Ymunwch â ni i drafod trefniadau neu newidiadau newydd sy'n ymwneud â:
- ffyrdd o gofrestru ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr cymorth canolfannau teulu preswyl
- canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal i oedolion
- ffordd newydd i weithwyr gofal preswyl plant fod yn gymwys i gofrestru
- ffordd fwy hyblyg o gydnabod gweithiwr gofal cymdeithasol fel rheolwr at ddibenion cofrestru
- talu ffioedd ym mlynyddoedd dau a thri o'r cofrestriad
- symleiddio categorïau gweithwyr ar y Gofrestr.
Bydd sesiynau'r prynhawn yn adeiladu ar drafodaethau o'r bore trwy ddatblygu dealltwriaeth o sut mae 'Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' a'r cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol newydd yn bwydo i mewn i, ac yn cefnogi, unrhyw newidiadau posibl i'r gofynion ar gyfer cofrestru.
Bydd hefyd yn helpu cyfranogwyr i ddeall yr hyn a ddisgwylir gan reolwyr a chyflogwyr, gan archwilio atebion i unrhyw heriau a nodwyd sy'n gysylltiedig â sefydlu a chymwysterau.
Nid yw'r gweithdai hyn wedi'u targedu at ddarparwyr dysgu, aseswyr na dilyswyr. Mae'r consortiwm yn cynnal digwyddiadau ar gyfer y grwpiau penodol hynny.