CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cymwysterau blynyddoedd cynnar a gofal plant rhyngwladol

Ein proses ar gyfer cydnabod cymwysterau blynyddoedd cynnar a gofal plant rhyngwladol.

Rhaid i unrhyw un a hoffai weithio ym maes gofal plant a blynyddoedd cynnar yng Nghymru feddu ar gymhwyster sydd wedi’i gynnwys ar y fframwaith cymhwyster.

Os hoffech chi weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, ond nid yw'ch cymhwyster ar y rhestr, gan ei fod yn gymhwyster rhyngwladol, gallwch chi ofyn i ni asesu’r cymhwyster. Mae'r broses hon yn mapio'ch cymhwyster yn erbyn yr hyn sy'n cyfateb i Gymru ac yn gadael i chi wybod beth sydd angen i chi ei wneud i weithio mewn lleoliad yng Nghymru.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y broses a'r meini prawf isod. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn CymwysterauRhyngwladol@gofalcymdeithasol.cymru.


Mae'r broses hon hefyd ar gael i'w lawrlwytho yma:

Pa dystiolaeth sydd angen i mi anfon?

I wirio eich cymhwyster bydd angen y dystiolaeth ganlynol arnom er mwyn i ni gynnal gwiriad cywerthedd â chymwysterau rhyngwladol:

  • copi o gynnwys y cwrs trwy fanyleb gwrs – restr o'r hyn a gafodd ei gynnwys yn eich cymhwyster
  • modiwlau a gyflawnwyd a chanlyniad (llwyddo/methu unrhyw radd) – yr hyn a astudiwyd gennych a'ch canlyniad
  • tystiolaeth o gymhwysedd a aseswyd yn y gweithle a nifer yr oriau – eich oriau lleoliad gwaith gan gynnwys sut y cawsoch eich asesu e.e. arsylwadau
  • tystysgrifau cwblhau – copi o'ch tystysgrifau terfynol.

Mae angen e-bostio’r wybodaeth uchod i CymwysterauRhyngwladol@gofalcymdeithasol.cymru.

Ni allwn brosesu cais heb y dystiolaeth hon.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nhystiolaeth?

Unwaith y bydd gennym yr holl dystiolaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn cynnal gwiriad cymhwyster.

Gall fod tri chanlyniad o hyn:

  • Ystyrir bod cymhwyster yn gyfwerth ac nid oes angen unrhyw gamau pellach.
  • Nid yw cymhwyster yn gyfwerth ond gellir cymryd mesurau digolledu i wneud iawn am y diffygion. Gallai hyn gynnwys amser lleoliad, cwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan neu ofynion eraill.
  • Nid yw'r cymhwyster yn gyfwerth ac mae angen cymhwyster Cymraeg llawn.

Ein nod yw cwblhau'r gwiriad o fewn 21 diwrnod gwaith o dderbyn yr holl dystiolaeth ofynnol a byddwn yn rhoi gwybod am y canlyniad o fewn yr amser hwnnw. Os byddwn yn gofyn am dystiolaeth bellach, neu os yw'r ymgeisydd am ddarparu tystiolaeth ychwanegol fel rhan o apêl, bydd hyn yn cymryd 21 diwrnod o'r diwrnod y gwneir y cais.