CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn cynnig ffordd o gael hyfforddiant, datblygu sgiliau a chymwysterau newydd tra byddwch yn gweithio ac yn ennill cyflog. Darganfyddwch fwy am sut i fod yn brentis, os ydych chi’n gyflogwr, sut i recriwtio prentis, ac os ydych chi’n ddarparwr dysgu, y broses ardystio.

Beth yw prentisiaethau?

Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn ac eisiau gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, mae prentisiaeth yn lle da i ddechrau.

Mae prentisiaethau yn cynnig ffordd o gael hyfforddiant, datblygu sgiliau a chymwysterau newydd tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog.

Caiff prentisiaid eu talu, fel cyflogeion eraill. Bydd eu cyflog yn dibynnu ar eu hoedran, profiad, sgiliau a gallu.

Mae prentisiaethau yn gyfuniad o gymwysterau galwedigaethol a sgiliau hanfodol (sy’n cynnwys llythrennedd a rhifedd, ac mewn rhai prentisiaethau, dewis opsiynol o sgiliau digidol) y gallwch eu hennill pan fyddwch chi’n gweithio naill ai ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Pa brentisiaethau sydd ar gael?

Mae prentisiaethau ar gael ar lefelau 2,3,4 a 5.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y prentisiaethau hyn, ond byddai angen i chi fod mewn rôl berthnasol sy’n gweddu i lefel y brentisiaeth rydych yn ymgymryd â hi.

Rolau enghreifftiol sydd ar gael ar wahanol lefelau:

Fel prentis lefel 2, gallech chi fod:

  • Yn weithiwr gofal gydag oedolion
  • Yn ymarferwr cynorthwyol gofal dydd neu mewn crèche.

Fel prentis lefel 3, gallech chi fod:

  • Yn weithiwr gofal a chymorth gyda phlant a phobl ifanc neu’n uwch weithiwr gofal a chymorth gydag oedolion
  • Yn ymarferwr gofal dydd neu crèche.

Fel prentis lefel 4, gallech chi fod:

  • Yn oruchwyliwr, arweinydd tîm, arweinydd ymarfer neu ddirprwy reolwr gwasanaeth gofal
  • Yn weithiwr gofal a chymorth gyda phlant a phobl ifanc neu’n uwch weithiwr gofal a chymorth gydag oedolion
  • Yn ddirprwy reolwr gofal dydd neu crèche.

Fel prentis lefel 5, byddech chi:

  • Yn rheolwr neu’n ddirprwy reolwr ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar ac yn Rheolwr Dechrau’n Deg ym maes gofal plant.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gwblhau prentisiaeth?

Mae cwblhau prentisiaethau yn anodd, felly mae’n anodd rhoi’r union amseroedd ar gyfer cwblhau. Canllaw yn unig yw’r canlynol:

  • Dylai gymryd tua 12 mis i gwblhau Prentisiaethau Lefel 2
  • Dylai gymryd tua 12 i 18 mis i gwblhau Prentisiaethau Lefel 3
  • Dylai gymryd rhwng 18 mis a 30 mis i gwblhau Prentisiaethau Lefel 4 a 5.

Byddwch yn cael Cynllun Prentisiaeth Unigol i asesu’r amser y bydd yn ei gymryd i chi gwblhau’ch prentisiaeth, a fydd yn edrych ar y canlynol:

  • beth rydych chi eisoes yn ei wybod
  • cymwysterau sydd gennych chi eisoes
  • profiad sydd gennych chi ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • cymorth y gallai fod ei angen arnoch chi.

Pa rolau sydd ar gael

Dysgwch am rolau yn y maesydd gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Gofalwn Cymru

Gwybodaeth am rolau a chyfleoedd swyddi ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Sut i ddod o hyd i brentisiaeth addas

Ewch i wefan Gyrfa Cymru i gael mwy o wybodaeth am sut i gael mynediad at brentisiaeth i ddiwallu’ch anghenion.

Gwybodaeth i gyflogwyr

Pan fyddwn ni’n datblygu prentisiaethau newydd neu’n adolygu prentisiaethau sy’n bodoli eisoes, rydym yn ymgynghori â chyflogwyr i helpu i ni nodi’r sgiliau sydd eu hangen yn y gweithlu.

Ein rôl yw gwneud yn siŵr fod pob prentisiaeth yn dilyn Manyleb Safonau Prentisiaethau yng Nghymru.

Bydd cyflogwyr yn gyfrifol am:

  • recriwtio prentis (gall darparwr hyfforddiant helpu â hyn)
  • sicrhau bod gwiriadau cyn cyflogaeth yn eu lle, yn cynnwys gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Gweler canllawiau’r llywodraeth
  • talu prentis cyflogedig
  • darparu profiad dysgu addas, gweler ein canllaw lleoliad gwaith defnyddiol
  • hyfforddi’r prentis
  • gwneud yn siŵr fod gan y prentis amser ar gyfer dysgu
  • adolygu cynnydd y prentis.

Rhoddir cyflogau i brentisiaid, fel unrhyw gyflogeion eraill. Bydd eu cyflog yn dibynnu ar eu hoedran, profiad, sgiliau a gallu.

Mae Busnes Cymru yn darparu gwybodaeth i gyflogwyr am y canlynol:

  • recriwtio prentis
  • sut i hysbysebu swydd wag sy’n addas i brentis
  • cyllid sydd ar gael i’ch cynorthwyo wrth gyflogi prentis.

Manylion am bob fframwaith prentisiaeth

Mae’r manylion am y fframweithiau amrywiol ar gyfer gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, sy’n amlinellu’r gofynion cymwysterau a sgiliau hanfodol ar gyfer pob un o’r prentisiaethau, ar gael isod:

Gwybodaeth ar gyfer ardystio darparwyr dysgu

Mae’r manylion am yr holl fframweithiau prentisiaeth gofal plant neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gael ar wefan Ardystio Prentisiaethau Cymru (ACW).

Gall darparwyr dysgu gofrestru eu canolfan gydag ACW. Ar ôl cwblhau cofrestriad yn llwyddiannus, byddwch yn cael neges e-bost gennym i gadarnhau.

Mae ACW yn ei gwneud yn bosibl i ddarparwyr hyfforddiant:

  • wneud cais am dystysgrifau prentisiaeth
  • bodloni’r rheolau a’r gofynion sicrhau ansawdd.

Ein rôl yn Gofal Cymdeithasol Cymru yw helpu gwirio tystiolaeth i wneud yn siŵr ei bod yn bodloni’r safonau gofynnol. Wedyn, rydym yn anfon tystysgrifau i ddarparwyr dysgu sydd wedyn yn dyfarnu’r brentisiaeth i’w dysgwyr.

Mae tair rhestr wirio tystiolaeth (ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, ar gael yn Gymraeg yn fuan) i’w defnyddio tra’n ardystio prentisiaethau ar ACW. Maent ar gyfer fframweithiau yn y canlynol:

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r Rhestr Wirio Tystiolaeth neu gymwysterau dirprwy.

Sut i greu cyfrif ACW ar-lein

Rheolir Ardystio Prentisiaethau Cymru (ACW) gan Ffederasiwn Sgiliau a Safonau’r Sector Diwydiant ac nid gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

I greu cyfrif ar-lein:

  • cofrestrwch eich Canolfan ar ACW
  • ychwanegwch eich manylion
  • dewiswch ‘Gofal Cymdeithasol Cymru’ o’r ddewislen ‘corff cysylltiedig’
  • bydd ACW yn ein sbarduno i roi manylion mewngofnodi i chi. Ein nod yw ysgogi ceisiadau mewngofnodi o fewn 3 diwrnod gwaith
  • bydd neges e-bost yn cael ei hanfon atoch chi gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair.

Sylwer: nid ydym yn rhoi manylion mewngofnodi ACW ar wahân ar gyfer gwahanol fframweithiau. Bydd y manylion mewngofnodi gweinyddu yn eich galluogi i greu 5 enw defnyddiwr a chyfrinair unigol ar gyfer staff yn eich sefydliad.

I gael mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio ACW, ewch i wefan ACW. I gael rhagor o arweiniad, cysylltwch ag ACW yn uniongyrchol, trwy anfon neges i acw@fisss.org neu drwy ffonio, ar 0300 303 4444.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig