Rydyn ni'n cynnal ein Cynhadledd Gofal Preswyl i Blant 2022 am 9.30am i 12.30pm ar 15 Mawrth. Bydd y digwyddiad hwn yn croesawu ymarferwyr ac arweinwyr o bob rhan o’r sector gofal plant i ymuno â ni ar-lein i ddathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc dros y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd y digwyddiad ar-lein hwn yn gyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr a hen ffrindiau, ystyried beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen i ni ei wneud i wella'r ansawdd y gofal a ddarperir i blant a phobl ifanc. Bydd y gynhadledd hefyd yn cydnabod ac yn dathlu ymrwymiad a llwyddiant y sawl sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.
Bydd y gynhadledd yn cael ei chadeirio ar y cyd gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gan roi cyfle iddynt rannu eu profiadau.
Rydym yn cynnal y gynhadledd hon ar blatfform Digilounge. Unwaith y byddwch wedi archebu eich lle, byddwch yn derbyn dolen i gael mynediad i blatfform Digilounge. Trefnwch eich cofrestriad Digilounge cyn diwrnod y digwyddiad. Bydd cyfarwyddiadau ymuno llawn yn cael eu hanfon at yr holl fynychwyr.
Rydyn ni'n defnyddio'r hashnod #ymlaeni'rdyfodol ar ein postiadau cyfryngau cymdeithasol am y gynhadledd hon.