Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnal gweithdy tair awr ym mis Chwefror i helpu i lywio cynllun newydd ar gyfer caffael Cofnodion Gweinyddu Meddygol electronig (eMars) i gefnogi'r gwaith o reoli meddyginiaethau mewn cartrefi gofal.
Nod y gweithdy yw trafod a meddwl am y canlynol:
- ble bydd yn gweithio?
- sut bydd yn gweithio?
- pa gymorth sydd angen ei roi ar waith?
Caiff y prosiect ei lywio gan dystiolaeth o ddiogelwch cleifion gwell ac arbedion effeithlonrwydd yn sgil:
- treialu datrysiad rheoli meddyginiaethau digidol mewn cartrefi gofal, wedi’i werthuso gan Brifysgol Caerdydd
- y gofynion a nodir yn NHS Care Home Support and Medicines Optimisation: Community Pharmacy National Enhanced Services paper (2018)
- argymhellion o arfer gorau gan grwpiau partner.
Archebu lle: