CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cefnogi plant sy’n byw mewn cartrefi gofal plant preswyl i feithrin perthnasoedd â’u ffrindiau

Dysgwch fwy am gefnogi plant sy’n byw mewn cartrefi gofal plant preswyl i feithrin perthnasoedd â’u ffrindiau

Cefnogi perthnasoedd diogel a phriodol

Mae perthnasoedd â chyfoedion sy’n ffrindiau yn gallu bod yn gymorth gwerthfawr i bobl ifanc sydd heb gael perthnasoedd diogel a sefydlog â’u teulu.

Mae’n bosibl y bydd y plant sydd dan eich gofal yn cael bod y profiad o rannu cyfeillgarwch yn her iddynt ond bydd yn bwysig eu hatgoffa bod pob person ifanc yn teimlo felly ar adegau.

Rydym wedi gweld pa mor werthfawr yw perthnasoedd cadarnhaol ac ystyrlon i blant a phobl ifanc ar y dudalen flaenorol. Er hynny, mae risgiau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.

Mae’n bosibl y bydd rhai pobl ifanc, am eu bod yn agored i niwed, yn ffurfio cyfeillgarwch peryglus neu gamdriniol â’u cyfoedion. Dylech godi unrhyw bryderon sydd gennych gyda’ch goruchwyliwr a rhoi gwybod i’r awdurdod lleol amdanynt. Hefyd dylech gytuno ar strategaethau i reoli a monitro perthnasoedd o’r fath.

Gofalwch fod sail i’ch pryderon ac nad ydynt wedi’u seilio ar ragdybiaethau.

Yn ystod y glasoed, bydd pobl ifanc yn dechrau ystyried a ffurfio perthnasoedd personol. Dylech gydnabod pwysigrwydd y perthnasoedd hyn a darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol os yw’n briodol ac os oes angen.

Creu amgylchedd cartrefol yn y cartref

Mae nifer mawr o bobl ifanc yn teimlo stigma ac annhegwch o ganlyniad i’r ffaith eu bod mewn gofal neu’n teimlo cywilydd am eu bod yn byw mewn cartref plant.

Drwy greu amgylchedd yn y cartref sy’n gynnes, croesawgar a chartrefol, byddwch yn cymell pobl ifanc i wahodd eu ffrindiau adref. Dylech ceisio darparu mannau preifat iddynt os yw hynny’n briodol.

Yn ymarferol, gall fod yn anodd hwyluso ymweliadau â’r cartref oherwydd yr anghenion sydd gan blant a phobl ifanc eraill sy’n byw yno. Ond fe ddylech wneud pob ymdrech i helpu’r plant sydd dan eich gofal i ffurfio cyfeillgarwch arferol.

Cefnogi perthnasoedd â chyfoedion yn y cartref

Mae cefnogi perthnasoedd rhwng plant a phobl ifanc sy’n byw yn y cartref yn gallu cynnig her weithiau a bydd angen rheoli hyn yn ofalus. Os ydych chi’n cymryd rhan yn y broses paru a bod plant newydd yn symud i’r cartref, dylech ystyried y rhyngweithio rhwng yr holl blant yn ofalus.

Fodd bynnag, fe geir cyfle gwerthfawr yn y cartref i bobl ifanc feithrin perthnasoedd cadarnhaol. Gallwch helpu yn hyn o beth drwy hyrwyddo diddordebau cyffredin ymysg pobl ifanc a chydweithio ar gyfathrebu cadarnhaol a datrys gwrthdaro.

Dylech gefnogi pobl ifanc hefyd pan fydd eu ffrindiau’n symud ymlaen o’r cartref a chydnabod bod hyn yn golygu colli perthynas ystyrlon i rai ohonynt. Os yw’r plant yn dymuno hynny, a’i fod yn ddiogel, bydd yn bwysig parhau i gefnogi cyfeillgarwch rhwng plant wedi iddynt symud ymlaen.

Adnoddau defnyddiol

Ein gwaith i gefnogi plant sy’n derbyn gofal

Ymchwil ein bod ni wedi’u dewis neu ‘guradu’

It’s not just about the adults! – Judy Furnivall o Ganolfan Ragoriaeth Plant sy’n Derbyn Gofal yn trafod pa mor bwysig yw hi i blant mewn cartrefi feithrin y gallu i ymdrin â pherthnasoedd rhyngddyn nhw a’i gilydd (Saesneg yn unig).

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.