Rydyn ni’n cynnal pump o ddigwyddiadau cyfnewid ymarfer ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn cartrefi plant neu sy’n ymwneud â chefnogi’r plant a phobl ifanc sy’n byw yna.
Bydd y digwyddiadau yn gyfle i rannu ymarfer da, dysgu beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd rhaid i ni wneud i wella gofal a chymorth i blant a phobl ifanc.
Gan adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau ac adborth y llynedd, bydd cyfleoedd i chi:
- rwydweithio gyda chydweithwyr o ystod o sefydliadau
- dysgu am ganlyniadau adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru
- archwilio sut y gallwn ni fynd i’r afael â rhai o’r heriau.
Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal ar:
- Dydd Mawrth, 8 Hydref – The Heritage Park Hotel, Pontypridd
- Dydd Iau, 10 Hydref – Greenmeadow Golf & Country Club, Cwmbrân
- Dydd Mawrth, 15 Hydref – Canolfan Catrin Finch, Wrecsam
- Dydd Mercher, 16 Hydref – Venue Cymru, Llandudno
- Dydd Iau, 7 Tachwedd – The Towers Hotel, Abertawe
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch Vivienne Davies yn vivienne.davies@gofalcymdeithasol.cymru neu ar 02920 780569.