Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal chwe digwyddiad ar y cyd lle byddwch yn gallu cyfrannu at y cam nesaf o weithredu'r strategaeth gweithlu 10 mlynedd.
Bydd y digwyddiadau chwe hanner diwrnod, wyneb-yn-wyneb, yn cael eu cynnal ar dri diwrnod:
- Dydd Llun, 20 Mehefin yn Venue Cymru, Llandudno
- Dydd Llun, 11 Gorffennaf yng Nghanolfan Halliwell, Caerfyrddin
- Dydd Iau, 14 Gorffennaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
Bydd pob un o'r diwrnodau'n cynnwys dau ddigwyddiad: un yn y bore (9am i 12.30pm) a'r llall yn y prynhawn (1pm i 4.30pm).
Bydd digwyddiadau'r bore yn ymdrin â'r meysydd canlynol:
- gweithlu ymgysylltiedig, brwdfrydig ac iach
- atyniad a recriwtio
- arweinyddiaeth ac olyniaeth
- cyflenwad a siâp y gweithlu
- llesiant.
A bydd digwyddiadau'r prynhawn yn canolbwyntio ar:
- modelau gweithlu di-dor
- adeiladu gweithlu sy'n barod am y byd digidol
- addysg a dysgu rhagorol
- cynhwysiant
- y Gymraeg.
Mae croeso i chi ymuno â ni mewn digwyddiad bore a phrynhawn; fodd bynnag, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y ddau ddigwyddiad.
I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ar gyfer y digwyddiad yr hoffech ei fynychu:
Dydd Llun, 20 Mehefin yn Venue Cymru, Llandudno
Dydd Llun, 11 Gorffennaf yng Nghanolfan Halliwell, Caerfyrddin
Dydd Iau, 14 Gorffennaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd