A oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am oblygiadau Brexit ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol
Mae Digwyddiad Brexit a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod ar 14 Chwefror 2019 fel rhan o Raglen Cefnogi Pontio Brexit Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Bydd y digwyddiad yn:
- rhoi gwybod i chi am oblygiadau posib Brexit i wasanaethau gofal cymdeithasol
- rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd ar fynd i baratoi ac ymateb i'r goblygiadau hynny
- nodi camau a gweithgareddau pellach y gall fod eu hangen gan sefydliadau unigol a chyrff cenedlaethol i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi paratoi yn briodol i ymateb i wahanol senarios Brexit.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu ar y cyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS), Fforwm Gofal Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru.
Os oes diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad, archebwch eich lle ar-lein.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Iau, 31 Ionawr 2019.