Mae’r gweithdy yma ar gyfer cyflogwyr, rheolwyr, unigolion cyfrifol ac unrhyw un sydd â chyfrifoldeb am gefnogi rheolwyr gofal cymdeithasol newydd.
Yn y gweithdy hwn, byddwch chi’n dysgu beth yw cynnwys a phwrpas y fframwaith, a sut i’w cwblhau.
Byddwn yn rhannu deunyddiau i helpu chi ddefnyddio’r fframwaith.
Byddwn hefyd yn edrych ar ofynion cymwysterau ar gyfer rheolwyr cofrestredig a sut i ddefnyddio’r fframwaith mewn un o’r llwybrau hyblyg i gofrestru.
Fe fydd cyfle i edrych fwy ar gynnwys ac anghenion y cymwysterau Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.
Cadwch eich lle ar Eventbrite.