CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cyflogwyr

Canllawiau i gyflogwyr sydd am fuddsoddi yn natblygiad gweithlu'r dyfodol a'i gefnogi, gan ysgogi ac ysbrydoli pobl i weithio yn y sectorau. Dyma wybodaeth am yr hyn y dylech fod wedi'i sefydlu i ddiwallu anghenion dysgwyr, gofynion rheoliadol neu ddeddfwriaethol a sut i sicrhau'r buddion mwyaf posibl i'ch lleoliad / darpariaeth gwasanaeth.

Manteision lleoliad gwaith

Gall cynnig cyfleoedd am leoliadau gwaith ddod â chyfoeth o fanteision:

  • Gwneud y gorau o gronfa bosibl o weithwyr a chyfrannu at ddatblygiad y genhedlaeth nesaf o weithlu hynod fedrus
  • Dysgu wrth adborth ac argraffiadau dysgwyr i wella'ch gwasanaeth
  • Adolygu safonau ac arferion yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn gyfoes ac o ansawdd da
  • Hyrwyddo gwerth y sectorau, yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael ac ysgogi pobl i weithio mewn iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant fel gyrfa o ddewis
  • Hyrwyddo eich gwasanaeth eich hun a'r hyn sydd ganddo i'w gynnig
  • Cefnogi datblygiad eich gweithlu eich hun drwy fentora

Rhaid nodi, mae paratoi a chynnig cymorth ar gyfer cyfleoedd lleoliad gwaith o ansawdd uchel yn cymryd cryn amser, ac mae angen meddwl yn ofalus amdano er mwyn sicrhau bod y profiad yn bositif ac yn werthfawr i bawb sy'n cymryd rhan.

Paratoi ar gyfer lleoliad gwaith

Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd paratoi'n ofalus ar gyfer lleoliad gwaith, mae'n bwysig caniatáu digon o amser i gynllunio'n iawn. Mae yna nifer o bethau y bydd angen i chi eu hystyried yn ofalus cyn cynnig cyfleoedd am leoliad gwaith - os nad oes gennych chi un yn barod, efallai yr hoffech chi ddatblygu polisi ar gyfer derbyn lleoliadau gwaith.

Rydym wedi darparu rhestr o gwestiynau isod a fydd yn ddefnyddiol ac mae rhestr wirio cyflogwyr yn paratoi ar gyfer lleoliadau gwaith ich helpu chi.

Pethau i’w hystyried:
  • Pa wybodaeth allwch chi ei darparu am y lleoliad gwaith - beth mae'n ei wneud, pwy sy'n ei ddefnyddio, pwy sy'n gweithio yno, y lleoliad, a yw wedi'i gofrestru a'i reoleiddio etc.
  • Ydy’r dysgwr yn gallu ymweld â’r safle cyn i’r lleoliad gwaith ddechrau?
  • Ydych chi am gyfweld â’r dysgwr cyn cynnig lleoliad gwaith?
  • Pa fathau o weithgareddau y bydd dysgwyr yn gallu eu gwneud yn eich lleoliad ac yw’r rhain wedi’u hasesu’n drylwyr o ran risg?
  • Pa fathau o weithgareddau na ddylai dysgwyr eu gwneud?
  • A fydd y gweithgareddau yn diwallu amcanion y dysgwr ar gyfer y lleoliad gwaith?
  • Beth sydd angen ei ystyried o ran caniatâd unigolion / teuluoedd / gofalwyr / plant sy'n cael mynediad at y gwasanaeth?
  • Sut gallwch chi gynnwys unigolion / teuluoedd / gofalwyr / plant sy'n cael mynediad at y gwasanaeth?
  • Sut bydd y dysgwr yn cael sesiwn sefydlu a’i oruchwylio?
  • Pwy fydd yn gweithredu fel mentor iddyn nhw?
  • Beth yw’r trefniadau ar gyfer rhoi adborth?
  • Pa offer a hyfforddiant (gan gynnwys y defnydd o Gyfarpar Diogelu Personol) fydd angen i’r dysgwr ei gael ar gyfer y rôl tra ar leoliad gwaith?
  • Pa hyfforddiant sydd ei angen cyn y lleoliad gwaith?
  • A oes unrhyw reoliadau, safonau neu ddeddfwriaeth benodol y mae angen eu hystyried e.e. Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, Iechyd a Diogelwch, Diogelu etc?
  • A oes yswiriant atebolrwydd cyflogwyr ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus wedi’u trefnu i gynnwys dysgwyr ar leoliad lle bo angen?
  • Pa wiriadau sydd eu hangen? e.e. DBS?
  • Faint o ddysgwyr y gellir cynnig lleoliad gwaith iddynt yn ddiogel ar unrhyw un adeg?
  • Pa bolisïau a gweithdrefnau allweddol y bydd angen i'r dysgwr wybod amdanynt e.e. diogelu, cyfathrebu a chyfrinachedd, iechyd a diogelwch, codau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol?
  • Pa weithdrefnau sydd angen eu sefydlu ar gyfer riportio unrhyw bryderon am ddysgwyr, os na fyddant yn troi i fyny neu os bydd damwain neu ddigwyddiad?
  • Beth fydd angen i’r dysgwr wybod cyn iddyn nhw gyrraedd e.e agweddau ymarferol fel amser dechrau a gorffen, amser seibiant, cod gwisg, defnyddio ffonau symudol, trefniadau teithio a chynhaliaeth?
  • Beth fydd angen iddyn nhw wybod ar y diwrnod 1af?
  • Pa waith papur sydd angen ei gwblhau e.e. cytundebau lleoliad gwaith?

Mae taflen wybodaeth lleoliad gwaith gyffredinol i gyflogwyr hysbysebu cyfleoedd ar ôl i chi benderfynu beth allwch chi ei gynnig.

Mae natur gwaith iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith chwarae, blynyddoedd cynnar a gofal plant, yn golygu y bydd dysgwyr mewn cysylltiad â phlant ac oedolion y gellid eu hystyried mewn perygl o niwed neu gamdriniaeth o ganlyniad i'w hoedran neu eu hamgylchiadau personol.

Mae angen gwiriadau DBS i bawb dros 16 oed a fydd yn gweithio'n rheolaidd gyda ‘phlant neu oedolion sy’n agored i niwed’ wrth wneud ‘gweithgareddau a reoleiddir’. Gallwch gael mwy o fanylion am wiriadau DBS ar wefan gov.uk.

Mae cyflogwyr yn gyfrifol am sicrhau bod pob dysgwr ar leoliad yn cael eu goruchwylio’n ddigonol yn y lleoliad gwaith.

Gwneud y gorau o gyfleoedd lleoliadau gwaith

Mae'n bwysig buddsoddi'n iawn mewn cyfleoedd lleoliadau gwaith - rydych chi'n meithrin gweithlu'r dyfodol, gan ddechrau dysgwyr gyda sylfaen gadarn yng ngwerthoedd ac egwyddorion iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith chwarae, blynyddoedd cynnar a gofal plant; bydd y rhain, yn ogystal â dealltwriaeth dda o arferion diogel, yn cyfrannu at ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel. Bydd y profiad y mae dysgwyr yn ei gael ar leoliad yn aros gyda nhw am byth, dyma'ch cyfle i greu argraff dda.

Mae’r adran hon yn amlinellu rhai meysydd y byddai'n ddefnyddiol eu hystyried.

Ymweliad cyn y lleoliad gwaith

Efallai y byddwch am gynnig cyfle i’r dysgwr ymweld â’r safle cyn eu lleoliad gwaith; bydd hyn yn gyfle iddyn nhw ofyn cwestiynau am y safle a'u lleoliad gwaith. Efallai y bydd rhai cyflogwyr eisiau cyfweld â dysgwyr i sicrhau eu bod yn addas. Mae’n bwysig meddwl am yr hyn y gallwch ei gynnig yn y lleoliad gwaith a'r hyn rydych chi'n edrych amdano cyn i hyn ddigwydd.

Dylid cwblhau cytundeb lleoliad cyflogwr / dysgwr naill ai yn ystod neu ar ôl yr ymweliad cyn lleoliad.

Diwrnod 1

Mae’n bwysig i ddysgwyr wybod beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod 1af. Mae'n debyg mai dyma fydd eu profiad cyntaf o weithio yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith chwarae, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Bydd croeso cynnes a dechrau sydd wedi’i drefnu’n dda yn helpu i greu profiad positif.

Mae rhestr wirio diwrnod 1 yn ffordd ddefnyddiol i’ch atgoffa am yr hyn y dylid ei gwmpasu.

Mae’n bwysig bod pob dysgwr yn cael mentor i’w cefnogi drwy gydol eu lleoliad gwaith, gan gynnwys eu croesawu ar eu diwrnod cyntaf.

Mae mentor yn rhywun sy'n gallu cynnig cyngor ac arweiniad, gallant:

  • Helpu’r dysgwr i ddeall y lleoliad gwaith a’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonyn nhw
  • Bod yn fodel rôl gan arddangos gwerthoedd ac ymddygiad proffesiynol
  • Ateb cwestiynau a rhoi cymorth pan nad yw’r dysgwr yn siŵr
  • Rhoi sicrwydd ac anogaeth
  • Monitro a rhoi adborth i'r dysgwr o ran ymarfer a chynnydd
  • Pontio rhwng y dysgwr, y lleoliad gwaith a’r darparwr dysgu

Dylai mentoriaid fod yn weithwyr profiadol sy'n llawn cymhelliant a brwdfrydedd, dylent fod ar gael i'r dysgwr trwy gydol cyfnod y lleoliad gwaith.

Cyfnod sefydlu

Mae Fframweithiau Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn nodi'r gofynion ar gyfer gweithwyr newydd yn ystod eu 6 mis cyntaf o gyflogaeth. Mae’r gofyniad i ddysgwyr ar leoliad o fewn y sector iechyd yn cael eu nodi yn y Fframwaith Hyfforddi Sgiliau Craidd ac Uned ddysgu achrededig Sefydlu Clinigol.

Efallai yr hoffech ddefnyddio'r fframweithiau i lywio'r broses sefydlu ar gyfer dysgwyr ar leoliad gwaith - gallwch ddewis y meysydd rydych chi'n meddwl sy'n gymesur ar gyfer amcanion y lleoliad gwaith ac sy’n briodol drwy gydol eu harhosiad gyda chi. Bydd dysgwyr sy'n ymgymryd â lleoliad gwaith o goleg AB naill ai wedi ymgymryd ag un o'r cymwysterau Craidd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, mae'r rhain yn cyd-fynd â chanlyniadau dysgu gwybodaeth y Fframweithiau Sefydlu. Dylid mapio unrhyw ddysgu achrededig ar gyfer y cymwysterau Craidd er mwyn osgoi dyblygu diangen, a dylai'r darparwr dysgu allu cyflwyno gwybodaeth am hyn.

Ar gyfer y dysgwyr hynny ar Raglenni Mynediad, dylid mapio hefyd er mwyn osgoi ailadrodd.

Cyfleoedd dysgu

Bydd anghenion dysgu pob person yn wahanol, yn dibynnu ar y lleoliad gwaith ei hun a'u rheswm dros ymgymryd â'r lleoliad gwaith. Mae'n bwysig bod yn glir o ran amcanion y lleoliad gwaith o’r cychwyn cyntaf er mwyn i chi allu paru'r gweithgareddau y mae'r dysgwr yn ymwneud â nhw â'u hanghenion dysgu, gan ddarparu cyfleoedd addas ar gyfer eu datblygiad

Cadw cofnod myfyriol

Dylid disgwyl i bob dysgwr gadw cofnod myfyriol i nodi’r hyn a ddysgwyd; i rai, gall y fformat a’r strwythur gael eu pennu gan y rhaglen ddysgu y maent yn ymgymryd â hi a gall fod yn rhan o'u hasesiad ffurfiol; i eraill, bydd yn gofnod defnyddiol ar gyfer eu datblygiad eu hunain yn hytrach na chyrhaeddiad cymwysterau.

Mae templed cofnod myfyrio iw ddefnyddio ar gyfer myfyrio; bydd gan fentoriaid rôl bwysig wrth helpu dysgwyr i adlewyrchu, yn ogystal â rhoi adborth ar eu hymarfer a'u cynnydd. Mae myfyrio ar sut mae'r dysgwr yn cysylltu gwerthoedd ac egwyddorion y sectorau â'r hyn y mae'n ei wneud yn arbennig o bwysig.

Astudiaeth achos o arfer da:

'Roedd gan Lynsey, rheolwr Rossett House Nursery, berthynas hirhoedlog gyda'r darparwr dysgu sy'n gysylltiedig â rhaglen ddysgu lefel 3 Farah ac roedd yn gyfarwydd â’r safonau yr oedd disgwyl i Farah eu cyrraedd.

Mynychodd Farah gyfarfod i drafod y lleoliad gwaith a thrafodwyd gyda Lynsey ei disgwyliadau am y cyfleoedd y gallai'r lleoliad eu cynnig. I ddechrau, gan ei bod ar gwrs lefel 3, roedd Farah yn disgwyl gallu cael mynediad at gofnodion cyfrinachol a gweithio gyda lefel gyfyngedig o oruchwyliaeth, ac eglurodd Lynsey nad oedd hynny’n bosibl ac esboniodd y rheoliadau roedd angen iddynt eu bodloni yn y lleoliad.

Roedd Farah yn siomedig i weld bod cyfyngiadau nad oedd hi wedi disgwyl i’r lleoliad gwaith eu gweithredu, ond o gnoi cil yn ddiweddarach, roedd cael y cyfle i ddeall y rhesymau dros y rhain yn ddefnyddiol. Teimlai Farah bod y profiad wedi’i helpu i ddyfnhau ei gwybodaeth am reoliadau'r sector yn ymarferol. Roedd y broses o gytuno ar gynllun dysgu yn ystod y cam hwn yn golygu bod Farah wedi gallu addasu ei disgwyliadau cyn y lleoliad gwaith ac i baratoi'n bositif ar gyfer dechrau da.

Datblygodd lleoliad gwaith Farah yn dda o’i sesiwn sefydlu, gyda chyfarfodydd rheolaidd gyda’i mentor a chymorth lleoliad gwaith mewnol gan staff. Roedd ganddi gyswllt rheolaidd gyda'i darparwr dysgu ac roedd hi'n gallu dangos mwy o aeddfedrwydd yn ei dealltwriaeth o beth mae'n ei olygu i gael eich cyflogi mewn maes o gyfrifoldeb, pwysigrwydd sgiliau arwain, datblygu gwybodaeth a sgiliau mewn maes arbenigol, gwerth cyfrannu at wybodaeth a dealltwriaeth tîm o ran arfer gorau mewn addysg cyn oed ysgol.

Dros amser, cyflawnodd Farah y canlyniadau disgwyliedig o'i lleoliad gwaith a theimlai’n hyderus yn ei gallu i weithio mewn tîm er mwyn sicrhau gwelliant. Llwyddodd i fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd ac i gydnabod ei chynnydd. Pan edrychodd yn ôl ar ei chyfarfod cychwynnol a'r angen i adolygu ei chynlluniau, gallai weld pwysigrwydd y cam cyntaf a dywedodd fod ganddi bellach barch gwybodus at benderfyniadau'r rheolwr. Dywedodd hefyd ei bod yn teimlo y byddai dysgu o'r profiad yn ei gwneud hi'n well rheolwr ryw ddydd.'

Bodloni gofynion ar gyfer rheoliadau, safonau a deddfwriaeth

Mae'n hanfodol wrth gynnig cyfleoedd am leoliadau gwaith, eich bod yn sicrhau eich bod yn bodloni’r gofynion o ran rheoliadau, safonau a deddfwriaeth berthnasol. Rhestrir rhai o'r gofynion allweddol isod. Dylid rhannu polisïau a gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â'r gofynion allweddol hyn â dysgwyr.

Diogelu

Rhaid hysbysu pob dysgwr am drefniadau diogelu yn y lleoliad gwaith, dylai hyn gynnwys o leiaf:

  • Riportio pryderon a chwythu’r chwiban
  • Cyfrinachedd
  • Sut i gadw eu hunain ac unigolion / plant yn ddiogel yn y lleoliad gwaith

Iechyd a Diogelwch

Rhaid i chi sicrhau bod pob dysgwr yn deall polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch y lleoliad gwaith, mae hyn yn cynnwys yr hyn y mae'n rhaid iddynt ei wneud os ydynt yn gweld perygl neu unrhyw beth a allai fod yn beryglus iddyn nhw eu hunain neu i eraill. Rhaid eu gwneud yn ymwybodol o'r trefniadau diogelwch tân os bydd argyfwng tân.

Diogelu Data a Chyfrinachedd

Rhaid i chi sicrhau bod pob dysgwr yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb i sicrhau bod gwybodaeth am unigolion neu blant a’u teuluoedd/gofalwyr yn cael ei thrin mewn ffordd gyfrinachol a diogel. Rhaid iddyn nhw wybod nad ydyn nhw byth yn cael trafod unrhyw beth maen nhw'n ei glywed neu'n gweld am unigolion neu blant a’u teuluoedd/gofalwyr y tu allan i leoliad iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant. Gallant drafod gyda pherthnasau / ffrindiau yr hyn y maen nhw wedi bod yn ei wneud o ran gweithgareddau a phrofiadau ond ni ddylid byth trafod unigolion neu blant, eu teuluoedd/gofalwyr neu weithwyr.

Rheoliadau, safonau a deddfwriaeth

Canllawiau statudol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol ar fodloni rheoliadau safonau gwasanaethau ar gyfer:

  • Gwasanaethau gofal cartref
  • Gwasanaethau cymorth cartref
  • Gwasanaethau llety diogel; a
  • Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd.

Mae yna hefyd reoleiddio, safonau a deddfwriaeth ar:

Gofynion penodol y cwrs ar gyfer lleoliadau gwaith

Pan fydd dysgwyr yn ymgymryd â lleoliad gwaith gyda chi fel rhan o gwrs neu gymhwyster, bydd gofynion penodol y bydd angen iddynt eu bodloni o ran y gweithgareddau y maent yn ymgymryd â nhw i ddatblygu eu hymarfer. Gall hyn gynnwys rhoi mynediad i aseswyr a fydd yn dod i'r gweithle i asesu ymarfer y dysgwr yn ffurfiol.

Bydd y darparwr dysgu yn rhoi gwybod i chi am unrhyw drefniadau cyn i’r lleoliad gwaith ddechrau - dylid manylu ar y rhain yn y cytundeb lleoliad darparwr dysgu/cyflogwr.

Mae rhai o'r cymwysterau sydd â gofynion penodol yn cynnwys:

  • Graddau mewn nyrsio, therapi galwedigaethol a gwaith cymdeithasol
  • Graddau mewn astudiaethau plant y blynyddoedd cynnar gyda Statws Proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar
  • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefelau 2 a 3
  • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Lefelau 2 a 3
  • TGAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
  • TAG Uwch a TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau Lefelau 2 a 3
  • Gwaith chwarae lefel 2 a 3.

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, gellir dod o hyd i’r holl gymwysterau ymarfer ar gyfer gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yn ein Fframwaith Cymwysterau.

Gellir gweld cymwysterau ymarfer ar gyfer gofal plant rheoledig i blant a phobl ifanc rhwng 5 ac 8 oed ar Fframwaith Cymwysterau PlayWales.

Bydd Sefydliadau Addysg Uwch yn gosod gofynion penodol ar gyfer eu rhaglenni lleoliad gwaith a dylid cysylltu â nhw i gael mwy o wybodaeth.

Gellir gweld canllawiau sy'n manylu ar y gofynion ar gyfer y rhan fwyaf o'r cymwysterau eraill ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru.

Rhoi adborth

Elfen bwysig o lwyddiant lleoliad gwaith i gyflogwyr a dysgwyr yw cael adborth cadarn, adeiladol a chlir.

Dylai'r mentor a ddewiswyd fod yn monitro ymarfer dysgwyr yn barhaus ac yn rhoi adborth sy'n cefnogi eu dysg a'u datblygiad. Mae gwerthusiad ar ddiwedd y lleoliad gwaith yn rhoi cyfle i'r dysgwr a'r cyflogwr edrych yn ôl dros gyfnod y lleoliad gwaith, ac i ystyried y profiad a'r hyn a ddysgwyd. Mae templed gwerthusiad diwedd lleoliad ar gael a allai eich helpu i wneud hyn.

Efallai y bydd adegau pan fydd rhaid i chi roi adborth negyddol lle mae addasrwydd i weithio yn y sector, ymarfer neu ymddygiad dysgwyr yn peri pryder. Dylai'r broses ar gyfer riportio unrhyw bryderon gael ei chytuno gyda'r darparwr dysgu a'r dysgwr cyn i’r lleoliad gwaith ddechrau, a dylai hynny gynnwys y posibilrwydd o dynnu’r dysgwr o’r lleoliad gwaith. Mae'n rhaid gweithredu ar bryderon diogelu yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019).

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig