Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r sesiwn olaf o dri digwyddiad rhwydwaith ymarfer gorau. Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar ymarfer myfyriol ac ysgrifennu'n fyfyriol. Mae hwn wedi'i nodi fel maes ble gall ddarparwyr dysgu yn y gweithle, a sefydliadau addysg bellach sy'n cyflwyno'r cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae, dysgu a datblygu plant rhannu ymarfer da.
Mae'r sesiwn wedi'i hanelu at ddarparwyr dysgu. Gwahoddir un cynrychiolydd o bob canolfan gymeradwy i gofrestru, gan ddisgwyl y bydd y person hwn yn rhoi adborth i eraill yn ei sefydliad.