac allanol yn llwyddiannus ac mae’n ennill y cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.

Awgrym

5. Ymrestru ar gyfer cymhwyster Lefel 2 neu Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer perthnasol

Mae’r gweithiwr yn cychwyn y cymhwyster Lefel 2 neu Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.

Awgrym

  • Bydd y cyflogwr, yr asesydd a’r gweithiwr yn cydweithio i ddewis yr unedau dewisol mwyaf priodol i’w cwblhau.
6. Adnewyddu cofrestriad

Mae angen y cymwysterau Craidd ac Ymarfer pan fydd y gweithiwr yn adnewyddu ei gofrestriad (o fewn tair blynedd).

Cyhoeddwyd gyntaf: 8 Tachwedd 2022
Diweddariad olaf: 18 Ionawr 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (33.6 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch