CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Dulliau Cadarnhaol: lleihau arferion cyfyngol mewn gofal cymdeithasol

Mae’r adnodd dysgu yma a’r bwriad o ddarparu dealltwriaeth o sut i ddefnyddio dulliau positif a rhagweithiol i leihau’r defnydd o ymarferion cyfyngol mewn gofal cymdeithasol.

Er ei fod wedi'i fwriadu ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, mae hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer:

  • pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'u teuluoedd
  • rheolwyr
  • cyflogwyr
  • llunwyr polisïau
  • comisiynwyr
  • y rhai sydd mewn addysg
  • eraill sy'n gweithio yn y gymuned, gan gynnwys gofal sylfaenol a’r gwasanaethau brys.

Mae'r adnodd yn cefnogi arfer gorau gan ddefnyddio enghreifftiau a senarios. Gellir ei ddefnyddio:

  • wrth oruchwylio ac arfarnu
  • fel rhan o raglenni sefydlu
  • fel sesiynau hyfforddi
  • i oleuo polisi a phrotocolau
  • fel rhan o archwilio a sicrhau ansawdd
  • fel sail i gomisiynu.

Mae'r adnodd wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gyda'r sector gofal cymdeithasol. Mae wedi’i adolygu gyda’r sector gofal cymdeithasol yn unol â Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol Llywodraeth Cymru.

Mae wedi'i strwythuro ar sail gwerthoedd ac egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â'r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.