Rydyn ni'n cynnal y gynhadledd blynyddoedd cynnar a gofal plant ar 2 Mawrth 2022. Thema'r gynhadledd yw lles a gwydnwch yn y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Dewisasom y thema hon i gydnabod bod 2021/2022 wedi bod yn flwyddyn heriol i'r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant. Rydym yn deall pwysigrwydd cydnabod y gwaith caled a'r gwydnwch y mae lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant a gweithwyr gofal plant wedi'i ddangos a dathlu sut y maent wedi cyflawni trwy'r amseroedd mwyaf heriol.
Bydd pedwar gweithdy yn y gynhadledd, anfonir mwy o wybodaeth am y rhain atoch unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad.