Roedd ein cynhadledd blynyddoedd cynnar a gofal plant ar 2 Mawrth eleni yn canolbwyntio ar ‘lesiant a gwytnwch o fewn gweithlu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant’. Roedd yn dathlu ac yn cydnabod gwaith y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant drwy gydol y pandemig ac yn cydnabod yr anawsterau y mae lleoliadau wedi’u hwynebu.
Ochr yn ochr â’r gynhadledd, byddwn yn cynnal tri gweithdy gyda’r nos rhwng 6.20pm a 7.40pm ar 9 Mawrth am y Gymraeg, hawliau plant, a chynefino a chymwysterau.