Rydym yn cynnal sesiwn wybodaeth ar y canlyniadau dysgu newydd rydym wedi'u datblygu o ddementia a cholli clyw. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phobl a theuluoedd o'r gymuned d/Byddar y mae dementia yn effeithio arnynt.
Mae'r rhain wedi'u cynllunio i'ch cefnogi yn eich gwaith, yn enwedig os ydych chi'n datblygu dysgu yn eich sefydliad am ddementia a cholled clyw.
Bydd y canlyniadau dysgu newydd yn rhan o'r Fframwaith Dysgu a Datblygu Gwaith Da.
Bydd y sesiwn yn:
- gwella'ch ymwybyddiaeth a'ch dealltwriaeth o ddementia a cholled clyw
- egluro'r canlyniadau dysgu newydd
- eich cyfeirio at adnoddau defnyddiol.
Mae'r sesiwn hon yn agored i unrhyw un ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd, gan gynnwys darparwyr trydydd sector a darparwyr annibynnol. Mae croeso hefyd i ofalwyr teuluol.
Cadwch eich lle ar Eventbrite.