Bydd y gweithdai hyn yn edrych ar sut y gallwn ni wella’r ffordd rydym yn cyfathrebu â phobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.
Rydym yn awyddus i weithio gydag eraill i nodi’r ffordd orau o ymgysylltu pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn ein gwaith.
I wneud hyn, rydym yn gobeithio mapio’r rhwydweithiau a’r grwpiau sydd ar gael ar hyn o bryd (gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol) a’r ffordd orau o gysylltu â’r grwpiau hynny.
Rydym yn awyddus i ddefnyddio’r digwyddiadau hyn i’n helpu i feithrin ein dealltwriaeth, ac i’n helpu ni i gyd weithio gyda’n gilydd i rannu cyfleoedd a gwneud y cysylltiadau gorau posibl.
Bydd y gweithdai hyn yn archwilio:
- adeiladu pwrpas a rennir ledled Cymru
- y ffyrdd presennol y byddwn yn ymgysylltu â phobl â dementia a theuluoedd, gan gynnwys y cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol
- nodi a gweithio gyda rhwydweithiau lleol
- adeiladu seilwaith parhaus ar gyfer ymgysylltu.
Bydd y gwaith hwn yn helpu’r Grŵp Cenedlaethol Dysgu a Datblygu Dementia i lunio cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu, ac mae’n cysylltu â Chynllun Gweithredu Dementia Cenedlaethol Cymru.
Os oes diddordeb â chi mewn mynychu'r gweithdai, gallwch archebu eich lle trwy ddefnyddio'r dolenni isod: