CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Darparwyr dysgu

Canllawiau a chefnogaeth i ddarparwyr dysgu (ysgolion, colegau AB, Sefydliadau Addysg Uwch, darparwyr dysgu yn y gwaith), cynghorwyr gyrfaoedd, asiantaethau cyflogaeth ac asiantaethau gwirfoddoli ar sut i sefydlu beth fyddai'n gwneud lleoliad gwaith da, a beth fyddai angen bod ar waith i sicrhau cyfle dysgu diogel sy'n cyflwyno profiadau sy'n cwrdd ag amcanion lleoliad y dysgwr.

Manteision lleoliad gwaith

Gall defnyddio lleoliadau gwaith roi cyfleoedd i ddysgwyr:

  • Cael profiad o amrywiaeth o leoliadau gwaith a dysgu am amrywiaeth o rolau a fydd yn eu helpu i wneud dewisiadau gwybodus am yrfaoedd yn y dyfodol
  • O bosib, casglu pwyntiau UCAS i astudio mewn addysg uwch
  • Dysgu drwy brofiad ac asesu eu hymarfer i gyflawni elfen cymhwysedd ymarferol y cymwysterau yn y gwaith
  • Magu hyder a datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau a allai arwain at gyflogaeth
  • Rhoi eu gwybodaeth am bwnc ar waith i helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach

Bydd gweithio mewn partneriaeth dda gyda chyflogwyr i ddarparu cyfleoedd am leoliadau gwaith o ansawdd uchel i'ch dysgwyr, yn eich cefnogi chi i helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth a gwireddu’r profiadau a'r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer cam nesaf eu taith. Yn ogystal â'r manteision a restrir uchod gall lleoliadau gwaith gynnig cyfleoedd ar gyfer:

  • Defnyddio ystod ehangach o ddulliau asesu i gael tystiolaeth fwy cadarn a dibynadwy o gymhwysedd
  • Ymgysylltu â dysgwyr sy'n elwa o ffyrdd mwy ymarferol o ddysgu.

Mae gennym lawer o glipiau ffilm am wahanol rolau yn y sector ar wefan Gofalwn Cymru. Mae cyflogwyr hefyd yn hysbysebu eu swyddi gwag yno, felly anogwch eich dysgwyr i edrych ar beth sydd ar gael.

Paratoi ar gyfer lleoliad gwaith

Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd paratoi'n ofalus ar gyfer lleoliad gwaith, mae'n bwysig caniatáu digon o amser i gynllunio'n iawn. Mae yna nifer o bethau y bydd angen i chi eu hystyried yn ofalus cyn cynnig cyfleoedd am leoliad gwaith.

Rydym wedi darparu rhestr o gwestiynau isod a fydd yn ddefnyddiol.

Pethau i’w hystyried:
  • Beth yw anghenion y dysgwr / beth maen nhw eisiau ei gyflawni o’i lleoliad gwaith?
  • A oes unrhyw ofynion penodol o ran cymwysterau y mae'n rhaid i'r dysgwyr eu bodloni?
  • Oes gan y dysgwr unrhyw ofynion penodol y bydd angen i’r cyflogwr fod yn ymwybodol ohonyn nhw?
  • Ydy’r dysgwr yn gallu ymweld â’r safle cyn i’r lleoliad gwaith ddechrau?
  • Pa gyfleoedd sydd ar gael?
  • Paru anghenion y dysgwr ochr yn ochr â chyfleoedd a disgwyliadau’r cyflogwr
  • Gwneud yn siŵr bod y cyflogwr yn bodloni holl ofynion iechyd a diogelwch (gan gynnwys PPE), diogelu ac yswiriant atebolrwydd cyflogwyr ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
  • Edrych ar adroddiadau arolygu lle maent ar gael i sicrhau nad oes unrhyw feysydd o bryder a fyddai'n peryglu amcanion y lleoliad gwaith?
  • A yw’r holl wiriadau perthnasol e.e. DBS wedi’u cwblhau?
  • Caniatâd rhiant/gofalwr lle bo’r dysgwyr yn ddisgyblion ysgol
  • Eglurder ynglŷn â gweithgareddau, asesiad risg, offer a hyfforddiant angenrheidiol
  • Gwneud yn siŵr bod y cyflogwr yn deall unrhyw ofynion y cwrs gan gynnwys amserlen asesu
  • Mynediad i aseswyr lle mae’r lleoliad gwaith yn gysylltiedig â chyrhaeddiad cymwysterau
  • Trefniadau ar gyfer sesiynau sefydlu, goruchwyliaeth a chymorth
  • Trefniadau ar gyfer rhoi adborth
  • Gwaith papur sydd angen ei gwblhau e.e. cytundebau lleoliad gwaith.

Gellir defnyddio'r daflen wybodaeth lleoliad gwaith benodol ar gyfer dysgwr a enwir i ddarparu gwybodaeth i ddysgwyr am eu lleoliad.

Mae natur gwaith iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith chwarae, blynyddoedd cynnar a gofal plant, yn golygu y bydd dysgwyr mewn cysylltiad â phlant ac oedolion y gellid eu hystyried mewn perygl o niwed neu gamdriniaeth o ganlyniad i'w hoedran neu eu hamgylchiadau personol.

Mae angen gwiriadau DBS i bawb dros 16 oed a fydd yn gweithio'n rheolaidd gyda ‘phlant neu oedolion sy’n agored i niwed’ wrth wneud ‘gweithgareddau a reoleiddir’.

Gallwch gael mwy o fanylion am wiriadau ar wefan DBS.

Mae cyflogwyr yn gyfrifol am sicrhau bod pob dysgwr ar leoliad yn cael eu goruchwylio’n ddigonol yn y lleoliad gwaith.

Gwneud y gorau o gyfleoedd lleoliadau gwaith

Mae’n bwysig sicrhau y gall lleoliadau gwaith ddarparu'r cyfleoedd a'r cymorth sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion dysgwyr.

Mae’r adran hon yn amlinellu rhai meysydd y byddai'n ddefnyddiol eu hystyried.

Ymweliad cyn y lleoliad gwaith

Bydd rhai cyflogwyr yn cynnig cyfle i ddysgwyr ymweld â’r safle cyn eu lleoliad gwaith; bydd hyn yn gyfle iddyn nhw ofyn cwestiynau am y safle a'u lleoliad gwaith a dylai hyn gael ei annog. Efallai y bydd rhai cyflogwyr eisiau cyfweld â’r dysgwr i sicrhau eu bod yn addas. Bydd yn bwysig i helpu dysgwyr i feddwl am yr hyn maen nhw am ei gyflawni yn y lleoliad gwaith cyn i hyn ddigwydd.

Dylid cwblhau cytundeb lleoliad cyflogwr / dysgwr naill ai yn ystod neu ar ôl yr ymweliad cyn lleoliad.

Diwrnod 1

Mae’n bwysig i ddysgwyr wybod beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod 1af. Mae'n debyg mai dyma fydd eu profiad cyntaf o weithio yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith chwarae, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Bydd croeso cynnes a dechrau sydd wedi’i drefnu’n dda yn helpu i greu profiad positif.

Mae rhestr wirio Diwrnod 1 yn ffordd ddefnyddiol i’ch atgoffa am yr hyn y dylid ei gwmpasu. Mae’n bwysig bod pob dysgwr yn cael mentor i’w cefnogi drwy gydol eu lleoliad gwaith, gan gynnwys eu croesawu ar eu diwrnod cyntaf.

Mae mentor yn rhywun sy'n gallu cynnig cyngor ac arweiniad, gallant:

  • Helpu’r dysgwr i ddeall y lleoliad gwaith a’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonyn nhw
  • Bod yn fodel rôl gan arddangos gwerthoedd ac ymddygiad proffesiynol
  • Ateb cwestiynau a rhoi cymorth pan nad yw’r dysgwr yn siŵr
  • Rhoi sicrwydd ac anogaeth
  • Monitro a rhoi adborth i'r dysgwr o ran ymarfer a chynnydd
  • Pontio rhwng y dysgwr, y lleoliad gwaith a’r darparwr dysgu

Dylai mentoriaid fod yn weithwyr profiadol sy'n llawn cymhelliant a brwdfrydedd, dylent fod ar gael i'r dysgwr trwy gydol cyfnod y lleoliad gwaith.

Cyfnod sefydlu

Mae Fframweithiau Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn nodi'r gofynion ar gyfer gweithwyr newydd yn ystod eu 6 mis cyntaf o gyflogaeth. Mae’r gofyniad i ddysgwyr ar leoliad o fewn y sector iechyd yn cael eu nodi yn y Fframwaith Hyfforddi Sgiliau Craidd ac Uned ddysgu achrededig Sefydlu Clinigol.

Efallai y bydd cyflogwyr eisiau defnyddio'r fframweithiau i lywio'r broses sefydlu ar gyfer dysgwyr ar leoliad gwaith, drwy ddewis y meysydd sy'n gymesur ar gyfer amcanion y lleoliad gwaith ac sy’n briodol drwy gydol eu harhosiad gyda chi.

Dylai dysgwyr sy'n ymgymryd â lleoliad gwaith o goleg AB naill ai fod wedi ymgymryd ag un o'r cymwysterau Craidd ar gyfer ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, ac mae'r rhain yn cyd-fynd â chanlyniadau dysgu gwybodaeth y Fframweithiau Sefydlu. Dylid mapio unrhyw ddysgu achrededig ar gyfer y cymwysterau Craidd er mwyn osgoi dyblygu diangen.

Cyfleoedd dysgu

Bydd anghenion dysgu pob person yn wahanol, yn dibynnu ar y lleoliad gwaith ei hun a'u rheswm dros ymgymryd â'r lleoliad gwaith. Mae'n bwysig bod yn glir o ran amcanion y lleoliad gwaith o’r cychwyn cyntaf er mwyn i chi allu paru'r gweithgareddau y mae'r dysgwr yn ymwneud â nhw â'u hanghenion dysgu, gan ddarparu cyfleoedd addas ar gyfer eu datblygiad

Cadw cofnod myfyriol

Dylid disgwyl i bob dysgwr gadw cofnod myfyriol i nodi’r hyn a ddysgwyd; i rai, gall y fformat a’r strwythur gael eu pennu gan y rhaglen ddysgu y maent yn ymgymryd â hi a gall fod yn rhan o'u hasesiad ffurfiol; i eraill, bydd yn gofnod defnyddiol ar gyfer eu datblygiad eu hunain yn hytrach na chyrhaeddiad cymwysterau.

Bydd gan fentoriaid rôl bwysig yma wrth gynorthwyo dysgwyr i fyfyrio yn ogystal â darparu adborth ar eu harfer a'u cynnydd. Mae myfyrio ar sut mae'r dysgwr yn cysylltu gwerthoedd ac egwyddorion y sectorau â'r hyn y mae'n ei wneud yn arbennig o bwysig.

Astudiaeth achos o arfer da:

'Roedd Megan yn gwneud ei chymhwyster ymarfer CCPLD lefel 2 drwy ei choleg AB lleol. Er mwyn cyflawni'r cymhwyster, roedd angen asesu ei hymarfer yn erbyn y safonau a'r meini prawf a osodwyd yn y cymhwyster.

Roedd Rebecca, rheolwr Little Scholars Nursery, wedi cwrdd â’r swyddog lleoliadau gwaith o’r coleg i gytuno ar yr hyn oedd ei angen i gefnogi lleoliad gwaith positif. Bu’r ddwy yn siarad am y tasgau cymhwyster, ei hanghenion dysgu a rhywfaint am y dysgwr oedd yn dod ar leoliad gwaith.

Yna gwahoddwyd Megan i edrych o gwmpas y lleoliad ac i gwrdd â'i mentor cyn i'r lleoliad gwaith ddechrau. Yn ystod yr ymweliad hwn, dywedwyd wrthi am y cod gwisg disgwyliedig, ymddygiad a chyfrinachedd a rhoddwyd rhywfaint o wybodaeth am y lleoliad i'w ddarllen. Cafodd ei chynghori y gallai ofyn cwestiynau ar unrhyw adeg ac yna treuliodd amser yn gweithio drwy ei thasgau cymhwyster gyda Rebecca i amlinellu'r dysgu a'r profiadau yr oedd hi'n gobeithio eu cael. Roedd yr ymweliad cychwynnol hwn yn bwysig i Megan wrth iddi ddechrau’r broses sefydlu yn y lleoliad ac yn caniatáu iddi weithio gyda'r rheolwr i sicrhau y gallai'r lleoliad gynnig y cyfleoedd yr oedd eu hangen arni i gyflawni ei chymhwyster. Roedd yr ymweliad hefyd yn caniatáu i staff gynllunio ar gyfer ei lleoliad gwaith yn fwy manwl a dechrau paratoi'r cynllun dysgu ar gyfer Megan.

Cyrhaeddodd Megan ar ei diwrnod cyntaf yn barod i ddechrau sesiwn sefydlu llawn gyda’i mentor ac i wirio, cytuno a mynd drwy’r cynllun lleoliad gwaith a'r cynllun dysgu. Aeth ei lleoliad gwaith yn ei flaen gan wybod pa safonau a ddisgwylid a phwy i droi atynt am gyngor, mwynhaodd gefnogaeth barhaus ei mentor a'r tîm o staff gyda chyfarfodydd wythnosol i drafod ei datblygiad a'r camau nesaf. Dros gyfnod ei lleoliad gwaith, cyflawnodd yr holl dargedau a osodwyd a datblygodd sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ochr yn ochr â thwf mewn hyder a gwell dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i fod yn rhan o dîm mewn lleoliad gofal plant.'

Bodloni gofynion ar gyfer rheoliadau, safonau a deddfwriaeth

Mae'n hanfodol wrth gael mynediad at gyfleoedd am leoliadau gwaith, eich bod yn sicrhau eich bod y cyflogwr wedi cadarnhau eu bod yn bodloni’r gofynion o ran y rheoliadau, safonau a deddfwriaeth berthnasol. Rhestrir rhai o'r gofynion allweddol isod.

Diogelu

Rhaid hysbysu pob dysgwr am drefniadau diogelu yn y lleoliad gwaith, dylai hyn gynnwys o leiaf:

  • Adrodd ar bryderon a chwythu’r chwiban
  • Cyfrinachedd
  • Sut i gadw eu hunain ac unigolion / plant yn ddiogel yn y lleoliad gwaith.

Iechyd a Diogelwch

Rhaid i ddysgwyr fod yn ymwybodol o iechyd a diogelwch drwy’r amser tra ar leoliad gwaith. Rhaid eu hysbysu os ydyn nhw'n gweld unrhyw beth y maen nhw'n meddwl sy'n beryglus neu'n berygl iddyn nhw eu hunain neu i eraill, eu adrodd i'w mentor neu reolwr y lleoliad gwaith. Gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r trefniadau diogelwch tân os bydd argyfwng tân.

Diogelu Data a Chyfrinachedd

Rhaid i ddysgwyr ddeall eu cyfrifoldeb i sicrhau bod gwybodaeth am unigolion neu blant a’u teuluoedd/gofalwyr yn cael ei thrin mewn ffordd gyfrinachol a diogel, a phan fyddant ar leoliad gwaith efallai y byddant yn gweld pobl y maent yn eu hadnabod, ond ni ddylid byth gofyn cwestiynau personol a allai achosi embaras. Ni ddylid byth trafod unrhyw beth maen nhw'n ei glywed neu'n gweld am unigolion neu blant a’u teuluoedd/gofalwyr y tu allan i leoliad iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant. Gallant drafod gyda pherthnasau / ffrindiau yr hyn y maen nhw wedi bod yn ei wneud o ran gweithgareddau a phrofiadau ond ni ddylid byth trafod unigolion neu blant, eu teuluoedd/gofalwyr neu weithwyr.

Rheoliadau, safonau a deddfwriaeth

Canllawiau statudol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol ar fodloni rheoliadau safonau gwasanaethau ar gyfer:

  • Gwasanaethau gofal cartref
  • Gwasanaethau cymorth cartref
  • Gwasanaethau llety diogel; a
  • Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd.

Mae yna hefyd reoleiddio, safonau a deddfwriaeth ar:

Gofynion penodol y cwrs ar gyfer lleoliadau gwaith

Rhaid i chi sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o unrhyw ofynion penodol ar gyfer dysgwyr sy’n dod ar leoliad gwaith a bod y gweithgareddau a'r cymorth y gallant eu darparu yn diwallu eu hanghenion.

Rhoi adborth

Elfen bwysig o lwyddiant lleoliad gwaith i gyflogwyr a dysgwyr yw cael adborth cadarn, adeiladol a chlir.

Dylai'r mentor a ddewiswyd fod yn monitro ymarfer dysgwyr yn barhaus ac yn rhoi adborth sy'n cefnogi eu dysg a'u datblygiad. Mae gwerthusiad ar ddiwedd y lleoliad gwaith yn rhoi cyfle i'r dysgwr a'r cyflogwr edrych yn ôl dros gyfnod y lleoliad gwaith, ac i ystyried y profiad a'r hyn a ddysgwyd. Gellir defnyddio gwerthusiad diwedd lleoliad i helpu'r dysgwr i wneud hyn.

Efallai y bydd adegau pan fydd rhaid i’r cyflogwr roi adborth negyddol lle mae addasrwydd i weithio yn y sector, ymarfer neu ymddygiad dysgwyr yn peri pryder. Dylai'r broses ar gyfer adrodd ar unrhyw bryderon gael ei chytuno gyda'r cyflogwr a’r dysgwr cyn i’r lleoliad gwaith ddechrau, a dylai hynny gynnwys y posibilrwydd o dynnu’r dysgwr o’r lleoliad gwaith. Mae'n rhaid gweithredu ar bryderon diogelu yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019).

Dylech hefyd gael proses yn ei lle i ddysgwyr roi adborth, gan gynnwys unrhyw bryderon sy’n gysylltiedig â’u lleoliad gwaith.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig