Rydym yn cynnal sesiwn yn canolbwyntio ar fframwaith Llywodraeth Cymrulleihau arferion cyfyngol ar 22 Mawrth.
Yn ystod y sesiwn byddwn yn:
- ystyried y strwythur cymhwyster presennol a'r unedau y gellir eu hastudio sy'n gysylltiedig â lleihau arferion cyfyngol
- clywed gan Dawn Cavanagh, mam gyda mab sydd wedi cael profiad o ataliaeth
- clywed gan yr Athro Edwin Jones, Arweinydd Strategol Cefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol gyda Bild Positive Behaviour Support, er mwyn archwilio ymarfer da er mwyn lleihau arferion cyfyngol.
Bydd cyfleoedd i drafod gyda chydweithwyr drwy gydol y gweithdy.
Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Cheryl Stevens yn cheryl.stevens@gofalcymdeithasol.cymru.