Rydyn ni’n cynnal gweithdy am 2-4pm ar gyfer rheolwyr a chyflogwyr sefydliadau gofal cymdeithasol sy’n cefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau.
Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio beth yw'r cymwysterau newydd ar lefelau 2 i 5 mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac yn edrych ar eu cynnwys, eu strwythur a sut y cânt eu hasesu.
Fydd y gweithdy hwn yn esbonio beth sydd angen gan reolwyr a chyflogwyr i gefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau. Fydden ni’n cyflwyno’r Canllaw Ymarfer Da ar gyfer Dysgwyr, Cyflogwyr a Rheolwyr a darparu ‘top tips’ ar sut i gefnogi cwblhau’r cymwysterau.
Fe fydd cyfle i edrych yn bellach ac i drafod y cymwysterau yn bellach gyda rheolwyr eraill mewn grwpiau rhyngweithiol llai.