Pam ei bod hi’n bwysig defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle?
Drwy wella sgiliau iaith Gymraeg, gwybodaeth a dealltwriaeth y gweithlu o ddwyieithrwydd, rydym ni’n gallu cynnig gwasanaethau gofal gwell i bawb.
Mae manteision defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle’n cynnwys:
- dileu’r perygl o ynysu unigolion drwy fethu â darparu gwasanaethau yn yr iaith maen nhw’n ei ffafrio
- osgoi cwynion posibl am wasanaethau Cymraeg gwael neu ddiffygiol yn cael eu gwneud i Gomisiynydd y Gymraeg
- sicrhau safonau cydraddoldeb drwy ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg
- asesu anghenion unigol drwy gyfathrebu â defnyddwyr y gwasanaeth yn eu dewis iaith hyrwyddo enw da eich sefydliad drwy gynnig gwasanaeth dwyieithog.
Polisi a deddfwriaeth iaith Gymraeg
Yn dilyn deddfwriaeth a datblygiadau mewn polisi iaith, mae angen i ddarparwyr gwasanaethau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod ganddynt drefniadau staffio cymesur, priodol a digonol ar waith i ddarparu gwasanaeth gofal dwyieithog.
Mae deddfwriaeth bellach yn sefydlu Safonau Iaith newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y Safonau Iaith hyn yr un mor berthnasol i gyrff, asiantaethau, cwmnïau a sefydliadau trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau gofal ar ran cyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol.
Mae deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru yn ei gwneud hi’n ofynnol i wasanaethau Cymraeg mewn gofal cymdeithasol fod:
- o'r un safon ac ar gael mor rhwydd a phrydlon â gwasanaethau Saesneg
- mor eang a thrylwyr
- ni ddylai sefydliadau dybio mai Saesneg yw'r iaith ddiofyn wrth ddarparu eu gwasanaethau
- ni ddylai fod angen i siaradwyr Cymraeg ofyn am wasanaeth yn Gymraeg.
Beth yw 'Mwy na geiriau'?
‘Mwy na geiriau’ yw Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Iaith Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ei nod yw
- sicrhau bod anghenion ieithyddol siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu
- darparu gwasanaeth Cymraeg i'r rhai sydd ei angen
- dangos bod iaith yn chwarae rhan bwysig o ran ansawdd gofal ac nad yw'n cael ei ystyried yn “ychwanegiad”.
Dyma ddull rhagweithiol o ran dewis ac angen iaith yng Nghymru, sy’n rhoi'r cyfrifoldeb dros sicrhau gwasanaethau Cymraeg ar ddarparwyr gwasanaethau yn hytrach na’r unigolyn sy'n defnyddio’r gwasanaethau.
Mae gan y rhai sy’n siarad Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ran i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i bedwar grŵp blaenoriaeth y mae gwasanaethau Cymraeg yn arbennig o bwysig iddynt. Sef:
- plant
- pobl hŷn
- pobl ag anableddau dysgu.
- pobl â phroblemau iechyd meddwl.
Mae'r grwpiau blaenoriaeth hyn yn arbennig o agored i niwed os na fyddan nhw’n derbyn gofal yn yr iaith o’u dewis.
Beth yw’r ‘Cynnig Rhagweithiol’?
Ystyr ‘Cynnig Rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i ddefnyddwyr gymaint â’r Saesneg.
Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol yn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a'u diwallu, a bod y rhai sy'n defnyddio’r gwasanaethau gofal yn gallu dibynnu ar gael eu trin â’r parch ac urddas maen nhw’n ei haeddu.
Gall peidio â chynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol arwain at beryglu urddas a pharch pobl.



Sut i asesu sgiliau iaith Gymraeg
Mae'r adnodd 'Sgiliau Iaith Gymraeg yn eich gweithlu - eu defnyddio'n effeithiol' wedi ei gynllunio i gefnogi 'Mwy na Geiriau' trwy helpu cyflogwyr a rheolwyr nodi pa lefel sgiliau Cymraeg sydd gan eu gweithwyr.


Rydym hefyd wedi datblygu pecyn ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant sy'n seiliedig ar egwyddorion 'Mwy na Geiriau'.

Mae'r pecynnau hyn yn helpu gwneud defnydd effeithiol o sgiliau iaith fel y byddech ag unrhyw sgil arall yn y gweithle, er budd a lles pobl sy'n defnyddio'ch gwasanaethau.
Cefnogi’r gweithlu â rhaglen 'Cymraeg Gwaith'
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw y bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.
Fel rhan o’r uchelgais genedlaethol honno, rydym ni’n gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar raglen i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.
Nod y rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’ newydd yw hyfforddi'r gweithlu a rhoi hyder iddynt gynnal sgyrsiau yn Gymraeg â'r rhai maen nhw’n eu helpu.
Mae tystiolaeth a phrofiad yn dweud wrthym fod galluogi unigolion i siarad yn eu dewis iaith yn ein galluogi i gyrraedd ‘craidd y mater’ yn llawer mwy effeithiol a chyfforddus.
Sut fydd Cymraeg Gwaith yn eich helpu chi?
- Bydd gennych chi hyder i ddefnyddio'r Gymraeg â'r bobl rydych chi'n eu cefnogi yn eich gwaith
- Byddwch yn gwella eich sgiliau Cymraeg ar gyfer rhagolygon cyflogaeth y dyfodol a rhwydweithio cymdeithasol
- Bydd eich sefydliad yn elwa o allu hyrwyddo ei ymglymiad â’r rhaglen Cymraeg Gwaith ac yn gwella'r gwasanaethau mae'n eu cynnig
- Gall unigolion a theuluoedd sy'n cael cymorth ddefnyddio’r iaith maen nhw’n ei ffafrio, sy'n caniatáu iddynt weithio gyda chi i gael canlyniadau cadarnhaol.
Beth sydd ar gael?
- Offeryn ar-lein sy'n mesur eich gallu i ddeall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
- 100 awr o gyrsiau ar-lein
- Cyrsiau wyneb-yn-wyneb.
Pryd allwch chi ddechrau?
I gael gweld yr adnoddau hyn ac i gael rhagor o wybodaeth am raglen ‘Cymraeg Gwaith’ cysylltwch â liz.kingjones@gofalcymdeithasol.cymru
Noder bod y rhaglen hon yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu bod y cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim.
Adnoddau i’ch helpu yn y gweithle
Mae’r porth termau yn cynnwys y geiriaduron termau sydd wedi’u datblygu yn y Ganolfan Safoni Termau a phartneriaid cymeradwy eraill mewn un gwefan hawdd ei chwilio.
Mae hefyd apiau i’ch helpu i gefnogi defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.


Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda phrifysgolion ledled Cymru i ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr.
Mae Dysgu drwy’r Gymraeg yn y Gweithle yn rhoi cyfleoedd ac adnoddau i ddysgu Cymraeg, cynyddu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg a chael hyfforddiant yn y gweithle yn Gymraeg.
Mae Cymorth Cymraeg: Rhoi'r iaith ar waith yn helpu gyda gwersi Cymraeg eu hiaith, ysgrifennu, a lefel uwch. Mae yna hefyd adnoddau meddalwedd fel gwiriwr gramadeg a sillafu, geirfa a mwy.
Mae Canolfan Bedwyr Bangor yn darparu cyfres o gyrsiau datblygu sgiliau iaith Gymraeg i bobl sy'n gweithio mewn addysg yn ogystal â chyrsiau sy'n agored i bawb.
Mae'n haws nag erioed i ddysgu Cymraeg. P'un a ydych am ddysgu ar-lein, mynychu dosbarth nos neu ddilyn cwrs preswyl dwys, mae rhywbeth i chi. Dysgwch fwy gyda Dysgu Cymraeg.
Mae 23 o Fentrau Iaith ar draws Cymru yn darparu cyfleoedd i bob oedran ar draws y wlad ddefnyddio'r Gymraeg.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn Cysylltwch â ni.