Rydyn ni’n cynnal sesiwn ymarferol am 10am i 11am ar 29 Medi 2021 mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar.
Bydd y sesiwn yn rhoi gwybodaeth am Gymunedau Digidol Cymru a'i gwaith, gan gynnwys ei hyfforddiant am ddim a'i fenthyciadau offer digidol.
Bydd hefyd yn ymdrin â sut i ddefnyddio technoleg mewn ffordd hwyliog a gafaelgar gyda phlant a phobl ifanc, ac yn rhoi syniadau ac awgrymiadau ar gyfer defnyddio technoleg yn fwy hyderus.
Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn ar 29 Medi 2021