Rydyn ni’n cynnal sesiynau cyfarfod ar-lein misol, paned a seibiant, ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal plant a dirprwy reolwyr.
Mae’r sesiynau galw heibio hyn yn gyfle i siarad â rheolwyr cartrefi gofal plant eraill ledled Cymru i ddod o hyd i gefnogaeth a rhannu syniadau. Maent wedi’u cynllunio i gysylltu pobl sy’n deall y pwysau dydd i ddydd o reoli cartref gofal plant ac i gefnogi eu llesiant. Mae croeso i unrhyw un mewn rôl reoli, gan gynnwys dirprwy reolwyr, ddod i unrhyw nifer o sesiynau ac nid oes rhaid iddynt ddod i bob un.
Mynnwch baned ac ymunwch â ni ar Zoom ar unrhyw un o'r dyddiadau canlynol:
Am fwy o wybodaeth am y sesiynau, cysylltwch â Bec Cicero ar llesiant@gofalcymdeithasol.cymru neu anfonwch neges destun at 07780993649.