Rydyn ni'n rhedeg sesiwn ar ddulliau cadarnhaol o weithio i leihau ymarfer cyfyngol ar 19 Ionawr ar gyfer darparwyr dysgu, a chyflogwyr a rheolwyr o fewn lleoliadau gofal cymdeithasol.
Yn y sesiwn, byddwn ni'n adlewyrchu ar 'Fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol' Llywodraeth Cymru a chlywed gan fam unigolyn sydd wedi profi defnydd o arferion cyfyngol. Byddwn ni hefyd yn ystyried ein hadnodd diwygiedig 'Dulliau cadarnhaol: Lleihau arferion cyfyngol'.