CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Trais a cham-drin domestig - arweiniad i weithwyr proffesiynol

Live Fear Free: 0808 80 10 800

info@livefearfreehelpline.wales

Childline: 0800 1111.

Canllawiau i ymarferwyr

Mae Dr Sarah Wallace, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol De Cymru sydd a profiad o wneud gwaith ymchwil gyda sefydliadau cam-drin domestig ac wedi gweithio yn y trydydd sector yn rhoi cymorth i fenywod a dynion sy'n dioddef o drais a cham-drin domestig yma yn rhannu rhywfaint o ganllawiau i ymarferwyr gydnabod ac ymateb i gam-drin domestig a thrais.

Mae cam-drin domestig yn fater iechyd a gofal cymdeithasol difrifol. Gall unrhyw un cael ei gam-drin beth bynnag fo'i ryw, oed, ethnigrwydd, rhywioldeb, statws economaidd neu gefndir.

Er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael eu cefnogi'n ddiogel, rydym wedi nodi rhai adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol.

  • 'Adnabod ac ymateb i gamdriniaeth a thrais domestig - Canllaw cyflym i weithwyr cymdeithasol' a luniwyd gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE) a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae'r canllawiau'n cynnwys cyngor ar ofyn i rywun am drais a cham-drin yn y cartref, ymateb i ddatgeliad, a gwasanaethau arbenigol. Diweddarwyd y fersiwn hon i adlewyrchu cyd-destun Cymru.
  • Mae ‘SafeLives’, elusen cam-drin ddomestig ar hyd y DU, wedi datblygu'r ail adnodd ‘Getting it right first time’. Wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol nad ydynt yn gweithio mewn gwasanaethau cam-drin domestig, mae'n cynnwys tri cham, sef 'nodi, gofyn, a gweithredu ' os ydych yn amau bod rhywun yr ydych yn gweithio gydag ef neu'n ei gefnogi yn dioddef o gam-drin domestig.

Efallai bod gan rai sefydliadau eu polisïau gwaith cam-drin domestig eu hunain i gefnogi staff. Gall adnoddau eraill helpu cyflogwyr a chydweithwyr i ymateb yn ddiogel i cam-drin domestig yn y gweithle:

Help a chygor

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef o gamdriniaeth gorfforol neu emosiynol yn nwylo eich partner mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd – ffoniwch am ddim ar 0808 8010 800 unrhyw adeg, os gallwch ei wneud yn ddiogel. Gallwch hefyd yrru neges testun i 0786 007 7333, e-bost info@livefearfreehelpline.cymru neu sgwrsio trwy ‘webchat'.

Os na allwch chi siarad yn ddiogel, ac mae angen help arnoch ar unwaith, bydd yr heddlu ledled Cymru yn ymateb i alwadau 999 dawel – Deialwch 999 ac yna 55 i ddangos na allwch chi siarad, ond bod angen help arnoch chi.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 9 Ebrill 2020
Diweddariad olaf: 4 Ionawr 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (31.0 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch