Bydd angen miloedd yn fwy o bobl i weithio mewn rolau gofalu gydag oedolion a phlant yng Nghymru erbyn 2030 er mwyn bodloni’r galw cynyddol am wasanaethau gofal a darparu cymorth i gymunedau ledled y wlad.
Ym mis Mawrth 2019, lansiwyd ymgyrch ‘Gofalwn’ i godi ymwybyddiaeth o'r galw cynyddol am weithwyr gofal.
Os ydych chi'n mynychu'r Sioe Frenhinol, ymunwch â Gofal Cymdeithasol Cymru a Chyngor Sir Powys i ddysgu mwy am yr ymgyrch a gwaith Cyngor Sir Powys yn ymgysylltu â gweithwyr gofal.
Fe fydd y digwyddiad hefyd yn darparu cyfle i drafod yr heriau a chyfleoedd wrth recriwtio a chadw gweithwyr gofal yng Nghymru gwledig.
Mae siaradwyr wedi’u cadarnhau yn cynnwys Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sue Evans, y Cadeirydd, Arwel Ellis Owen OBE, a Phennaeth Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys, Dylan Owen.
I gael rhagor o wybodaeth, ac i archebu eich lle, cysylltwch â Iwan Williams